Agenda item

Camau Un a Dau o Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 a Chynllunio ar gyfer Cau Cam Tri

Pwrpas:        Cymeradwyo diweddu Camau 1 a 2 o’r broses i bennu cyllideb, yn dilyn trefn briodol Trosolwg a Chraffu, a nodi’r gofynion cyllidebol sy’n weddill ar gyfer y trydydd a’r pedwerydd cam i gyflawni cyllideb gytbwys. Bydd Cam 3 o’r broses gyllideb yn cael ei adrodd wrth y Cyngor ym mis Chwefror.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gamau Un a Dau Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 a’r adroddiad Cynllunio ar gyfer Diwedd Cam Tri.  Wedi’i ategu i’r adroddiad oedd opsiynau effeithlonrwydd Cam Un, opsiynau effeithlonrwydd Cam Dau wedi’u cadarnhau, crynodeb o’r asesiad o’r effaith a phwysau ac effeithlonrwydd costau newydd.  Dosbarthwyd fersiwn diwygiedig o atodiad 3, crynodeb o’r asesiad o’r effaith.

 

Darparwyd diweddariad o gynigion cyllideb Cam Un a oedd yn cynnwys y taliadau gwastraff ac integreiddio’r Gwasanaeth Cerddoriaeth a’r Tîm Datblygu’r Celfyddydau gyda Theatr Clwyd.  Yr eitemau a oedd yn weddill i’w datrys o gynigion cyllideb Cam Dau oedd cyllid ysgolion, taliadau meysydd parcio cyhoeddus a’r cynnydd yn y Dreth Gyngor.  Wrth drafod un arbediad posibl o gyllideb GwE o 3%, fe esboniodd mai’r canlyniad gorau ar y cyd a negodwyd oedd gostyngiad o 1% mewn cyfraniadau.  Fodd bynnag, gyda’r pwysau chwyddiant, nid oedd y gostyngiad o 1% yn arbed unrhyw gyllid i’r Cyngor mewn termau real.  Roedd y gyllideb tymor hwy ar gyfer GwE yn destun adolygiad yn awr cyn 2019/20.

 

Darparwyd manylion hefyd ar dri chais am gefnogaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar yr uchafswm tâl ar gyfer costau gofal cartref, parhad gwarantedig cyllid y Gronfa Gofal Canolraddol a chadw cyfran o’r cyfraniadau Ardoll Treth Prentisiaid.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o effaith canlyniadau hysbys Camau Un a Dau a oedd wedi arwain at fwlch gweddilliol o £5.9 miliwn.

 

O ran y Dreth Gyngor, esboniodd y Prif Weithredwr bod yr opsiynau wedi’u rhannu gyda’r Aelodau, a’u bod yn amrywio o gynnydd o rhwng 3% a 5%.  Roedd y Setliad Terfynol gan Lywodraeth Cymru wedi pennu’r Asesiad Gwariant Safonol o £264.333 miliwn ar gyfer Sir y Fflint; Byddai ariannu Sir y Fflint ar yr Asesiad Gwariant Safonol ac i wneud y mwyaf o’i incwm trethiant lleol yn erbyn y targed tybiannol hwnnw yn galw am gynnydd o 6.71% i’r Dreth Gyngor.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod gan gynghorau yr hyblygrwydd i fynd y tu hwnt i’r ‘cap’ blynyddol blaenorol o gynnydd 5% pe byddai ganddynt ddadl leol gref.

 

Cronfeydd defnyddiol cyfyngedig sydd gan y Cyngor a nifer o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a oedd yn cynnwys rhai balansau gwasanaeth a oedd wedi’u cario ymlaen i dalu am wariant penodol mewn blwyddyn, a rhai cronfeydd wrth gefn gyda thelerau ac amodau cysylltiedig a oedd yn cyfyngu eu defnydd.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r holl gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi ac i herio’r rhai nad oeddent wedi’u defnyddio o fewn yr amserlen a nodwyd yn wreiddiol.  Byddai angen ad-dalu unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn i falansio cyllideb 2018/19 mewn blwyddyn ddiweddarach.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr un o’r risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, sef y dyfarniad cyflog cenedlaethol; roedd y Cyngor wedi cyllidebu ar gyfer dyfarniad cyflog blynyddol o 1% yn ei ragolygon ond roedd Undebau Llafur yn galw am ddyfarniadau uwch.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad oedd unrhyw arian ar gael i gyflawni dyfarniadau cyflog cenedlaethol uwch na’r rhagolygon ac roedd yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i dalu am unrhyw wahaniaeth yn y costau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei bryder oherwydd y wybodaeth gyfyngedig a oedd ar gael am grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru gyda gostyngiadau a newidiadau arfaethedig a oedd yn cyflwyno risg sylweddol.  Yn benodol, cyfeiriodd at y Grant Gwella Addysg a’r Grant Amgylcheddol Unigol, a oedd yn peri pryder penodol.  Dywedodd na fyddai’r bwlch a oedd yn weddill o £5.9 miliwn yn ffigur gwirioneddol am nad oedd yn ystyried y pwysau ar grantiau a phan oedd y grantiau hynny’n ategu cyflenwad gwasanaeth.  Roedd y £5.9 miliwn yn tybio setliad ariannol safonol ar gyfer ysgolion a chynnydd mewn taliadau meysydd parcio, fodd bynnag, nid oeddent wedi cytuno ar hyn eto.  Yr unig opsiynau a oedd ar gael i’r Cyngor oedd cynyddu’r Dreth Gyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn.  Soniodd am y fformwla ariannol a oedd yn tybio bod gan y Cyngor fwy o gyfleoedd i gael incwm o’r Dreth Gyngor, fodd bynnag byddai angen i’r cynnydd i gyflawni’r Asesiad Gwariant Safonol fod yn 6.71% ond ni fyddai hynny’n cau’r bwlch o hyd.

 

Roedd dogfen wedi’i dosbarthu gan benaethiaid ysgolion cynradd yn y Sir yn gofyn i’r Cynghorwyr ystyried y canlynol:

 

·         defnyddio cronfeydd wrth gefn i ariannu cyllideb ‘arian parod safonol gwirioneddol’;

·         arbedion effeithlonrwydd o feysydd eraill; a

·         pennu cyllideb diffyg ar gyfer 2018/19 er mwyn codi’r mater ac amlygu bod statws Sir y Fflint fel un o’r awdurdodau sy’n cael eu hariannu waethaf yng Nghymru ac felly yn y DU yn parhau.

 

Dywedodd bod sefydlu cyllideb diffyg yn anghyfreithlon ond roedd angen cyfleu’r neges, gan ychwanegu nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddatganiad o’r fath o’r blaen.

 

Yn dilyn y ddogfen a oedd wedi’i dosbarthu, fe gynigiodd argymhelliad ychwanegol i gydnabod bod y Cyngor yn poeni am bob un o’i wasanaethau a’i gymunedau a’i fod yn Gyngor o egwyddorion a chredoau.  Roedd yr argymhelliad ychwanegol fel a ganlyn, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Attridge:

 

“Y dylid cyfleu’r pryderon i Weinidog y Cabinet i ymateb ar unwaith a chynorthwyo Cyngor a oedd yn sefyll i fyny i gyni er mwyn cefnogi gwasanaethau lleol, ac ysgolion yn arbennig.  Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach i’r Cyngor hwn”. 

 

Ychwanegodd hefyd bod angen ymateb ar dri chais yr oedd y Prif Weithredwr wedi son amdanynt.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr, yn ogystal â’r tri chais hyn, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru hefyd am gyllid cyffredinol ategol ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn benodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sharps bryder am y sefyllfa ariannol ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol, methiant y Cyngor i gyrraedd yr Asesiad Gwariant Safonol a’r cynnydd posibl o 5% neu fwy i’r Dreth Gyngor.  Dywedodd y byddai’r flwyddyn ganlynol hyd yn oed yn fwy anodd.  Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad a gyflwynir i’r Cyngor Sir ar 20fed Chwefror yn rhoi amlinelliad o’r holl opsiynau ar gyfer cynnydd o 3% ac uwch i’r Dreth Gyngor.

 

Soniodd y Cynghorydd Peers am yr opsiynau cyfyngedig a oedd ar gael i dalu’r diffyg, gan ychwanegu na allai gefnogi’r Cyngor pe byddai’n pennu cyllideb diffyg yn unol â chais y penaethiaid, fodd bynnag, mae angen cefnogi addysg fel y brif flaenoriaeth.  O ran yr incwm y rhagwelir fyddai’n cael ei gynhyrchu o gasgliadau gwastraff gardd, roedd yn credu bod hyn yn risg oherwydd nad oedd yn bosibl gwarantu faint o bobl fyddai’n manteisio ar hyn.  Soniodd am nifer o swyddi gwag yn y Cyngor a’r nifer o swyddi a oedd yn cael eu hysbysebu a gofynnodd a fyddai’n bosibl atal recriwtio a hefyd holodd am y posibilrwydd o uno rhai o’r swyddi Prif Weithredwyr.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr incwm o gasgliadau gwastraff gardd wedi’i gyfrifo’n a’i ragweld yn ofalus, yn seiliedig ar nifer y bobl a oedd wedi manteisio ar hyn mewn awdurdodau lleol eraill.  O ran staffio, dywedodd mai Sir y Fflint sydd â’r strwythur rheoli lleiaf yng Nghymru ac y byddent yn edrych ar y strwythur eto o ystyried oherwydd bod un o’i Brif Weithredwyr yn gadael.  O ran gohirio recriwtio, roedd proses o ragdybiaethau eisoes wedi’i chynnwys yn y weithdrefn recriwtio ar gyfer pob swydd, a phan fyddai swydd wag yn codi, byddai’r ddadl dros lenwi’r swydd wag honno ai peidio yn cael ei herio’n drylwyr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn gobeithio derbyn dogfen ysgrifenedig ar y canlyniadau a’r gwerthusiad ohonynt.  Soniodd am y cronfeydd wrth gefn a oedd wedi’u clustnodi, ac nad oedd yn credu eu bod yn gronfeydd wrth gefn ond yn hytrach yn falansau gwasanaeth a oedd wedi’u rhoi i’r neilltu yn y flwyddyn flaenorol ac nad oeddent wedi’u defnyddio ar gyfer eu diben gwreiddiol.  Credai ei bod yn bosibl dychwelyd y swm hwn o £2.45 miliwn i’r gyllideb gydag achos busnes yn cael ei ddarparu ar gyfer unrhyw gyllid a oedd ei angen o hyd.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhai pethau yn anhysbys, megis y nifer o breswylwyr a oedd eisiau defnyddio a thalu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd.  Maes arall oedd y dyfarniad cyflogau a’r angen i gadw cronfeydd wrth gefn pe na fyddai’r dyfarniad yn cael ei ariannu’n genedlaethol.  Nid oedd yn bosibl rhagweld canlyniadau pethau nad ydynt wedi digwydd eto.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, y rhagwelwyd y byddent yn £4.2 miliwn erbyn diwedd Mawrth, ond y gallai hyn newid, a dywedodd bod angen ystyried fforddiadwyedd a chynaliadwyedd.  Roedd angen diogelu cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi, gymaint â phosibl, a soniodd hefyd am risg sylweddol y dyfarniad cyflogau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y sefyllfa yn un ddifrifol a’i fod yn gweld sefyllfa lle na fyddai costau chwyddiant ar gyfer ysgolion yn cael eu talu.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor a Chaffael Newid Sefydliadol y diwrnod canlynol, roeddent wedi trafod asedau ac esboniodd bod Camau 3 a 4 Neuadd y Sir yn wag ac y byddent yn cael eu dymchwel.  Roedd yr opsiynau’n cael eu hadolygu ar gyfer gwerthu rhannau o’r safle cyfan er mwyn cynhyrchu derbyniadau cyfalaf.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ellis ei phryder am sefyllfa’r ysgolion a gofal cymdeithasol a dywedodd bod angen archwilio dyfodol Neuadd y Sir gyda derbyniadau cyfalaf yn cael eu rhoi yn y rhaglen gyfalaf.  Yr unig beth y gallai ysgolion ei wneud yn awr oedd cysylltu â Llywodraeth Cymru.  Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yn rhaid i unrhyw arian a fyddai’n cael ei gynhyrchu o werthu asedau fynd tuag at y rhaglen gyfalaf ac nid y gyllideb refeniw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod yn rhaid pennu cyllideb gyfreithiol.  Dywedodd bod angen mynd i’r afael â’r broblem yn llygad y ffynnon, sef Llywodraeth y DU.

 

Wrth bleidleisio ar hyn, cafodd yr argymhellion, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol, eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNIAD:

 

(a)       Bod angen nodi bod Camau Un a Dau y gyllideb wedi’u cwblhau, ac eithrio opsiynau Cam Dau ar gyfer cyllid ysgolion, taliadau meysydd parcio a lefelau’r Dreth Gyngor, a bod tri chais wedi’u gwneud i Lywodraeth Cymru, sy’n cael eu negodi yn awr;

 

(b)       Nodi a chymeradwyo’r rhagolygon terfynol ar gyfer 2018/19 gan ystyried yr adolygiad o’r pwysau costau yn ystod y flwyddyn a’u heffaith arfaethedig ar y flwyddyn ganlynol;

 

(c)        Nodi’r trefniadau ar gyfer trydydd cham a cham olaf y broses o bennu’r gyllideb;

 

(d)       Bod angen tynnu sylw Gweinidog y Cabinet i’r pryderon er mwyn gallu ymateb ar unwaith a chynorthwyo Cyngor a oedd yn sefyll i fyny yn erbyn cyni er mwyn cefnogi gwasanaethau lleol, ac ysgolion yn benodol.  Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach ar gyfer y Cyngor hwn.

Dogfennau ategol: