Agenda item

Cyfuno Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Weithredydd Partneriaeth Pensiwn Cymru ar weithredu’r asedau cyfun a’r gronfa.

 

Cofnodion:

Croeswyd Sasha Mandich (Russell Investments) a Duncan Lowman (Link Fund Solutions) gan y Cadeirydd, a llongyfarchodd Link a Russell ar eu penodiad fel gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP).Diolchodd Mr Lowman i’r Cadeirydd, cyflwynodd Link a Russell a nodi’r rhaglen yn gryno. Eglurodd Mr Lowman y bydd Link yn gweithredu’r gronfa ar ran WPP a bydd Russell Investments yn cynghori’r WPP ar ddewis rheolwr. Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o’u busnesau a phrofiad yn y meysydd hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Palmer, fel aelod newydd o’r Pwyllgor, i’r cyflwynwyr egluro ystyr yr acronymau yn ystod y cyflwyniadau.

 

Mae’r Gronfa yn Gynllun Contractiol Awdurdodedig (ACS) yr FCA, gan ddefnyddio Northern Trust fel y ceidwad a’r gweinyddwr.  Byddai’r rheolwyr buddsoddi’n cael eu penodi i’r platfform.Budd strwythur ACS yw ei fod yn bosibl adennill treth e.e. treth ar ddifidendau nad oes modd eu hadennill o dan drefniadau eraill.

 

Mae amcanion y WPP yn hanfodol i sefydliad y trefniadau cyfuno, sef:

 

  • I ganiatáu pob Cronfa (trwy’r defnydd o is-gronfeydd) i weithredu eu strategaeth buddsoddi eu hunain, sy’n parhau i gael ei phennu gan y Pwyllgor ar gyfer Cronfa Clwyd
  • I leihau a rheoli costau a gwneud y gorau o effeithiolrwydd treth
  • Caniatáu mynediad i reolwyr asedau gorau, sy'n ategu at ei gilydd drwy drefniadau llywodraethu gwell y pennir drwy'r WPP drwy ei strwythur llywodraethu
  • Gwella maint drwy gael mynediad at gronfa fwy o asedau a mabwysiadu arferion gorau o ran rheolaeth portffolio

 

Cam cyntaf y prosiect fydd gweithredu is-gronfeydd Ecwiti Byd-eang gan mai dyma’r Asedau o dan Reolaeth (AUM) mwyaf ledled Cymru. Y dyddiad targed i gymeradwyo’r rhestr o reolwyr yw 15 Mawrth. Mae trafodaethau ffi gyda’r rheolwyr yn mynd rhagddynt. Mae yna gynllun prosiect (fel y crynhoir yn y sleidiau) sy’n targedu cyflwyniad yr FCA ar 1 Mai.

 

Holodd Mrs McWilliam a oeddent wedi penderfynu ar reolwyr y Gronfa a phwy sy’n gwneud y penderfyniad hwn.Cadarnhawyd y caiff y penderfyniad hwn ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu mewn ymgynghoriad â Russell and Link. Holodd Mrs McWilliam hefyd a oedd yn realistig bod cymeradwyo rheolwr ecwiti'n cael ei gwblhau erbyn 15 Mawrth.Cadarnhaodd Mr Lowman, yn ei farn ef, bod hyn yn realistig a bydd mwy o drafodaethau’n cael eu cynnal ddydd Llun 26 Chwefror a fydd yn trafod yr opsiynau amrywiol.

 

Cyflwynodd Mr Mandich i’r Pwyllgor, a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol;

 

  • O fewn pob is-gronfa, yn hytrach na phenodi un rheolwr, gall Link a Russell helpu’r Gronfa i amrywio’r risg rheolwyr.Gwneir hyn drwy gynnig rhestr o reolwyr sy’n ategu at ei gilydd, gan mai'r nod yw cael enillion marchnad gwell na'r canolrif, ond sy'n risg is oherwydd amrywiaeth.
  • Crynhowyd manylion dull ymchwilio i reolwyr Russell, sy’n gyfuniad o’r 4 P o ymchwil rheolwyr – Ansoddol (Pobl a Phroses) a Meintiol (Portffolio a Pherfformiad).
  • Tynnwyd sylw at y ffaith bod perfformiad y gorffennol yn ddangosydd gwael o berfformiad y dyfodol.Felly nid ydynt yn sgorio rheolwr ar eu perfformiad yn y gorffennol; maent yn ei seilio ar berfformiad disgwyliedig yn y dyfodol.
  • Mae llawer o ddadansoddi ansawdd uchel ynghlwm wrth gasglu’r rheolwyr gorau ar gyfer y Gronfa (mae yna 44 dadansoddwr ymchwil rheolwr llawn amser).Mae’r dadansoddiad yn cynnwys cyfweliadau, deialog parhaus a dadansoddi pob masnach a wnaed gyda’u portffolio. 
  • Byddai pob rheolwr yn cael ei sgorio'n seiliedig ar y meini prawf hyn.

 

Holodd Mrs Fielder a oedd posibilrwydd o'r holl gronfeydd yn mynd ar ôl y rheolwyr gorau, a fyddai'n peri materion capasiti ac yn rhoi straen ar reolwyr sy’n amharu ar eu perfformiad.   Ymatebodd Mr Mandich drwy ddatgan fod gan bob rheolwr arddull rheolwr unigol a bydd rhai rheolwyr â chyfyngiadau ar AUM.Cadarnhaodd Mr Mandich y byddai’r argymhelliad gan Russell yn ystyried materion capasiti a byddai terfynau ar gyfer y buddsoddiadau a osodwyd hefyd yn cael cytundeb.

 

Holodd Mrs Fielder hefyd am y ffocws ar fuddsoddi cyfrifol.Cadarnhaodd Mr Mandich fod hyn wedi bod yn ffocws mawr am nifer o flynyddoedd ac yn un o’r ffactorau a sgoriwyd fel rhan o’r ymchwil. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai’r holl Gronfeydd yn hoffi gwneud rhywbeth ar ESG (Buddsoddi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) ond i wneud iddo weithio ar lefel gyfun, mae angen mwy o gysondeb.Byddai hyn yn golygu cael Cronfeydd a Chyfuniadau o bosibl i symud i bolisi cyffredin i ennill mantais ar faint. 

 

Holodd Mr Middleman a ydynt yn cymhwyso pwysiadau gwahanol i’r 4 P yn dibynnu ar y dosbarthiadau ased e.e. os ystyrir medr rheolwr i fod yn fwy pwysig na rhai ffactorau proses. Cadarnhaodd Mr Mandich eu bod yn eithaf unffurf a chyson ar draws pob dosbarth.

 

Holodd Mrs McWilliam sut y byddai’r broses yn gweithio mewn perthynas â rhai o’r cyfleoedd isadeiledd Cymreig.Ymatebodd Mr Mandich drwy ddatgan ei fod yn fuan iawn i allu dweud, ond gallant ystyried ar draws y WPP a chael arbenigedd os oes angen i gasglu mwy o ymchwil.Cadarnhaodd y byddai’r Cronfeydd yn cael cefnogaeth lawn.

 

Rhoddodd Mr Everett sylw ei bod yn debygol y byddai’r partïon perthnasol yn dod at y Cronfeydd ynghylch cyfle buddsoddi, yn hytrach na rheolwyr yn ymchwilio ac yn edrych i mewn i'r cyfleoedd hyn.Nododd Mr Mandich y gellid cytuno ar ddyrannu canran o’r asedau i’r cyfleoedd hyn, a byddai hyn yn cael ei drafod yn y WPP.

 

Symudodd y drafodaeth ymlaen at ddiweddariad penodol ar gyfer Cronfa Clwyd. Trafodwyd 6 strategaeth bwced:

 

  • Ecwitïau – Mandadau gweithredol gydag Investec yn debygol o symud i is-gronfa ecwiti Byd-eang.    Is-gronfa marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg i gael ei lansio erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn caniatáu £200m i gael ei symud. Yn ogystal, mae ased Blackrock (£70m) eisoes yn rhan o’r cydgrynhoad mandad goddefol yng Nghymru.
  • Credyd – credyd aml-ased cyfredol yn dal (£200m) o fudd o bosibl i gronfeydd Cymreig eraill. Mae trafodaeth yn mynd rhagddi gyda Stone Harbor ynghylch sut y gellir gweithredu hynny ar y platfform. Mae credyd preifat (£14m) yn fwy cymhleth i’w symud, felly gallai gymryd mwy o amser i’w ystyried.
  • Platfform a reolir – Cyfarfod Russell/Link i drafod hyn gydag ManFRM ar gyfer yr asedau cyfredol (£150m) gan fod y platfform yn gallu ehangu’n gyflym o bosibl ar gyfer Cronfeydd Cymreig eraill.
  • Tactegol – Mandadau DGF (£170m) yn debygol o fanteisio ar ffioedd is drwy gydgrynhoi. Archwilio opsiynau i symud y portffolio Syniadau Gorau (£200m) ar y platfform.
  • Asedau Gwir a Marchnadoedd Preifat – asedau (£350m) yn annhebygol o symud yn 2018 oherwydd hylifedd a diffyg gorgyffwrdd â Chronfeydd Cymreig eraill.
  • LDI – asedau (£400m) anoddaf i’w cyfuno oherwydd eu bod yn bwrpasol ac angen ffrwd data ac adrodd penodol.  

 

Pwysleisiodd Mr Mandich nad y bwriad oedd gorfodi asedau ar y platfform dim ond er mwyn gwneud hynny. 

 

Nododd Mr Latham y bydd y penderfyniadau ynghylch buddsoddiadau fel y Credyd Aml-Ased nawr yn cael eu gwneud gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu, felly bydd angen cefnogaeth ehangach gan Gymru. Cadarnhaodd Mr Mandich hyn.

Holodd Mrs McWilliam a oedd yna gyfryngau eraill sy'n well ar gyfer rheoli’r asedau, ac eithrio’r ACS. Ymatebodd Mr Mandich drwy ddweud bod hynny’n gywir ac angen ei ystyried. Mae gwaith strwythur ACS ar gyfer ecwitïau byd-eang, sef y man cychwyn.

Holodd y Cadeirydd a oedd yna unrhyw beth arall y gallai’r Gronfa ei wneud i gefnogi eu gwaith.Ymatebodd Mr Mandich nag oedd, gan nodi bod Mr Latham a Mrs Fielder wedi cyflenwi cefnogaeth ardderchog mewn perthynas â sut i symud ymlaen.

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Mandich a Mr Lowman am eu cyflwyniad ac edrychodd ymlaen at y wybodaeth ddiweddaraf yn y dyfodol.