Agenda item

Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol - Adolygiad o'r Polisi

Pwrpas:         Ystyried opsiynau ar gyfer darpariaeth cludiant dewisol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol – Adolygu’r Polisi. Nid oedd y polisi dan sylw wedi’i adolygu ers tro.

 

                        Nid oedd unrhyw farn wedi'i llunio o flaen llaw yngl?n â’r polisi, a oedd angen bod yn deg ac yn gynaliadwy i'r dyfodol. Byddai unrhyw adolygiad yn gwbl niwtral, a’r nod fyddai ymchwilio i anghenion dysgwyr, eu hawliau a’u disgwyliadau, ac nid y costau a fforddiadwyedd yn unig. Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw gynigion i ddechrau codi tâl.

 

                        Roedd y Cyngor yn bendant ei ymroddiad at dwf addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai’n rhaid i unrhyw bolisi ategu’r amcan hwnnw, yn hytrach na mynd yn groes iddo. Roedd y Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ei Gynllun Strategol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg.  Roedd y Cyngor hefyd yn bendant o’r farn bod yn rhaid hwyluso mynediad at addysg ffydd drwy ddarparu cludiant hygyrch a fforddiadwy.

 

                        Roedd angen i Goleg Cambria a’r Cyngor, fel partneriaid, drafod polisi oedd yn deg, yn gyson, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ar gyfer mynediad at gludiant mewn addysg ôl-16 yn y dyfodol. Roedd llawer o awdurdodau lleol eraill eisoes wedi diwygio eu polisïau yn y maes hwn.

 

                        Nid oedd yn argymell adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol. Cynigiodd y dylid cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16, ynghyd â’r polisïau ar hawliau i Fudd-daliadau. Nid oedd unrhyw ganlyniadau wedi’u rhagderfynu ynghylch yr adolygiadau hynny, a thrwy'r drefn ymgynghori byddai’r Cyngor yn ystyried barn yr holl randdeiliaid a’r risgiau. Byddai’r Cabinet yn derbyn adroddiad llawn ar y drefn ymgynghori maes o law.

 

                        Lefel cymharol isel o gyllid oedd Cyngor Sir y Fflint yn ei dderbyn, ac roedd arno angen sicrhau digon o gyllid i gynnal y cymorthdaliadau’r oedd yn ei ddarparu ar gyfer cludiant. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn addysg yn y Gyllideb a’r Setliad i Lywodraeth Leol ar gyfer 2019/20, yn enwedig felly i hybu'r cynnydd y mae pawb yn dyheu amdano yn nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Bithell.

 

                        Soniodd y Cynghorydd Thomas am adroddiadau ar y newyddion nad oeddent yn wir nac yn fuddiol i’r cyhoedd. Cynigiodd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru gynnwys addysg feithrin hefyd yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr, ac ariannu hynny, a chefnogwyd y cynnig hwnnw.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dadlau y dylai unrhyw gyfrifoldebau newydd, fel cynyddu nifer y dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gael eu hariannu’n ddigonol gan Lywodraeth Cymru.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nad oedd y Cabinet yn cytuno y dylid adolygu’r hawl i gludiant ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, na’r hawl i gludiant ar gyfer ysgolion enwadol ar hyn o bryd.

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cynnal adolygiad o’r hawl i gludiant ar gyfer addysg ôl-16 a’r polisïau ar hawliau i fudd-daliadau; ac

 

 (c)       Y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru gynnwys addysg feithrin wrth adolygu'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, a darparu cyllid ar gyfer hynny.

Dogfennau ategol: