Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dwy drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), dangoswyd y ddau euogfarn.   Nododd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’i euogfarnau ac roedd hyn wedi’i atodi i’r adroddiad.   Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.   

 

Defnyddiodd yr ymgeisydd y cyfle i ddarparu copïau o eirdaon cymeriad i’r Panel er gwybodaeth.    Cyfeiriodd at ei eglurhad o'i euogfarnau a oedd wedi'i atodi at yr adroddiad a darparodd rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau a arweiniodd at gyflawni'r troseddau.   Nododd ei fod yn difaru ei euogfarnau a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl a nododd eu bod yn ddigwyddiadau unigol.   Pan holodd y Panel yr ymgeisydd darparodd wybodaeth gefndir am ei amgylchiadau personol a’i hanes cyflogaeth ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a'i gyflogaeth bresennol.    

 

Siaradodd cyflogwr presennol yr ymgeisydd o blaid yr ymgeisydd a darparu trosolwg o natur ei waith.   Dywedodd ei fod yn croesawu’r cyfle i gyflogi’r ymgeisydd mewn capasiti pellach a’i fod yn ei ystyried yn ‘ased’ i’w fusnes.       

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau a cheisiodd eglurhad pellach o'r amgylchiadau a arweiniodd at yr ail euogfarn a'r ddirwy a dderbyniodd.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r parti cysylltiedig adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.

 

5.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad.    Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd.  Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd). 

 

                        Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd a'r parti cysylltiedig yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

                       

 

 

5.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.  

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.   

 

 

(Dechreuodd y trydydd gwrandawiad am 12:10pm a daeth i ben am 12:40pm).