Agenda item

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddi’r rhaglen, mae tri chais am ollyngiad wedi dod i law gan y Cynghorwyr Cymuned Clive Carver a Cheryl Carver, a’r Cynghorydd Sir Clive Carver.

 

Cynghorwyr Cymuned Penarlâg Clive Carver a Cheryl Carver

 

Roedd y Cynghorydd Clive Carver yn bresennol i ddarparu gwybodaeth am y ddau gais ac roedd wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig gan ei wraig, y Cynghorydd Cheryl Carver, i’r Swyddog Monitro i’r perwyl hwn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carver bod Cyngor Cymuned Penarlâg yn bwriadu peidio â defnyddio Sefydliad Penarlâg a chynnal cyfarfodydd mewn lleoliad arall ar ôl 31 Mawrth 2018. Fel Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Sefydliad roedd yn dymuno gallu cyfathrebu â’r Cyngor Cymuned yn ystod y ddau gyfarfod ac yn unigol ar ôl y dyddiad hwn, gan na fydd yn gallu dibynnu ar y ffaith bod ei benodiad presennol i'r Sefydliad yn enwebiad Cyngor Cymuned i gorff allanol. Roedd ef a’i wraig (yn rhinwedd ei swydd fel Trysorydd Pwyllgor Sefydliad Penarlâg) yn gofyn am ollyngiad i ysgrifennu a siarad, ond nid i bleidleisio, ac yn dymuno aros yn Siambr y Cyngor yn ystod y trafodaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Swyddog Monitro, darparodd y Cynghorydd Carver wybodaeth gefndir am y broses benodi i’r pwyllgor rheoli a dywedodd bod y ddau gais ar gyfer derbyn gollyngiad cyn unrhyw newid.

 

Gadawodd y Cynghorydd Carver yr ystafell cyn i’r Pwyllgor ystyried y ceisiadau.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Pwyllgor, darparodd y Swyddog Monitro eglurhad ynghylch y paragraffau sy’n berthnasol i’r gollyngiad.

 

Cynigiodd Mr Rob Dewey bod y Cynghorydd Clive Carver yn derbyn gollyngiad, a bu i’r Cynghorydd Woolley hefyd siarad o blaid hynny.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod dau gais tebyg ar gyfer gollyngiad ac y dylid ystyried a oes angen y ddau.

 

Dywedodd Mrs Phillipa Earlam y dylai'r ddau dderbyn gollyngiad oherwydd eu rolau gwahanol. Roedd y Cynghorydd Johnson yn cefnogi’r farn hon.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cais i aros yn Siambr y Cyngor, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at gais tebyg a gyflwynwyd yn flaenorol ac eglurodd y telerau y derbyniodd y Cynghorydd Carver ollyngiad i siarad.

 

Roedd y Cynghorydd Woolley a Mr Dewey yn teimlo nad oedd modd iddynt gefnogi’r cais i aros yn Siambr y Cyngor.

 

Wrth ystyried y pwyntiau a godwyd, gofynnodd y Cadeirydd a yw’r Pwyllgor yn dymuno caniatáu gollyngiad i’r ddau ymgeisydd i gyfathrebu gyda Chyngor Cymuned Penarlâg yn ysgrifenedig ac ar lafar yng ng?ydd trydydd parti, fel y penderfynwyd wrth drafod cais blaenorol. Byddai’r gollyngiad yn para 12 mis, yn dechrau o ddyddiad y cyfarfod hwn. Cynigiwyd hyn yn ffurfiol gan Mr Jonathan Duggan-Keen ac, ar ôl pleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Carver yn ôl i’r ystafell a rhoddwyd gwybod iddo am y penderfyniad. Cadarnhawyd na fyddai’r Cynghorydd Carver na’i wraig yn cael eu hystyried yn drydydd parti o ran cyfathrebu ar lafar.

 

Y Cynghorydd Sir Clive Carver

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at ystyried rhybudd o gynnig yn ystod cyfarfod diweddar o’r Cyngor Sir, a arweiniodd at ddiwygiad i ystyried adfer y rhyddhad ardrethi busnes o 100% i gyrff elusennol lleol gydag eiddo â gwerth ardrethol dan £6,000. Yn barod ar gyfer trafod y mater ymhellach yn ystod cyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Chwefror 2018, roedd yn dymuno siarad ac aros yn Siambr y Cyngor heb bleidleisio. Eglurodd ei fod yn cadeirio Pwyllgor Rheoli Sefydliad Penarlâg (elusen gofrestredig) sydd â gwerth ardrethol o £6,400 ac sy’n derbyn rhyddhad ardrethi busnes dewisol o 80% ar hyn o bryd.

 

Darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir ac eglurodd bod materion gweithdrefnol wedi arwain at ailystyried y mater. Cwestiynodd y rhesymau dros y cais am ollyngiad, gan fod y gwerth ardrethol y tu allan i’r trothwy ar gyfer eithriad. Dywedodd y Cynghorydd Carver petai’r trothwy yn cael ei ymestyn i gynnwys sefydliadau gyda gwerth ardrethol uwch, yna roedd yn dymuno aros yn yr ystafell i gymryd rhan yn y drafodaeth a rhannu ei wybodaeth, ond nid i bleidleisio.

 

Gadawodd y Cynghorydd Carver yr ystafell cyn i’r Pwyllgor ystyried ei gais.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sgowtiaid Sir y Fflint, dywedodd y Cynghorydd Woolley ei fod wedi datgan cysylltiad â’r mater ac felly heb gymryd rhan yn y drafodaeth yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor Sir. Dywedodd y Swyddog Monitro bod datgan cysylltiad yn gywir i’w wneud gan ei fod yn berthnasol i’r cais.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson yngl?n ag Aelodau eraill yn datgan cysylltiadau tebyg, dywedodd y Swyddog Monitro bod cyngor wedi ei ddarparu cyn cyfarfod y Cyngor Sir. Eglurodd bod y testun penodol hwn yn swyddogaeth weithredol ac felly bydd penderfyniad y Cabinet fore dydd Mawrth 20 Chwefror yn cael ei adrodd ar lafar wrth y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

Ar ôl ystyried y mater, teimlodd Mr Rob Dewey nad oedd gan y Cynghorydd Carver gysylltiad gan fod y gwerth ardrethol y tu allan i’r trothwy, ac felly na fyddai’r gollyngiad yn berthnasol. Eiliwyd hyn ac, ar ôl pleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Carver yn ôl i’r ystafell a rhoddwyd gwybod iddo am y penderfyniad.

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro y gall y Cynghorydd Carver gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Cabinet gan fod y penderfyniad yn swyddogaeth weithredol. Dywedodd y byddai penderfyniad y Cabinet yn cael ei adrodd er gwybodaeth yn unig i’r Cyngor Sir pan fydd cyllideb derfynol 2018/19 yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cynghorwyr Cymuned Clive Carver a Cheryl Carver yn derbyn gollyngiad dan baragraffau (d), (e), (f), (h) ac (i) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i siarad gyda Chyngor Cymuned Penarlâg wyneb yn wyneb neu dros y ffôn am faterion yn ymwneud â Sefydliad Penarlâg, ar yr amod bod o leiaf un tyst yn bresennol i sicrhau bod o leiaf tri pherson yn rhan o’r sgwrs a bod y sgwrs yn cael ei chofnodi. Hefyd, bod y Cynghorwyr Carver yn cael cysylltu’n ysgrifenedig os oes angen. Bydd y gollyngiad yn berthnasol am 12 mis, gan ddod i ben ar 5 Chwefror 2019.

 

(b)       Bod y cais am ollyngiad gan y Cynghorydd Sir Clive Carver o ran trafod ardrethi annomestig yn cael ei wrthod gan nad oes ganddo gysylltiad sy'n rhagfarnu â’r mater.