Agenda item

Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2018/19 – 20/21

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod  2018/19 i 20/21.

Cofnodion:

Bu i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) gyflwyno adroddiad ar Ddatblygu Rhaglen Cyfalaf 2018/19 - 2020/21.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad yn adeiladu ar y Strategaeth Cyfalaf a'r Cynllun Rheoli Asedau a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2016 a’i bod yn rhannu Rhaglen Cyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair adran:

 

  1. Statudol/Rheoleiddiol - dynodiadau er mwyn talu am waith rheoleiddiol a statudol - mae enghreifftiau yn cynnwys darparu cymorth i wella ac addasu cartrefi yn y sector preifat (Grantiau cyfleusterau anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant ag anableddau, unrhyw waith sydd ei angen er mwyn cadw adeiladau yn agored yn unol â gofynion Iechyd a Diogelwch;
  2. Asedau a Gadwir - dynodiadau er mwyn ariannu gwaith seilwaith er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau a busnes.  Dynodiadau i ariannu cynlluniau oedd yn cynnal, cyfoethogi a gwella asedau a seilwaith a gadwir er mwyn darparu gwasanaethau.  Anghenion sylweddol a glustnodwyd gan gynlluniau gwasanaethau/arolygon cyflwr; a
  3. Buddsoddiad - er mwyn talu am gostau a ysgwyddwyd wrth ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau.  Cynlluniau newydd sy’n deillio o gynlluniau busnes Portffolio, Cynllun y Cyngor, cynlluniau perthnasol a newydd eraill, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau arfaethedig y Cyngor a gymeradwywyd drwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes cydnerth.

 

Bu i Dablau 1 a 2 yn yr adroddiad ddangos cynlluniau a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Chwefror 2017 ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2017/18 - 2019/20 a sut yr oedd y rhaglenni hynny yn cael eu cyllido.  Pan sefydlwyd y rhaglen roedd yna ddiffyg cyllid cyffredinol o £3.187m, er bod cynlluniau ar gyfer 2017/18 wedi eu cyllido’n llawn.  Cadwyd y diffyg cyllid ar gyfer rhaglenni 2018/19 a 2019/20 yn hyblyg gydag opsiynau oedd yn cynnwys cyfuniad o dderbynebau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen, benthyca darbodus neu raddoli cynlluniau dros nifer o flynyddoedd.  Adroddwyd yn rheolaidd a gynnydd mewn perthynas â delio â’r diffyg hwnnw i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar Adnoddau Corfforaethol yn ystod 2017/18.  Erbyn hynny derbyniwyd derbynebau cyfalaf oedd yn golygu bod y rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 - 2019/20 wedi cael ei chyllido’n llawn gyda gwarged bychan o £0.201m. 

 

            Roedd Tabl 3 yr adroddiad yn esbonio’r cyllid cyfalaf cyffredinol y rhagamcanwyd fyddai ar gael er mwyn cyllido’r Rhaglen Gyfalaf n  ystod y 3 blynedd nesaf.  Roedd y Cyngor wedi datblygu polisi darbodus o ganiatáu derbynebau cyfalaf yn unig i gyllido prosiectau cyfalaf pan dderbyniwyd derbynebau.  Roedd yr holl gynlluniau a gynigwyd ar gyfer eu cynnwys wedi buddsoddi mewn asedau a/neu modelau o ddarparu gwasanaeth oedd wedi eu hailwampio.  Gellid cyllido mwyafrif y rhaglen gan dderbynebau cyfalaf a dyraniadau cyllido LlC, er y byddai yna ddiffyg bychan fyddai’n golygu cyllido drwy fenthyca, fyddai’n arwain at oblygiadau o ran refeniw.  Felly, roedd cynlluniau wedi eu graddoli dros gyfnod o 3 blynedd er mwyn sicrhau bod blwyddyn ariannol 2018/19 wedi ei chyllido’n llawn. 

 

            Roedd Tabl 4 yn dangos y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyfnod 2018/19 - 2020/21 ar gyfer Asedau Statudol / Rheoleiddiol a Gadwir y Rhaglen Gyfalaf.  Roedd Tabl 5 yn dangos y cynlluniau arfaethedig ar gyfer yr un cyfnod ar gyfer yr Adran Fuddsoddi. 

 

            Roedd yna ddiffyg cyffredinol o £8.216m yn y cyllid a ragamcanwyd. Er mwyn delio â’r diffyg byddai angen i’r Cyngor o bosibl fenthyca er mwyn ariannu’r cynlluniau, fyddai’n golygu cynyddu dyled ariannu costau llog a darpariaeth refeniw ar gyfer ad-dalu dyled yn y gyllideb refeniw.  Roedd yna botensial i gynhyrchu derbynebau cyfalaf yn ystod gweddill 2017/28, gyda rhagamcan presennol y byddid yn derbyn £0.772m yn ychwanegol erbyn diwedd 2017/18, a £0.600m arall, ond roedd yna beryg i hynny lithro i 2018/19.

 

            Amlinellwyd cynlluniau cyfalaf i’r dyfodol ar ffurf Rhaglen Adeiladu Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B, Bid Dêl Twf a’r Strategaeth Ddigidol.

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chrafu ar Adnoddau Corfforaethol ar 15 Chwefror 2018, a rhannwyd copi o’r cwestiynau, sylwadau ac ymatebion i Aelodau’r Cabinet.  Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Adnoddau Corfforaethol penderfynwyd hysbysu’r Cabinet am y canlynol:

 

(i) Bod cais wedi ei wneud am adroddiad oedd yn amlinellu effaith gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) ac yn esbonio’r effeithiau ar y’u cyfrif refeniw, yn cynnwys costau benthyca, costau refeniw gweithredol a buddion gweithredol, ar gyfer y cyfarfod ym Mawrth neu Ebrill;

(ii) Bod yna bryderon am gost unrhyw waith adfer fydd ei angen o ganlyniad i archwilio Pont Sir y Fflint.  Croesawyd trafodaethau cynnar â LlC ynghylch cyfrifoldebau ar y cyd am y costau, cyn unrhyw newidiadau fydd yn deillio o weithredu’r Llwybr Coch.  Dylid adrodd ar ganlyniadau’r archwiliad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd, ac os bydd yn effeithio ar y rhaglen gyfalaf, i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Adnoddau Corfforaethol hefyd; a

(iii) Bod y Pwyllgor wedi gwahodd y Cabinet  ystyried rhoi sylwadau i LlC ynghylch traul ar ffyrdd Sir y Fflint o ganlyniad i’w defnyddio fel ffyrdd dargyfeirio o ganlyniad i waith ar yr A55.

 

Casglodd y Cynghorydd Shotton bod y rhaglen gyfalaf, yn ystod cyfnod pryd y mae cyllidebau refeniw o dan bwysau sylweddol, yn darparu gobaith i gymunedau sy’n rhan o’r cynlluniau arfaethedig, yn cynnwys adeiladu cartrefi cyngor newydd.   Cyfeiriodd at y buddsoddiadau yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Gynradd Glan Aber a Chartref Preswyl Marleyfield.  Diolchodd hefyd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas am ei rhan mewn lobio cenedlaethol o arweiniodd at £1.4m yn ychwanegol tuag at briffyrdd a ffyrdd gan Lywodraeth Cymru.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)    Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn nhabl 4 r adroddiad ar gyfer adrannau Asedau Statudol/Rheoleiddiol a Gadwir Rhaglen Cyfalaf Cronfa’r Cyngor 2018/19 - 2020/21;

 

(b)  Cymeradwyo’r  cynlluniau yn nhabl 5 r adroddiad ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Cyfalaf Cronfa’r Cyngor 2018/19 - 2020/21;

 

(c)   Dylid nodi bod y diffyg o ran ariannu rhaglenni yn 2019/20 a 2020/21 ar yr adeg yma yn y broses gymeradwyo yn hyblyg.  Bydd opsiynau sy’n cynnwys cyfuniad o dderbynebau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail raddoli cynlluniau yn cael e hystyried y ystod 2018/19, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau’r rhaglen gyfalaf yn y dyfodol;

 

(d)   Dylid nodi pan ddatblygir mwy ar Strategaeth Cyfalaf a Cynllun Rheoli Asedau a phan y’u hadnewyddir;

 

(e)  Dylai’r Cabinet groesawu cais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Adnoddau Corfforaethol am adroddiad ar effeithiau canlyniadol gwariant cyfalaf ar refeniw; ac

 

(f)    Mae’r Cabinet yn cytuno i gysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth tuag at unrhyw gostau fydd yn deillio o:

 

            (i) Waith adfer ar Bont Sir y Fflint;

            (ii)        Rhannu cyfrifoldeb cyn unrhyw newid fydd yn deillio o’r

“Llwybr Coch”; a

(iii)       Mwy o draul ar ffyrdd Sir  Fflint o ganlyniad i draffig yn cael ei ddargyfeirio o ganlyniad i waith ar yr A55.

Dogfennau ategol: