Agenda item
Ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn cytuno ar rota o ymweliadau a’r canllawiau er mwyn eu cynnal.
Cofnodion:
Gwnaeth y Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad i ystyried y dull i aelodau annibynnol y Pwyllgor gynnal ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned, fel a awgrymwyd yng nghyfarfod mis Ionawr. Yn dilyn cyfathrebu â Chynghorau Tref a Chymuned, dim ond un Cyngor Tref oedd wedi rhoi ymateb i groesawu’r ymweliadau. Ar y sail honno, gofynnwyd i aelodau roi ystyriaeth i p’un a oeddent am ohirio’r eitem wrth aros am ymgynghoriad pellach, neu fwrw ymlaen a rhoi ystyriaeth i’r canllawiau drafft yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Woolley fod y Pwyllgor yn derbyn yr argymhelliad a’r canllawiau fel a nodir yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.
Eglurodd Mrs. Julia Hughes mai nod yr ymweliadau oedd helpu i wella safonau a sicrhau bod gan aelodau’r cyhoedd fynediad da i’w cyfarfodydd lleol. Yr arfer a gaiff ei weithredu gan gyngor cyfagos oedd nid rhag-gyhoeddi rota ar gyfer yr ymweliadau, ond darparu rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd cyngor i aelodau annibynnol sy’n cymryd rhan. Yna byddent yn cysylltu â’r Clercod a chyflwyno eu hunain, gan egluro eu bwriad i fynychu cyfarfod i arsylwi yn hytrach na chymryd rhan (yr un fath ag aelod o’r cyhoedd) a gadael y cyfarfod cyn unrhyw eitemau eithriedig. Pe bai gofyn i'r aelod gyflwyno ei hun, defnyddir sgript gyffredin i egluro pwrpas yr ymweliad o ran codi ymwybyddiaeth o’r Cod Ymddygiad a chefnogi cynghorau i ddeall eu rhwymedigaethau. Bydd adborth cyffredin ar lafar yn cael ei adrodd yn rheolaidd i’r Pwyllgor Safonau ar faterion fel mynediad i raglenni, materion gweithdrefnol, cyfranogiad aelodau, rhoi enghreifftiau o arfer da ac amlygu anghenion hyfforddiant.
Awgrymodd Mrs. Phillipa Earlam dylid cyhoeddi rhestr wirio i ddangos tryloywder ond roedd y Cynghorydd Johnson yn pryderu y gellid ei ddehongli fel arolwg. Teimlai ei bod yn bwysig hyrwyddo’r ymweliadau fel gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac aeth ymlaen i ofyn a fyddai gwrthdaro buddiannau ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a oedd ar Gynghorau Tref a Chymuned hefyd. Dywedodd y Swyddog Monitro na fyddai angen i’r Aelodau hyn ddatgan cysylltiad personol.
Awgrymodd y Swyddog Monitro ei fod yn ysgrifennu at Glercod i egluro natur yr ymweliadau o ran cymryd nodiadau o ganfyddiadau ac edrych ar brosesau sy’n arwain at ymddygiad moesegol da a oedd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.
Trafododd Aelodau sut dylid adrodd adborth yn ôl i’r Pwyllgor. Roedd Mrs. Hughes yn teimlo y dylai adborth llafar fod yn gyffredinol, gyda’r pwyntiau allweddol wedi’u cynnwys yn y cofnodion a oedd yn ddogfen gyhoeddus. Dywedodd Mr. Rob Dewey y gallai adborth ddangos nifer y cynghorau yr ymwelwyd â nhw a hefyd y prif ganfyddiadau.
Awgrymodd Cynghorydd Johnson y gellid arsylwi’r dull a gymerwyd gan y cyngor cyfagos a’i addasu i’w ddefnyddio gan Sir y Fflint. Dywedwyd bod aelodau yn gallu gweld cofnodion a gyhoeddwyd gan y cyngor hwnnw i weld sut roedd adborth ar lafar yn cael ei adrodd.
Cynigiodd Mrs. Hughes ddiwygiad i’r cynnig cadarn gan y Cynghorydd Woolley nad oedd y rota ar gyfer ymweliadau yn cael ei gyhoeddi a bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael gwybod yn unigol gan aelodau sy’n cynnal yr ymweliadau. Eiliwyd hyn gan Mr. Ken Molyneux. Nodwyd byddai angen i hyn gael ei egluro yn y canllawiau a nodir yn yr adroddiad, a oedd wedi’u cytuno gan y Pwyllgor. O'i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y gwelliant.
Yn dilyn trafodaeth bellach, gwnaeth y Swyddog Monitro grynhoi’r farn, sef na fyddai adborth yn cael ei roi gan yr aelodau annibynnol yn ystod yr ymweliadau a byddai adborth ar lafar yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Safonau er mwyn i sylwadau allu cael eu cymeradwyo cyn eu cyflwyno i Gynghorau Tref a Chymuned. Cafodd y diwygiad pellach hwn ei gynnig gan Mr. Dewey a’i eilio gan y Cynghorydd Woolley. O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y gwelliant.
Cafodd y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Woolley, fel y’i diwygiwyd, ei roi i bleidlais, a’i gytuno.
Gofynnodd y Cynghorydd Johnson a oedd yr ymweliadau yn destun y cynllun lwfans taliadau ar gyfer aelodau cyfetholedig. Yn dilyn trafodaeth, cynigiodd y Cynghorydd Heesom fod y swyddogion yn adrodd yn ôl ar y goblygiadau ariannol a chefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canllawiau ym mharagraff 1.03 yr adroddiad yn cael ei diwygio i adlewyrchu:
· Bod aelodau annibynnol y Pwyllgor sydd am gymryd rhan yn cael dyddiadau cyfarfodydd a manylion cyswllt i’w galluogi i roi gwybod i Glercod o flaen llaw am ymweliadau;
· na ddylai rota ymweliadau gael ei gyhoeddi;
· dylai’r aelod roi gwybod i Glerc y cyngor am ei fwriad i ymweld mewn cyfarfod penodol;
· bod pawb sy’n bresennol yn cyflwyno eu hunain i’r Clerc pan fyddant yn cyrraedd y cyfarfod ac yna’n eistedd yn yr oriel gyhoeddus;
· na ddylai’r mynychwr siarad yn y cyfarfod oni bai ei fod yn cael ei wahodd i wneud hynny, a dim ond natur a phwrpas y rhaglen o ymweliadau y dylai eu hegluro;
· dylai’r mynychwr wrthod rhoi cyngor penodol am faterion dan y cod fel datgan cysylltiad, a dylai gyfeirio unrhyw geisiadau o’r fath at y Clerc, y Swyddog Monitro, neu’r Dirprwy Swyddog Monitro yn lle hynny;
· dylai adborth llafar gael ei adrodd i’r Pwyllgor i alluogi sylwadau i gael eu cymeradwyo cyn eu cyflwyno i Gynghorau Tref a Chymuned; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cael adroddiad gan swyddogion am oblygiadau ariannol gwneud yr ymweliadau yn ddyletswydd swyddogol at ddibenion lwfansau aelodau etholedig.
Dogfennau ategol: