Agenda item

Diweddariad ar Gronfa Bensiynau Clwyd

Rhoi crynodeb lefel uchel i Aelodau'r Pwyllgor am faterion sy’n ymwneud â'r Gronfa a diweddariad ar ddefnyddio dirprwyaethau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Symudodd y Cadeirydd ymlaen i’r eitem olaf ar y rhaglen, a oedd yn ddiweddariad cyffredinol ar Gronfa Bensiynau Clwyd ers cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor.

 

O ran yr adran Lywodraethu 1.01, rhoddwyd sylw bod angen trefnu dyddiadau er mwyn cynnal hyfforddiant.Dywedodd Mrs McWilliam y byddai e-bost yn cael ei gylchredeg gydag opsiynau, ac mai’r flaenoriaeth allweddol oedd cael dyddiadau a fyddai’n addas i’r aelodau mwyaf newydd.Yr amcan yw cael 2 ddiwrnod hyfforddiant, un ym Mawrth ac un yn Ebrill.

 

Cyfeiriodd Mr Latham at adran 1.04; nododd y bydd y gweinidog newydd, Rishi Sunak AS, yn gyfrifol am osod y ddeddfwriaeth LGPS newydd.Mae Mr Sunak yn awyddus gyda gwybodaeth gefndir am gyfuno a buddsoddiadau, ac yn edrych ar gynaliadwyedd yn yr LGPS a beth mae’n ei olygu i awdurdodau.

 

Roedd Adran 1.05 yn crynhoi rhaglen Bwrdd Ymgynghori'r Cynllun (SAB) cyfredol. Crybwyllodd Mr Latham mai un maes a oedd wedi dychwelyd i’r rhaglen mewn trafodaethau cenedlaethol diweddar oedd gwahaniad y Cronfeydd LGPS oddi wrth y Cyngor fel endidau cyfreithiol. Rhoddir unrhyw ddiweddariadau pellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Nododd Mr Latham y bydd y newid o Lywodraeth Cymru i eithrio cyfrifon y Gronfa Bensiwn o gyfrifon y Cyngor yn effeithio ar ddulliau cymeradwyo ar y ddwy gyfres o gyfrifon ac mae'r amseriad yn cael ei drafod.  Mae hyn yn effeithio Cronfeydd Cymreig (nid Seisnig) yn unig, felly byddai angen ystyriaeth ar draws Cymru o bosibl i’w wneud mor hawdd â phosibl.

 

Cyfeiriodd Mr Middleman at adran 1.07 a dywedodd bod y lefel ariannu wedi disgyn ers hynny i 89% oherwydd y gostyngiad mewn marchnadoedd ecwiti, sydd yn dal yn llawer ar y blaen o lle rydym yn disgwyl i’r Gronfa fod.Roedd hyn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o'r amddiffyniad ecwiti sydd gan y Gronfa yn ei lle i reoli'r risg o ostyngiad mawr mewn marchnadoedd.Fel yr adroddwyd yn flaenorol, mae strwythur hyn yn cael ei ailystyried cyn i'r trefniant presennol ddod i ben yn Ebrill.

 

Nododd Mr Harkin, ar ddiwedd Ionawr 2018, fod asedau'r Gronfa dros £1.8 biliwn.Nododd hefyd fod Cronfeydd LGPS eraill hefyd wedi bod yn ystyried amddiffyniad ecwiti fel rhan o reolaeth risg.

 

Holodd y Cynghorydd Llewelyn-Jones i Mr Harkin roi eglurhad pellach o ran tudalen 50, paragraff 2 o gasgliad y diweddariad Economaidd a Marchnad h.y. a all y twf cyfredol barhau ac a all banciau canolog ei fforddio.  Eglurodd Mr Harkin mai'r allwedd yw a ydy banciau'n gallu fforddio rhagor o esmwytho meintiol (QE) i ysgogi’r economi os oes angen. Mae hyn yn sicr wedi’i gwtogi’n ddiweddar.Yn yr un modd, mae'r hyn a wnaiff y Llywodraeth gyda pholisi ariannol (cyfraddau llog) yn bwysig.  Ar hyn o bryd, ymddengys fod Llywodraethau a Banciau’n cefnogi ysgogiad parhaus, felly nid oes unrhyw arwyddion syth o ddirywiad neu ddangosyddion dirwasgiad, er bod economïau gwahanol mewn safleoedd gwahanol.   I’r Gronfa bydd chwyddiant yn allweddol oherwydd mae enillion asedau’n gorfod o leiaf cyfateb i unrhyw gynnydd mewn chwyddiant, fel arall gallai costau gynyddu.

 

Cododd y Cadeirydd adran 1.12 o ran polisïau dewisol.Dros amser, mae angen datblygu’r rhain ac argymhelliad y Pwyllgor yw dirprwyo cymeradwyaeth y polisïau hyn i’r Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol. Cytunwyd ar hyn.

 

Rhoddodd Mr Everett wybod i’r Pwyllgor fod yr Home Farm Trust (HFT) wedi rhoi cynnig llwyddiannus a bellach yn gyflogwr newydd yn y Gronfa sy'n gadarnhaol

 

PENDERFYNWYD:

1.  Bod y Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf ac yn rhoi sylwadau yn unol â hynny.

2.  Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y newidiadau i’r ddogfen 'DirprwyoSwyddogaethau i'r Swyddog’ yn Atodiad 6.

 

Dogfennau ategol: