Agenda item
Cyflwyno'r Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint
Adroddiad y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) – Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad
I gynorthwyo Aelodau, mae’r dogfennau canlynol wedi’u hatodi:
- Copi o adroddiad y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant)
- Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
- Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn
Cofnodion:
Ar ran y llofnodwyr galw i mewn, siaradodd y Cynghorydd Mike Peers i ddechrau. Tynnodd sylw’r Pwyllgor at arolwg diweddar ym mhapur newydd y Leader lle’r oedd 88% o ymatebwyr yn erbyn codi ffi am gasglu gwastraff gardd a 12% yn unig o blaid. Hefyd cyfeiriodd at negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned yn gwrthod y cynnig.
Rheswm 1: Nid yw’r cynigion yn alinio gyda Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer Casglu Gwastraff yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Peers fod y penderfynwyr wedi methu pwynt y Glasbrint, sef hybu compostio cynnyrch cartref a chyflwyno ffioedd ar gyfer casglu gwastraff gardd. Ategodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd y cynnig yn alinio gyda’r glasbrint yr oedd yn tybio fod yr holl Aelodau wedi’i ddarllen. Dywedodd fod y glasbrint yn rhagweld dull dau gam gyda chompostio i ddechrau ac yna codi tâl gyda’r bwriad i gyflawni dim gwastraff a lleihau’r ôl-troed carbon. Roedd yr elfen codi tâl gyda’r Glasbrint Gwastraff wedi’i fwriadu fel ysgogiad i leihau gwastraff a chostau tirlenwi ac nid creu llif incwm i’r Sir. Dywedodd y dylid codi tâl os bydd popeth arall yn methu, gyda chompostio fel moronen a chodi tâl yn ffôn fawr.
Rheswm 2: Cabinet yn ystyried cymeradwyo’r cynigion yn defnyddio Cofnodion Craffu wedi eu cymeradwyo ac anghywir.
Atgoffodd y Cynghorydd Peers y Pwyllgor nad oedd y cofnodion a ddefnyddiwyd yn y Cabinet wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ac roeddent yn anghywir oherwydd diffyg manylder ar ei gynnig.
Rheswm 3: Nid oedd y cynigion yn ystyried pobl h?n a diamddiffyn o’r cyflwyniad arfaethedig o ffioedd gwastraff gardd ar 1 Ebrill 2018.
Roedd y Cynghorydd Peers yn teimlo nad oedd yr effaith ar bobl h?n a diamddiffyn wedi’i ystyried yn iawn; barn oedd yn cael ei adleisio gan y Cynghorydd Richard Jones oedd yn teimlo bod y ffi yn annheg a byddai’n effeithio ar bobl heb gerbyd.
Rheswm 4: Mae’r ffioedd yn afresymol, yn groes i Ddeddf yr Amgylchedd 1990 ac o’u cymharu ag awdurdodau lleol eraill.
Barn y Cynghorydd Peers oedd bod y ffioedd a gynigiwyd yn uwch na’r ffioedd gan awdurdodau cyfagos. Aeth ymlaen i ddweud bod y cynnig i godi ffi am yr ail a’r trydydd bin yn anghymesur ac yn afresymol.
Roedd y Cynghorydd Richard Jones wedi nodi capasiti'r biniau gwastraff gardd a ddefnyddir gan dri o Awdurdodau Gogledd Cymru a Chyngor Cilgwri ynghyd â’r ffioedd. Dywedodd fod y ffigyrau hyn yn dangos y bydd y cynigion ar gyfer codi tâl yn Sir y Fflint llawer drutach nag awdurdodau eraill oherwydd capasiti ciwbig y biniau ac amlder casglu. Teimlodd nad oedd y dull hwn yn deg nac yn gynaliadwy.
Rheswm 5: Er mwyn asesu adfer cost llawn, nid yw costau manwl y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn hysbys ac nid oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiadau Craffu na Chabinet.
Roedd y Cynghorydd Peers yn gofyn a oedd corff fel CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth) wedi’i ddefnyddio i gefnogi’r Cyngor i weithredu’r Glasbrint.Roedd o’r farn nad oedd y Glasbrint yn rhagweld y byddai’r arian casglu gwastraff gwyrdd yn cael ei ddefnyddio i groes gymorthdalu ailgylchu sych neu gasglu bwyd.
Aeth y Cynghorydd Richard Jones ymlaen i ddweud bod y dull adfer cost llawn yn groes i’r cyngor glasbrint. Roedd o’r farn na fyddai pobl yn cyfrannu at gynllun oedd yn ddrud ac yn ymddangos yn afresymol, a byddent yn dod o hyd i ffyrdd eraill i arbed £30 y flwyddyn naill ai drwy gompostio, teithio i safleoedd HRC, tipio anghyfreithlon neu adael i’r gwastraff gardd gronni. Roedd yn rhagweld y byddai’r nifer fyddai’n defnyddio'r gwasanaeth yn is na’r disgwyl. . Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i gyfeirio at ganllawiau WRAP (Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau) oedd yn pwysleisio darparu biniau compost a gofynnodd pa un a oedd y Cyngor yn gallu darparu’r rhain gan eu bod angen bod yn effeithiol ac yn werth am arian.
Dywedodd y Cynghorydd Hutchinson nad oedd unrhyw elfen o gefnogaeth yn y cynigion presennol i’r sawl nad oedd yn gallu fforddio talu’r ffi. Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus bod diffyg Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn yr adroddiad gwreiddiol a dderbyniwyd gan y Pwyllgor ar 20 Tachwedd. Felly, ei brif bryder am y cynigion oedd y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd i’r Aelodau.
Wrth gwblhau’r cyflwyniad gan y dechreuwyr, cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at baragraff 3.05 yn adroddiad y Cabinet. Roedd hwn yn cyfeirio at gyfnod pellach o ymgynghori unwaith yr oedd y gwasanaeth wedi’i sefydlu i edrych ar faterion fel blwyddyn lawn yn hytrach na chasgliad ar gyfer rhan o’r flwyddyn ar gyfer defnyddio dulliau talu microsglodyn a chyfraddau gostyngol i drigolion ar fudd-daliadau. Dywedodd y dylai hyn fod yn rhan o’r cynllun o’r dechrau. Aeth ymlaen i son am Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog a’r effaith bosibl ar gyn-filwyr sy’n cynnwys garddio fel eu hunig ddiddordeb. Roedd hefyd yn bryderus am allu systemau TG y Cyngor i ddelio gyda llwyth o geisiadau am y gwasanaeth. Aeth ymlaen i son am sut yr oedd sylwadau a wnaed gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Carolyn Thomas wedi eu cyflwyno yn y wasg.
Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at y cyn Gampws Ysgol Uwchradd John Summers a’r gost o sicrhau diogelwch yr adeilad 24 awr y dydd. Roedd yn erfyn ar y Cyngor i’w ddymchwel a galluogi arbedion o tua £60,000 sef y tâl presennol ar gyfer cyfraddau annomestig. Byddai hyn yn cyfrannu at y diffyg yn y gyllideb.
Ymatebion gan y penderfynwyr
Diolchodd y Prif Weithredwr i’r rhai oedd wedi Galw i Mewn am eglurhad trylwyr. O ran y broses, atgoffodd y Pwyllgor bod Polisi Corfforaethol ar gyfer ffioedd a thaliadau wedi bod ar waith ers y llynedd. Un o egwyddorion y polisi oedd adfer cost llawn gwasanaethau dewisol lle bo’n bosibl.
O safbwynt y defnydd o gofnodion heb eu cymeradwyo, eglurodd y Prif Weithredwr y gwnaed yn glir mai cofnodion drafft oedd y rhain. Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wedi pwysleisio hyn pan wnaeth eu cyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet, i gynorthwyo gyda’u hystyriaethau.Roeddent wedi eu rhannu i gynorthwyo'r drafodaeth. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon eu bod yn adlewyrchu’r drafodaeth a gynhaliwyd yn gywir. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai protocol ar y defnydd o gofnodion drafft yn cael ei baratoi i osgoi unrhyw ddryswch neu her arall yn y dyfodol. Gan gyfeirio at y Glasbrint Gwastraff, atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau nad oedd casglu gwastraff gardd yn wasanaeth gorfodol. Roedd yn cydnabod bod yna ddilysrwydd i’r ddadl capasiti biniau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jones ond pwysleisiodd y dylid adfer y costau o ddarparu gwasanaeth nad yw'n orfodol fel targed gwaith ar gyfer lefel incwm i'r Cyngor. Byddai’r gost i dai sy’n derbyn y gwasanaeth yn llawer llai na £1 yr wythnos.
Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i egluro i’r Pwyllgor er nad oedd CIPFA, fel y soniwyd gan y Cynghorydd Peers wedi’i ddefnyddio, roedd y Cyngor wedi dod â Deloittes i mewn y llynedd, cwmni cyngor ariannol ac ymgynghoriaeth mawr. Roeddent wedi cynnal asesiad o ffioedd a thaliadau’r Cyngor, fel rhan o adolygiad a arweiniodd at fabwysiadu'r polisi ffioedd a thaliadau corfforaethol gyda phwyslais ar adfer costau llawn i wasanaethau.
Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i egluro yn ystod cyflwyniad y symbylwr o’u hachos roedd wedi nodi pwyntiau amlwg i ymatebion manwl fel a ganlyn:-
(i) Hybu compostio cynnyrch cartref yn well;
(ii) Ystyried maint bin;
(iii) Sail cost;
(iv) Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
(v) Y broses adolygu
(vi) Cadarnrwydd y ddadl derbyn
Wrth gyfeirio at yr adolygiad, awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai gynnwys: sut gall y Cyngor wella cyfraddau compostio; yr effaith ar bobl ddiamddiffyn o ran eu cyfraniad oherwydd fforddiadwyedd, ystyried maint bin mwy e.e. 240L, y cyfraddau derbyn a monitro unrhyw gynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Gwahoddodd gydweithwyr i gyflwyno sylwadau ar y pwyntiau hynny.
Atgoffodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd y Pwyllgor bod y ffioedd yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i Lywodraeth Cymru yn gostwng y Grant Amgylchedd Sengl dros y 2 flynedd ddiwethaf. Rhagwelir gostyngiadau pellach ar gyfer y dyfodol. Eglurodd mai bwriad ei sylwadau ym mhapur newydd y Leader oedd cyfleu pwysigrwydd codi ffi am wasanaethau nad oedd yn orfodol er mwyn gwarchod gwasanaethau gorfodol fel Addysg rhag toriadau. Roedd yn cydnabod dilysrwydd hybu mwy o gompostio cynnyrch cartref a dywedodd y gellir cynnwys gwybodaeth am hyn yn y taflenni yngl?n â chyflwyno ffioedd casglu gwastraff gardd. Roedd y ffioedd arfaethedig o 83c yr wythnos yn cynrychioli gwerth am arian.
Roedd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yn cefnogi sylwadau’r Aelod Cabinet a chyfeiriodd at y ddolen yn yr adroddiad gwreiddiol i nodyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai’r Cyngor Sir godi ffioedd am gasgliadau gwastraff gwyrdd. Roedd Llywodraeth Cymru yn darparu £3miliwn o Grant Amgylchedd Sengl i'r Cyngor ar hyn o bryd ac felly roedd eu barn yn bwysig. Dywedodd fod y Cyngor wedi darparu biniau compost yn y gorffennol, a thrwy grant wedi gallu eu cynnig am ddim. Roedd darparu biniau compost am gost yn bosibilrwydd y gellir ei ymchwilio a gellir cyflwyno canllawiau ar hyn.
O safbwynt cadarnhau’r gost, roedd manylion wedi eu dosbarthu i’r Pwyllgor y bore hwnnw oedd yn nodi’r angen i dalu’n llawn am y Gwasanaeth Gwastraff Gardd i alluogi’r Grant Amgylchedd Sengl gefnogi gweddill y gwasanaeth. Roedd yn gwerthfawrogi’r pryderon i’r bobl h?n a diamddiffyn a dywedodd y byddai hyn yn rhywbeth fyddai’n cael ei asesu yn y flwyddyn gyntaf, fel dull dysgu ac awgrymwyd y gall y Pwyllgor Adolygu hyn fel rhan o'i rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Aeth ymlaen i atgoffa’r Pwyllgor fod gan Sir y Fflint bump canolfan ailgylchu gwastraff tai wedi eu lleoli'n strategol ac roedd 90% o'r boblogaeth o fewn 3 milltir neu 15 munud o siwrnai mewn car o'u cartref. Byddai’r Gwasanaeth Casglu â Chymorth ar gyfer y sawl oedd ei angen yn parhau i weithredu ac yn parhau yn rhad ac am ddim. Byddai cynigion ar gyfer cynllun wrth gefn yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau y flwyddyn nesaf, fel rhan o'r adolygiad.
Gan gyfeirio at y pryder am fwy o dipio anghyfreithlon, atgoffodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor bod hyn yn drosedd ond nad oedd unrhyw dystiolaeth o gynnydd o fewn Cynghorau oedd eisoes wedi cyflwyno ffi. Roedd yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gynnal a byddai’n cael ei ddosbarthu i Aelodau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet fod Strydwedd yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff o amgylch 60,000 o gartrefi a bod y gyfradd methu casgliadau yn llai na 0.08%.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi eistedd i mewn ar gyfer y rhan fwyaf o drafodaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym mis Tachwedd ac nad oedd wedi clywed llawer o bethau newydd gan y sawl oedd yn Galw i Mewn. Roedd y Cabinet wedi gwneud ei benderfynaid gyda’r wybodaeth o argymhellion cynt y Pwyllgor a eglurwyd iddo gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn y cyfarfod ar 19 Rhagfyr. Dylai’r egwyddor gynnwys adfer cost llawn. Os na chyflawnir hyn byddai’n cael effaith ddifrifol mewn mannau eraill. Dywedodd fod y Cabinet wedi ymrwymo i beidio gwneud toriadau mewn gwasanaethau i gydbwyso’r gyllideb.
Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a’r effaith posibl o ostyngiadau i’r cartrefi hynny. Aeth ymlaen i son am sylwadau Aelodau’r Cabinet yn cael eu hystyried allan o gyd-destun yn y wasg. Ymatebodd y Cynghorydd Carver nad oedd wedi camddehongli sylwadau’r Cynghorydd Thomas: yn syml roedd wedi darllen y sylwadau a briodolwyd gan y newyddiadurwr oedd wedi ysgrifennu’r stori.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Carver, dywedodd y Prif Swyddog fod gan ICT y capasiti i weithredu'r cynllun a bod trefniadau eisoes wedi eu gwneud ar gyfer hyn. Hefyd, eglurodd os byddai’r Pwyllgor yn penderfynu argymell peidio codi tâl am yr ail a’r trydydd bin gan y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar y gyllideb.
Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Atgoffodd y Cynghorydd Paul Shotton gydweithwyr y byddai’r Cyngor yn codi llai na £1 yr wythnos am wasanaeth a oedd yn ddewisol. Roedd y Grant Amgylchedd Sengl wedi’i dorri dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn fodlon y byddai’r mater compostio cynnyrch cartref yn derbyn sylw ac ar sail hynny roedd yn cynnig Dewis 1.
Roedd y Cynghorydd Dave Healey hefyd yn cefnogi Dewis1 a dywedodd y bu’n benderfyniad cyfrifol i godi ffi am gasglu gwastraff gwyrdd. Roedd hyn yn rhan o ddarlun mwy: y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cyfarfod yn hwyrach yn yr wythnos i ystyried Cyllideb Ysgolion, oedd hefyd o dan bwysau. Roedd Aelodau eraill yn cefnogi ei farn.
Roedd y Cynghorydd Gay yn gwrthod cyflwyno’r ffi a gofynnodd am bleidlais wedi'i chofnodi ar y mater. Roedd gan y Cynghorydd Owen Thomas nifer o bryderon am allu Strydwedd i ddarparu’r gwasanaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn ystyried cyllideb arian gwastad i ysgolion yn ei gyfarfod brynhawn dydd Iau. Roedd y Cyngor yn parhau heb gydbwyso’r gyllideb a dyma oedd realiti sefyllfa’r gyllideb.
Cytunodd y Cynghorydd Haydn Bateman nad oedd unrhyw un yn hapus i gyflwyno’r ffioedd arfaethedig ond awgrymodd y byddai’r rhain yn fwy dymunol os byddai’r Cyngor yn cyflwyno biniau 240 litr mwy yn hytrach na’r biniau 140 litr presennol a hefyd cael gwared ar y ffioedd am finiau ychwanegol. Ailbwysleisiodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gellir edrych ar ddarparu biniau mwy ond byddai’n cynnwys cost. Byddai cael gwared ar ffioedd am ail a thrydydd bin yn bendant yn cynyddu costau.
Roedd y Cynghorydd Dolphin yn llongyfarch symbylwyr y Galw i Mewn gan fod eu camau wedi ysgogi meddwl am nifer o faterion fel darparu biniau compost rhatach.
Yn dilyn y drafodaeth, gwahoddodd y Cadeirydd y Symbylwyr a’r Penderfynwyr i grynhoi eu dadleuon.
Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Pwyllgor am eu hystyriaeth a phwysleisiodd ei fod yn parhau i ddadlau’r elfen costau adfer gan ei fod yn teimlo bod y drefn ffioedd arfaethedig uwchben adfer costau ac nad oedd yna unrhyw beth i’w gynnig i bobl h?n, diamddiffyn a heb gludiant. Roedd yn cydnabod y byddai’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei ddosbarthu. Roedd yn parhau i deimlo y dylai’r mater ddychwelyd i’r Cabinet. Roedd y farn hon yn cael ei hadleisio gan y Cynghorydd Richard Jones oedd yn fwy pryderus am resymoldeb y ffioedd gan y dywedodd o dan y cynigion presennol y byddai Sir y Fflint naill ai'n codi dwbl neu 2.5 gwaith yn fwy nag unrhyw gyngor arall.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Weithredwr nad oedd hwn yn wasanaeth gorfodol ac y byddai’r syniadau a gyflwynwyd heddiw ar gompostio wedi eu hystyried.
Er mwyn galluogi’r Pwyllgor i wneud Penderfyniad, gwahoddodd y Cadeirydd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i egluro’r broses gwneud penderfyniad, a fyddai’n cynnwys pleidlais wedi'i chofnodi.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mewn Pwyllgor, mai'r nifer o Aelodau oedd eu hangen i ofyn am bleidlais wedi’i chofnodi oedd pedwar. Yna roedd y nifer gofynnol o Aelodau yn dangos eu cefnogaeth. Roedd y Cynghorydd Paul Shotton wedi argymell Dewis 1 yn gynt, ar ôl ystyried penderfyniad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu roedd yn fodlon gyda’r eglurhad a dderbyniodd. Roedd y Cynghorydd Dave Healey yn eilio hyn. Roedd y Cynghorydd Chris Dolphin wedi cynnig Dewis 4, ond eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer galw i mewn, roedd pob Dewis angen pleidlais arno yn ei dro, cyn y gellir ystyried dewis pellach.
Wrth gynnal pleidlais, cafodd Dewis 1 ei gario fel a ganlyn:-
O blaid y Cynnig: Councillors Ray Hughes, Haydn Bateman, Sean Bibby, Andy Dunbobbin, Dave Healey, Ian Dunbar, Dave Hughes, Joe Johnson, Vicky Perfect a Paul Shotton.
Yn erbyn y Cynnig:Cynghorwyr Mike Allport, Chris Dolphin, Veronica Gay ac Owen Thomas.
Ymatal: Cynghorydd Colin Legg
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr eglurhad a dderbyniodd, mae’r Pwyllgor yn fodlon a gall y penderfyniad i gyflwyno ffi casglu gwastraff gardd yn Sir y Fflint gael ei weithredu.
Cyn yr eitem nesaf, cafodd y Pwyllgor egwyl am 5 munud.
Dogfennau ategol:
- Introduction of Garden Waste Report to Cabinet, eitem 54. PDF 114 KB
- Copy of Record of Decision, eitem 54. PDF 67 KB
- Call in Notice RofD3469 - Garden Waste Charges, eitem 54. PDF 54 KB