Agenda item

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cais am oddefeb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Christine Jones oedd am siarad yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 057808 oedd yn ymwneud â chodi chwe annedd.  Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd wedi datgan cysylltiad personol a chysylltiad sy’n rhagfarnu gan fod safle’r cais wedi ei leol y tu ôl i’w chartref.  Fel arfer byddai’r cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn cael eu trin drwy Bwerau Dirprwyedig a roddwyd i’r Prif Swyddog, fodd bynnag roedd cryfder barn gyhoeddus ar y cais yn golygu y byddai o bosib angen i’r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried.

 

Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro y cynghorwyd Aelodau i ofyn i Aelod arall o’r Pwyllgor Cynllunio weithredu fel Aelod ward ar eu rhan mewn achosion o’r fath, a bod y Cynghorydd Ian Dunbar wedi ei holi yn yr achos hwn.  Byddai hawl gan y Cynghorydd Jones i siarad am dri munud (yr un fath ag aelodau o’r cyhoedd) ond roedd yn ceisio goddefeb am bum munud, sef yr un fath ag Aelodau'r Pwyllgor.  Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi cynghori’r Cynghorydd Jones i wneud cais i siarad am y ddau funud ychwanegol a fyddai’n rhoi digon o amser ac a oedd yn unol â’r amser a roddwyd yn flaenorol i Aelodau eraill.

 

Eglurwyd bod y cais cynllunio eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth amlinellol.  Ar y cam hwnnw, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio am bum munud ac i wneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig i swyddogion ar y mater.  Fodd bynnag, ar 8 Rhagfyr 2014, penderfynodd y Pwyllgor Safonau ddyfarnu goddefeb i siarad am dri munud yn unig, y teimlent oedd yn ddigonol.  Nid oedd y cais am oddefeb i gyfathrebu gyda swyddogion bellach yn berthnasol gan fod hyn bellach yn cael ei ganiatáu o dan y cod ymddygiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at bwysigrwydd cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau goddefeb.

 

Yn dilyn ymholiad gan Mr  Rob Dewey, eglurwyd bod y tir - nad oedd dan berchnogaeth y Cynghorydd Jones - y tu ôl i’w heiddo.  Mynegodd Mr.  Dewey bryder am ddyfarnu goddefeb, oherwydd agosrwydd safle'r cais a mynegodd ei fwriad i ymwrthod rhag pleidleisio.

 

Awgrymodd Mrs. Julia Hughes y dylid cymharu gyda cheisiadau llwyddiannus eraill er mwyn sefydlu cynsail ar agosrwydd at safle’r cais.  Eglurodd Swyddogion na ddylai hyn fod yn ffactor wrth wneud penderfyniadau gan fod gofeddeb wedi ei ddyfarnu i Aelodau yn y gorffennol, pan mai nhw oedd yn berchen ar safle’r cais dan sylw.  Gallai’r Pwyllgor gael ei arwain gan gynseiliau ond rhaid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun.  Mewn ymateb i sylwadau pellach, eglurwyd mai dewis Aelodau oedd ceisio goddefeb yn Sir y Fflint os oeddynt am fynychu'r cyfarfod er mwyn cynorthwyo'r drafodaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, siaradodd Mr  Ken Molyneux o blaid dyfarnu goddefeb i'r Cynghorydd Jones siarad am bum munud yn y Pwyllgor Cynllunio ar y mater cyn gadael yr ystafell.  O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod yr oddefeb yn gymwys am 12 mis a byddai’n cynnwys materion yr oedd yn ei ystyried yn debyg i gais 057808.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu gofeddeb i’r Cynghorydd Christine Jones o dan baragraffau (d) ac (f) o Reoliadau’r Pwyllgor Safonau (Caniatáu Gofeddebau) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais cynllunio 057808, neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg.  Mae’r Cynghorydd Jones i adael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais.  Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 8 Ionawr 2019.

Dogfennau ategol: