Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn o'r gorffennol. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

                        Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd  egluro amgylchiadau ei euogfarnau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd yr ymgeisydd fod rhai o’r troseddau wedi’u cyflawni yn ystod ei ieuenctid ac fe gyfeiriodd at ei amgylchiadau personol a theuluol ar y pryd.   

 

                        Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth a gofynnodd iddo egluro pam nad oedd wedi datgelu ei holl euogfarnau ar y cais.   Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi camddeall ac yn credu nad oedd angen iddo ddatgan ei euogfarnau cynharach gan y cyflawnwyd y rhain sawl blwyddyn ynghynt.   Ceisiodd y Cyfreithiwr ragor o eglurhad gan yr ymgeisydd am yr amgylchiadau a’r dedfrydau a roddwyd iddo am ei euogfarnau.   Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei ddealltwriaeth a difrifoldeb ei euogfarn am "Ddweud celwydd yn y Llys” a cheisiodd rhagor o wybodaeth am amgylchiadau’r drosedd honno.

 

 Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a’i gofnod cyflogaeth.   Dywedodd ei fod eisiau gweithio i gefnogi ei deulu.     

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.

           

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

 Ar ôl ystyried y cais roedd yr Is-bwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).  Fodd bynnag, oherwydd pryderon y panel o ran natur y troseddau, cytunwyd  y dylid rhoi trwydded am gyfnod prawf o 12 mis.  Byddai’n ofynnol i’r Ymgeisyddymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)  ar ei draul ei hun ac ar adeg briodol a bennir gan yr Adain Drwyddedu.

 

                        Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

4.2       Penderfyniad

           

 Cynghorodd y Cadeirydd yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod yn unigolyn cymwys a phriodol i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni ac fe’i gymeradwywyd am drwydded am gyfnod prawf o ddeuddeg mis.   Eglurodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd y byddai’n ofynnol iddo ymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg a bennir yn briodol gan yr Adain Drwyddedu.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

(a)        Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd

      Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau

      Amrywiol) 1976 a rhoi trwydded am gyfnod prawf o ddeuddeg mis; ac

 

(b)       Y cynhelir gwiriad cofnodion troseddol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a

            Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg briodol a bennir gan yr Adain Drwyddedu.

 

 

(Dechreuodd yr ail wrandawiad am 11.00am a daeth i ben am 12.00pm.)