Agenda item

Cofnodion

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Chwefror 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2018.

 

Materion yn codi:

 

Cofnod Rhif 66 – Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at drafodaeth a gafwyd am archwiliad cydweithio Sir y Fflint a gofynnodd a oedd unrhyw gynnydd i’w adrodd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yn Cyngor yn trafod â Llywodraeth Cymru a byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor pan yn hysbys.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Arnold Woolley sylw ar y broblem o dyllau mewn ffyrdd a gofynnodd a oedd modd darparu gwybodaeth am gost yr atgyweiriadau yn Sir y Fflint. Gofynnodd a fyddai’r cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau priffyrdd lleol yn ddigonol i gwmpasu’r gost neu a fyddai ‘bwlch’ y byddai’n rhaid i’r Awdurdod ei gyllido. Cynghorodd y Prif Weithredwr fod peth o’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan y Cyngor fel rhan o gynnal a chadw rheolaidd, gydag ansawdd y ffyrdd ar ôl y gaeaf yn cael eu hasesu gan y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’i dîm, a bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu i fynd i’r afael â’r atgyweiriadau mwyaf brys. Cyfeiriodd hefyd at y cyllid ‘un tro’ o £1.472m a dderbyniodd yr Awdurdod gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau priffyrdd lleol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y gwaith parhaus drwy CLlLC ac adroddodd bod Sir y Fflint, ynghyd ag awdurdodau, wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn dilyn difrod i ffyrdd ar ôl tywydd gaeafol. Dywedodd y byddai manylion am gais Sir y Fflint (am £200k neu fwy) yn cael eu dosbarthu maes o law.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at y cais gan y Cynghorydd Paul Johnson i ofyn a oedd modd ceisio unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio ffyrdd gwledig a oedd wedi’u difrodi gan draffig wedi’i ddargyfeirio o ganlyniad i waith ar yr A55. Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn rhan o drafodaethau parhaus yn ymwneud â Sir y Fflint yn cydweithio â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ac y byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl maes o law.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at y cynnig gan y Cynghorydd Richard Jones i’r Pwyllgor dderbyn adroddiad yn amlinellu effeithiau’r gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) a gofynnodd pryd fyddai hyn ar gael i’r Pwyllgor. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai ar gael yn y cyfarfod ym mis Ebrill.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryder o ran yr angen i ail wneud atgyweiriadau ar arwynebau ffyrdd gan fod yr un tyllau yn ail ymddangos.Cwestiynodd a oedd hyn oherwydd y deunyddiau a ddefnyddiwyd neu a oedd y gwaith a wnaed o safon annigonol. Gwnaeth yr Aelodau sylw ar y gwaith atgyweirio a wnaed gan gontractwyr ar ran cwmnïau cyfleustodau gan ofyn a oedd y gwaith wedi’i archwilio ar ôl ei gwblhau. Cydnabu'r Prif Weithredwr y pwyntiau a wnaethpwyd a dywedodd fod hwn yn fater i’w ystyried ymhellach gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd.

 

Ail-bwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd McGuill a dywedodd y dylai atgyweiriadau bara’n hirach nag ychydig wythnosau.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Hughes y tîm Strydwedd am y gwaith a wnaed i atgyweirio tyllau yn y ffyrdd, yn benodol o ganlyniad i’r tywydd garw a dywedodd, mewn rhai achosion, y gwnaethpwyd atgyweiriadau brys tan yr oedd modd gwneud atgyweiriadau parhaol.

 

Cofnod Rhif 68 – Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd wedi derbyn ymateb i’w gais am eglurder ar y ffigyrau cymharol ar gyfer gwariant gweithwyr asiantaeth a throsiant nad yw’n ymwneud ag ysgol o’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad chwarterol nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)                  Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd; a

 

 (b)                  Bod pryderon y Pwyllgor am dyllau ffyrdd sy’n ailymddangos a difrod i arwynebau ffyrdd o ganlyniad i waith haearn wedi’i osod yn is gan gwmnïau cyfleustodau, yn cael eu trosglwyddo i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd fel rhan o’i raglen waith.

 

Dogfennau ategol: