Agenda item

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint - Cynllun Lles

Pwrpas:  Cael cymeradwyaeth i Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth o Gynllun Lles terfynol Sir y Fflint, cyn ei gyhoeddi. Cynghorodd fod yr adroddiad wedi darparu trosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles (y Cynllun).

 

                        Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau. Crybwyllodd fod Sir y Fflint yn enwog am ei record o weithio mewn partneriaeth a dywedodd fod y Cynllun wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â Chynllun y Cyngor a rhoddodd aliniad cryf, sy’n ‘gweddu’ i’r blaenoriaethau. Byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir fel gofyniad statudol. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar y cyd gyda’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu a ymdriniodd â’r pwyntiau allweddol canlynol. Gwahoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), y Prif Swyddog (y Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) i adrodd ar y pum blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Lles.

 

·         aelodau statudol ac anstatudol (gwâdd)

·         y Cynllun Lles

·         sut datblygwyd y Cynllun

·         y pum blaenoriaeth:

o   Diogelwch Cymunedol

o   Economi a Sgiliau

o   Yr Amgylchedd

o   Byw yn Iach ac yn Annibynnol

o   Cymunedau Gwydn

·         y camau nesaf – datblygiad a chyhoeddiad y Cynllun Cyflawni

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Lles yn destun amrywiad ac argymhellwyd ei fod yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor fel cynllun statudol erbyn 4 Mai.

 

            Wrth symud yr argymhelliad, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr a’r swyddogion am y gwaith a wnaed gyda chydweithwyr mewn sefydliadau partner. Dywedodd fod amcanion y Cynllun Lles yn ychwanegol at Gynllun pum mlynedd y Cyngor ac nad oedd hi’n bosibl i’r Awdurdod gyflawni’r holl welliannau roedd eu heisiau heb weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y sector cyhoeddus. Rhoddodd ganmoliaeth i lefel y gwaith partneriaeth oedd yn cael ei wneud i gyflawni cyd-amcanion a chanlyniadau cadarnhaol er budd trigolion Sir y Fflint. Diolchodd yn benodol i’r Cynghorydd Billy Mullin a’r Prif Weithredwr am eu gwaith ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac am ddarparu arweinyddiaeth i’r Bwrdd a’r partneriaid. Gofynnodd i’r Aelodau gefnogi’r Cynllun a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gyflawni’r canlyniadau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am fanylion aelodaeth y Cyngor Sir ar y Bwrdd. Cyfeiriodd at y flaenoriaeth ar Economi a Sgiliau a’r angen i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyfleoedd gwaith. Dywedodd ei bod hi’n bwysig i fusnesau cymunedol gael y cyfle i gysylltu â’r Bwrdd i ddynodi’r sgiliau cyflogaeth yr oedd eu hangen yn eu busnesau. Cyfeiriodd at y wybodaeth am Ddiogelwch Cymunedol ar dudalen 58 yr adroddiad a chydnabyddodd y gwaith oedd yn mynd yn ei flaen. Awgrymodd fod y wybodaeth yn cael ei chynnwys hefyd ar blismona cymunedol ac wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, a rhoddodd sylwadau ar y sicrwydd y oedd presenoldeb yr heddlu’n ei ddarparu o ran diogelwch a lles cyhoeddus. Awgrymodd y Cynghorydd Peers hefyd y dylai’r flaenoriaeth ar yr Amgylchedd fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cynllun datblygu lleol er mwyn adlewyrchu uchelgeisiau ac amcanion y Cynllun Lles a Chynllun y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at gynnig y Cyngor i ymestyn gofal preswyl ar safle Marleyfield ym Mwcle, y dywedodd y byddai’n lleddfu’r pwysau ar wasanaethau damweiniau ac argyfwng mewn ysbytai lleol ac roedd yn enghraifft o’r ffordd y gweithiodd y Cyngor mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y bu ganddo rai pryderon o gwmpas y cyswllt rhwng Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Lles. Cyfeiriodd at y cyfeiriad ym mharagraff 1.10 yr adroddiad, i roi adborth gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar Asesiad drafft Sir y Fflint a gofynnodd a allai copi o’r adborth gael ei ddarparu i Aelodau. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gweithdy i’r aelodau i gyd yn cael ei gynnal ar Gynllun y Cyngor ar 29 Mai, ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’w fabwysiadu gan y Cyngor yn ei ffurf derfynol yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Soniodd fod y swyddogion yn hyderus fod y cyswllt yn gryf ond dywedodd na ddylai cynllun partneriaeth ar y cyd gael ei or-reoli gan Gynllun y Cyngor. Cytunodd y Prif Weithredwr ddarparu copi o’r adborth i’r Cynghorydd Heesom ac Aelodau eraill ar gais.

 

Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton ar y flaenoriaeth Diogelwch Cymunedol a’r angen i bartneriaid fod ynghlwm wrth gasglu deallusrwydd yn ymwneud â gangiau troseddol wedi’u trefnu yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd hefyd at y flaenoriaeth Economi a Sgiliau a soniodd am y ffair swyddi ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a dywedodd y bu dros 500 o swyddi ar gael a oedd yn dangos ystod amrywiol y cyfleoedd gwaith a hyfforddiant sydd ar gael yn Sir y Fflint. Cymerodd y Cynghorydd Shotton y cyfle hefyd i dalu teyrnged i waith tîm Cymunedau yn Gyntaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers ar bwysigrwydd sicrhau bod yr Awdurdod a’i bartneriaid yn y sector cyhoeddus yn gytûn o ran dynodi’r sgiliau oedd yn ofynnol gan fusnesau lleol. Rhoddodd sicrwydd i’r Cynghorydd Peers y byddid yn mynd i’r afael â’i sylwadau ac y dylid cyflawni’r gwaith hwn trwy waith Bargen Twf Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Lles.

 

Dogfennau ategol: