Agenda item

Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf

Pwrpas:        Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Bu i’r Prif Weithredwr gyflwyno adroddiad ar Gyllid Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19 -  Y Trydydd Cam a'r Cam Terfynol, ac eglurodd bod angen i’r Cyngor bennu cyllid gytbwys er mwyn bodloni ei ddyletswydd cyfreithiol.

 

            Cyfrifoldeb cyfun y Cyngor cyfan yw pennu’r gyllideb yn seiliedig ar gyngor y Cabinet ac amlinellwyd yr opsiynau sydd ar ôl er mwyn cyflawni cyllideb gyfreithiol gytbwys yn yr adroddiad.  Eglurodd bod yr opsiynau ar gyfer torri mwy ar wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi eu disbyddu, a bod datganiadau cydnerthedd portffolio, oedd yn dangos y risg i gapasiti gwasanaethau a pherfformiad o ganlyniad i unrhyw dorri pellach ar gyllidebau, wedi cael eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.

             

Ar wahân i ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru (LlC), yr unig opsiynau eraill er mwyn mantoli’r gyllideb oedd incwm o’r Dreth Gyngor a defnyddio arian wrth gefn a balansau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effeithiau ariannol Camau Un a Dau wedi eu hesbonio yn Nhabl 3 yn yr adroddiad, ac ar ôl ystyried y ddau, y bwlch oedd ar ôl yn y gyllideb oedd £5.771m.

 

Mewn perthynas ag arian wrth gefn a balansau, o’i gymharu â nifer o gynghorau eraill, dywedodd mai dim ond cronfeydd bychan a chyfyngedig oedd gan Sir y Fflint i’w defnyddio.  Hefyd, gellid ond defnyddio cronfeydd wrth gefn unwaith, ac nid yw gorddibynnu ar eu defnyddio er mwyn mantoli cyllidebau blynyddol yn ffordd gynaliadwy o ariannu gwasanaethau.

 

Roedd gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn cyfyngedig oedd heb eu clustnodi y gellid eu defnyddio, ac roedd adroddiad monitro cyllideb Mis 9 yn rhagamcanu Cronfa Wrth Gefn o £4.174m ar ddiwedd Mawrth 2018.  Fodd bynnag, roedd hynny yn ddarostyngedig i newid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn dal cronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi a neilltuwyd at ddibenion penodol.  Bu i adroddiad monitro cyllideb Mis 9 ddarparu diweddariad ar lefelau rhagdybiedig presennol o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd,  a dangosodd bod y swm yn debygol o ostwng o £20 i £10m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Cwblhawyd adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd ar ôl, a dim ond y rhai sydd ag achos busnes cryf fyddai’n cal eu cadw a’r gweddill yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).  Y cyfanswm a argymhellwyd i’w ryddhau er mwyn cynorthwyo gyda phennu cyllideb ar gyfer 2018/19 oedd £1.927m.  Cyngor y Rheolwr Cyllid Corfforaethol oedd y gellid pennu cyllideb gytbwys drwy ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a phennu’r Dreth Gyngor ar 5%.  Amlinellwyd darlun o gyfraniad i’r gyllideb o amryw o opsiynau mewn perthynas â’r Dreth Gyngor yn nhabl 4 yr adroddiad.  Atodwyd cymhariaeth o lefelau’r Dreth Gyngor ar draws Cymru i’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y nifer o flynyddoedd o leihau grantiau llywodraeth leol oedd wedi effeithio ar wasanaethau, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol ac Addysg.  Yr her nawr oedd pa opsiynau y gellid eu defnyddio fel y gallai’r Aelodau fantoli’r gyllideb.  Croesawodd y cymorth a dderbyniwyd gan benaethiaid, llywodraethwyr a’r gymuned mewn perthynas â chyllid ysgolion, oedd yn helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r sefyllfa.  Mewn perthynas â gofal cymdeithasol, roedd y wlad n gweld poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o alw ac achosion cymhleth mewn gwasanaethau plant.  Roedd y gyllideb ar gyfer gofal cymdeithasol wedi codi o £62.4m i £65.8m a gyfer 2018/19, oedd yn gynnydd o 5.4%.

 

Diolchodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am eu mewnbwn ar y broses gyllidebu a helpodd i hysbysu’r adroddiad terfynol i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach yn ystod y diwrnod hwnnw.  Oherwydd anferthedd y dasg o feintoli’r gyllideb, fe’i hystyriwyd mewn tri cham, c amlinellwyd manylion hynny yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd yr argymhellion canlynol:

·         Bod y Cabinet, yn dilyn adolygiad, yn argymell i’r Cyngor bod £1.927m o gronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu rhyddhau er mwyn cyfrannu at fantoli’r gyllideb;

·         Bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor godi 5% ar y Dreth Gyngor er mwyn mantoli’r  gyllideb mewn cyfuniad â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau; a

·         Bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor godi 1.71% arall ar y Dreth Gyngor  er mwyn darparu £1.140m arall yn benodol ar gyfer cyllidebau ysgolion.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr eto nad oedd gan y Cyngor lawer o gronfeydd wrth gefn, ac y dylid cadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer pethau megis dyfarniadau cyflog cenedlaethol, oedd yn dal yn destun trafodaethau rhwng cyflogwyr llywodraeth leol a chynrychiolwyr undebau llafur.  Oherwydd y risgiau hynny, byddai angen i’r Cyngor fod yn ddarbodus wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn er mwyn mantoli cyllideb 2018/19.

 

Fel ymateb i gwestiwn gan  Cynghorydd Attridge, darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am gynnydd yn y gyllideb i ysgolion yn ystod y blynyddoedd blaenorol, sef: 2013/14 £1.021m (1.31%), 2014/15 £0.390m (0.49%), 2015/16 £0.478 (0.61%), 2016/17 £0.869m (1.06%) a 2017/18 £1.201m (1.39%).

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at effaith toriadau ar wasanaethau rheng flaen oedd yn arwain a effeithiau cronnol ar drigolion.  Dywedodd y byddai datganoli cyllidebau a grantiau i awdurdodau lleol yn gynharach y rhoi amser i gynghorau gynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei bod yn hen bryd cael adolygiad o’r Asesiad Gwariant Safonol (SA).  Fodd bynnag, roedd yn rhaid i’r Cyngor geisio mantoli ei gyllideb cyfyngedig dros ystod eang o wasanaethau, ac roedd llawer o'r gwasanaethau hynny yn cael eu harwain gan alw ac yn gallu bod yn destun amrywiad sylweddol.  Enghraifft o wasanaeth mandadol a arweinir gan alw ble gwariodd y Cyngor fwy na’r hyn a ganiateir yn ôl y canllawiau cenedlaethol yw Gwasanaethau Cymdeithasol.  Drwy bennu codiad o 6.71% yn y Dreth Gyngor byddai’r Cyngor yn gwario yn unol â’r SSA, a dylai LlC gydnabod hynny.  Mewn perthynas â chodi’r Dreth Gyngor  cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod LlC wedi cynghori bod gan Gynghorau hyblygrwydd lleol i bennu mwy na’r cap o 5% a argymhellwyd.

 

Bu i’r Cynghorydd Roberts ddiolch ir Cynghorydd Shotton am y cynigion a gyflwynwyd, gan ddweud bod addysg yn fuddsoddiad yn nyfodol y sir a bod y £1.140m ychwanegol yn ryddhad sylweddol i ysgolion.  Ychwanegodd bod cyrraedd y sefyllfa yma yn gyflawniad rhyfeddol a thalodd deyrnged i bawb oedd wedi cymryd rhan yn y broses.  Mynegodd y Cynghorydd Jones hefyd ei diolchgarwch, yn arbennig am y cynnydd mewn cyllid i Wasanaethau Cymdeithasol.

 

Wrth gloi, bu i’r Prif Weithredwr hefyd dalu teyrnged i’r gwaith a wnaethpwyd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod y broses gyllidebu.  Ychwanegodd bod yr opsiynau mewn perthynas â chostau parcio yn destun adolygiad o hyd, ond nod ffigwr incwm targed arfaethedig wedi cael ei bennu yn adroddiad cyllideb Cronfa’r Cyngor.  Dywedodd hefyd y dylai’r flwyddyn ym mharagraff 3.19 fod yn 2018/19 ac nid 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD:

           

            (A)   Bod y Cabinet, yn dilyn adolygiad, yn argymell i’r Cyngor bod £1.927m

 o gronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu rhyddhau er mwyn cyfrannu at fantoli’r gyllideb;

 

(B)    Bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor godi 5% ar y Dreth Gyngor er mwyn mantoli’r  gyllideb mewn cyfuniad â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau; a

 

(C)    Bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor godi 1.71% arall ar y Dreth Gyngor  er mwyn darparu £1.140m arall yn benodol ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Dogfennau ategol: