Agenda item

Cydnabyddiaeth i Clare Budden

Pwrpas: Cydnabod y cyfraniad a wnaed i'r Cyngor gan Clare Budden, Prif Swyddog (Cymuned a Menter) sy’n gadael yr Awdurdod ddiwedd Ebrill i ymuno â Chymdeithas Dai Pennaf.

 

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Cadeirydd y teyrngedau i gydnabod y cyfraniad a wnaed i'r Cyngor gan Clare Budden, Prif Swyddog (Cymuned a Menter) a oedd yn gadael yr Awdurdod ddiwedd Ebrill 2018 i ymuno â Chymdeithas Dai Pennaf. Mynegodd ddiolch personol i Clare am ei chefnogaeth a mynegodd ddiolch hefyd ar ran ei breswylwyr am ei hymroddiad wrth ddatrys materion tai yn ei ward. 

 

Llongyfarchwyd Clare ar ei swydd newydd gan y Cynghorydd Aaron Shotton a dymunodd bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y cyfraniad a wnaed i’r Cyngor a phreswylwyr Sir y Fflint gan Clare ac fe soniodd am ei hetifeddiaeth drwy ei chyflawniadau gan gyfeirio at waith ar y bleidlais trosglwyddo stoc, Safon Ansawdd Tai Cymru, a'r datblygiad newydd o dai Cyngor, fel enghreifftiau o’r rhaglenni a oedd wedi’u gwthio drwodd. Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod yn y sector tai ers i Clare gael ei phenodi ac fe gyfeiriodd at ei hymrwymiad i liniaru effaith newidiadau Diwygio’r Gyfundrefn Les ar denantiaid Sir y Fflint. Diweddodd ei deyrnged drwy ddiolch i Clare am ei gwaith ym maes Datblygu Economaidd. Siaradodd am y parch uchel a ddengys tuag at Clare yn Sir y Fflint a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda hi drwy wasanaeth ar y cyd gyda Chymdeithas Dai Pennaf yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i Clare am ei gwaith ardderchog i wella a datblygu tai yn Sir y Fflint ac fe soniodd am y parch uchel yr oedd gan y Cynghorydd Ron Hampson, Cyn-Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, tuag ati. Dywedodd ei bod yn golled enfawr i’r Cyngor ond ei fod yn dymuno pob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i Clare am ei hymrwymiad a’i hymroddiad a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at gysylltu gyda Clare yn y dyfodol drwy waith Cymdeithas Dai Pennaf.

 

Dymunodd y Cynghorydd Mike Peers bob llwyddiant i Clare yn ei swydd newydd ac fe gyfeiriodd at ei chyflawniadau gyda’r Awdurdod yn y sector tai, gan amlygu gweithrediad Safon Ansawdd Tai Cymru, y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol a’r Rhaglen Tai Newydd fel enghreifftiau. Cyfeiriodd hefyd at ei chymhelliant wrth ddarparu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint. Soniodd am rinweddau personol Clare ac fe ddywedodd ei bod hi’n unigolyn a oedd yn hawdd mynd ati ac yn fodlon cynnig cymorth a chefnogaeth heb betruso. Ail-bwyleisiodd y golled a oedd hyn i'r Cyngor ond gwnaeth sylw ar y cyfle i elwa o sgiliau a gwybodaeth Clare yn y dyfodol drwy ei gwaith gyda Chymdeithas Tai Pennaf.

 

Soniodd y Cynghorydd Ian Dunbar am yr arbenigedd yr oedd Clare wedi'i ddarparu i gyfarfodydd Pwyllgor ac yn benodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter a’r gefnogaeth a oedd wedi’i rhoi i Aelodau o ran materion tai yn eu wardiau.  Cyfeiriodd at amgylchiadau trasig y tân yn Nh?r Grenfell a’r goblygiadau ar gyfer yr holl  adeiladau uchel yn Sir y Fflint a mynegodd ganmoliaeth am sut yr oedd Clare a’i thîm wedi ymateb i’r pryderon a’r problemau dybryd a godwyd gan breswylwyr ac Aelodau a’r gefnogaeth barhaus a ddarparwyd. Dymunodd y Cynghorydd Dunbar y gorau i Clare ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ian Roberts ddiolch personol i Clare am ei chyfraniad sylweddol a’i hymrwymiad i raglen adfywio y Fflint ac fe siaradodd am ei brwdfrydedd a’i chymhelliant i weld yr hen fflatiau deulawr yn cael eu dymchwel yn y Fflint er mwyn adeiladu tai newydd o safon a oedd wedi’u croesawu gan breswylwyr.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i Clare am y cymorth a’r gefnogaeth a ddarparodd iddo fel aelod newydd etholedig a hefyd am ei gwaith i wella tai cymdeithasol yn Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler mai braint oedd cael Clare yn Uwch Swyddog iddo ac fe siaradodd am ei ffydd yn ei gallu. Dywedodd fod Clare wedi bod yn gynghorwr pan oedd angen ac yn ennyn parch ar lefel ranbarthol a chenedlaethol fel cynrychiolydd o’r Awdurdod.  Soniodd am ei chefnogaeth dewr a’i chyfraniad at Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Fargen Twf. Dywedodd y Cynghorydd Butler fod yr Arglwydd Barry Jones wedi cysylltu ag ef i'w chanmol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at benodiad Clare i’r Cyngor a oedd wedi digwydd yn ystod cyfnod anodd, a dywedodd ei fod yn ddiolchgar am yr amser yr oedd Clare wedi’i dreulio gyda’r Awdurdod. Cefnogodd yr holl deyrngedau a wnaed a chanmolodd ei pherfformiad, ei sgiliau a’i gallu i weithio gydag Aelodau a swyddogion i gyflawni’r canlyniadau gorau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin mai braint oedd gweithio gyda Clare ac fe soniodd am y cynnydd a wnaed yn y sector tai yn Sir y Fflint, safon y tai a ddarparwyd a bodlonrwydd tenantiaid ar draws Sir y Fflint. Yn ogystal â hynny, derbyniodd Clare ganmoliaeth gan y Cynghorydd Mullin am ei gwaith ar fenter economaidd a soniodd am y gefnogaeth a roddodd wrth gefnogi diwydiant a masnach yn ei ward ef. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill y byddai'r holl Aelodau, swyddogion a staff o fewn ei hadran yn gweld ei cholli. Dywedodd fod Clare, drwy ei chymhelliant a’i phersonoliaeth, wedi llwyddo i wireddu ei gweledigaeth ac, ar ran Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol, dymunodd bob llwyddiant iddi yn ei gyrfa newydd.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Bernie Attridge y teyrngedau a wnaed i Clare a diolchodd iddi am ei chefnogaeth ar lefel bersonol. Gwnaeth sylw ar y weledigaeth i sefydlu Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru a dywedodd, er gwaethaf yr anawsterau cychwynnol, fod Clare wedi llwyddo i wireddu’r weledigaeth hon diolch i’w brwdfrydedd a’i chymhelliant. Dywedodd fod Clare wedi bod yn Swyddog ardderchog ym mhob agwedd a diolchodd iddi am ei gwaith yn Sir y Fflint gan ddymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

 

Wrth ddod i gasgliad, siaradodd y Prif Weithredwr ar ran y tîm o uwch swyddogion a thalodd deyrnged i Clare. Cyfeiriodd at ei rhinweddau personol a phroffesiynol a werthfawrogwyd yn fawr gan yr Awdurdod a dymunodd bob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf ac yn ei gyrfa yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cyflwyniad gan y Cadeirydd ar ran y Cyngor, diolchodd Clare i’r Aelodau a’r Swyddogion am eu teyrngedau twym-galon a dywedodd ei bod wedi bod yn fraint i gael gweithio yn yr ardal lle cafodd ei geni a’i magu, yn yr ardal roedd ei theulu’n byw. Dywedodd ei bod wedi gweithio gyda’r Awdurdod am gyfnod hirach nag unrhyw swydd flaenorol oherwydd ei bod yn mwynhau’r gwaith ac yn teimlo dyletswydd bersonol i wneud ei gorau i wneud newid cadarnhaol yn Sir y Fflint ac i wella canlyniadau yn y sector tai. Diolchodd i’r Aelodau am yr heriau a gyflwynwyd a oedd yn bwysig gan fod yr Aelodau’n cynrychioli anghenion a safbwyntiau preswylwyr Sir y Fflint ar y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. Dywedodd mai uchelgeisiau’r Aelodau, mewn perthynas â’r rhaglen Cartrefi Newydd a’r rhaglen datblygiadau newydd ar gyfer tai cyngor, oedd mewn gwirionedd wedi sicrhau llwyddiant y cynlluniau. Roedd yn gobeithio datblygu partneriaeth gryfach gyda’r Awdurdod drwy ei swydd newydd gyda Chymdeithas Dai Pennaf a chydweithio gyda’r Awdurdod ar ystod o wasanaethau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau preswylwyr Sir y Fflint.