Agenda item

Eitemau i'w gohirio

Cofnodion:

Cyn ystyried yr eitemau a argymhellwyd i’w gohirio, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y materion canlynol:-

 

  • Mae hyfforddiant wedi’i ddarparu gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn ddiweddar ond dim ond un dyddiad oedd wedi’i ddarparu ar gyfer yr Aelodau. Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog yn derbyn copi o’r cyflwyniad ac yn ail-ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr Aelodau oedd wedi methu bod yn bresennol.  Roedd dyddiad ar gyfer yr hyfforddiant wedi’i drefnu ar gyfer 12 Gorffennaf am 5.30pm a byddai cadarnhad yn cael ei anfon at yr Aelodau ar e-bost maes o law.
  • Byddai Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn e-bost gan yr Uwch Gyfreithiwr yn nodi bod penderfyniad blaenorol gan y Pwyllgor Cynllunio ar  Dollar Park wedi’i ystyried gan y Llys Apêl. Ni fu amser i ychwanegu’r adroddiad i’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn, felly byddai'r penderfyniad yn cael ei adrodd yng nghyfarfod mis Mehefin. Roedd y penderfyniad yn cyfiawnhau holl waith y Swyddog Cynllunio ar y cais hwn.
  • Byddai Aelodau’r Pwyllgor hefyd wedi derbyn e-bost gan y Rheolwr Datblygu yn egluro penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar ddatgymhwysiad paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1 a faint o bwysau a roddir i ddiffyg cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygiad preswyl. Daw ymgynghoriad LlC i ben ar 21 Mehefin ac fe gynigiwyd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Gr?p Cynllunio Strategol ar 15 Mehefin i gytuno ar ymateb i'r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.  

 

            Nododd y Cynghorydd Richard Jones benderfyniad diweddar  y Llys Apêl, fel y nodwyd uchod, ac awgrymodd, gan nad oedd Emma Hancock, y Swyddog Cynllunio a ymdriniodd â’r cais, yn gweithio i’r Awdurdod mwyach, dylid anfon llythyr ati yn diolch iddi am ei gwaith ac yn ei hysbysu o’r penderfyniad, a oedd yn bwysig o ran safbwynt broffesiynol.  Cytunodd y Pwyllgor bod y Cadeirydd yn anfon llythyr at Emma Hancock yn dilyn y cyfarfod.

 

            Nododd y Cynghorydd Chris Bithell ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ddiweddar, ac fe gyhoeddwyd y byddai Polisi Cynllunio TAN 1 yn cael ei  atal. Roedd wedi croesawu’r cyhoeddiad ond nododd mai dim ond ymgynghori ar ddatgymhwyso yr oedd LlC. Anogodd yr holl Aelodau i ymateb yn unigol i’r ymgynghoriad.

 

            Holodd y Cynghorydd Jones, o ystyried y gallai Polisi Cynllunio TAN 1 gael ei atal, a oedd modd ail-archwilio ceisiadau cynllunio lle y rhoddwyd pwysau i’r Polisi hwn ac y rhoddwyd caniatâd ond na roddwyd tystysgrifau eto. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr holl geisiadau yn cael eu hadolygu yn sgil ymgynghoriad LlC. Ar gyfer ceisiadau cynllunio lle bo’r Pwyllgor wedi gwneud penderfyniad yn flaenorol, roedd y rhain wedi’u cymeradwyo yn unol â’r wybodaeth gywir ar y pryd. Anfonwyd llythyr at yr Arolygiaeth i dynnu sylw at atal TAN 1 ar gyfer unrhyw apeliadau sy’n cael eu hystyried. Cytunodd y byddai’n dosbarthu copi o restr o apeliadau sy’n aros am benderfyniad i’r Pwyllgor Cynllunio ar ôl y cyfarfod. Cadarnhaodd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd ymgynghori ar TAN 1 yn berthnasol i benderfyniadau cynllunio a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor.  

 

Eitemau i’w gohirio

 

Eitem 6.1 ar y Rhaglen – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl yn Megs Lane, Bwcle (057056).

 

            Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr eitem uchod wedi’i hargymell i’w gohirio. Cynghorodd hefyd bod yr eitem ganlynol wedi’i thynnu’n ôl.

 

Eitem 6.2 ar y Rhaglen – Cais Amlinellol i godi annedd yn Bayonne, Ffordd Hafod, Gwernaffield (058124)

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Jones bod yr eitem yn cael ei gohirio a chafodd ei eilio a’i gytuno gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod eitem rhif 6.1 ar y rhaglen yn cael ei gohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.