Agenda item

Ymddygiad a Chosfarnau am Drwydded Yrru / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) Preifat

Pwrpas: I'rAelodau ystyried ymddygiad a gollfarnau diweddar Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd), a phenderfynu a yw'n parhau i fod yn berson addas a phriodol i barhau i ddal y drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried ymddygiad a dedfrydau diweddar Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) ac i benderfynu a oedd yn parhau i fod unigolyn cymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd gan y Cadeirydd i wneud sylwadau, a darparodd wybodaeth ar ei ddedfryd goryrru diweddar, gan egluro’r rhesymeg y tu ôl i’w benderfyniad dros dderbyn gwaharddiad gyrru byr yn hytrach na phwyntiau cosb ychwanegol.  Esboniodd sut y bu ar frys i godi teithiwr rheolaidd yr oedd angen cymorth arni o ganlyniad i’w hanabledd.  Esboniodd ei fod wedi lleihau nifer yr oriau a’r dyddiau a weithiai ers y ddedfryd er mwyn sicrhau na fyddai effaith ar ei allu i ganolbwyntio yn y dyfodol.

   

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndirol ar y cwynion a wnaed yn ei erbyn.  Ymatebodd i gwestiynau a godwyd gan y panel.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r panel, darparodd yr ymgeisydd eglurhad ynghylch amrywiol agweddau ar y cwynion ac hefyd ar ei gefndir mewn cyflogaeth, gan nodi iddo gael ei gynghori i osod camera ar banel flaen y cerbyd er mwyn ei amddiffyn ei hun rhag unrhyw gwynion yn y dyfodol.

 

Cafwyd cais gan y Cyfreithiwr am eglurhad ar sylwadau a wnaed gan yr ymgeisydd ar waith diweddar yr oedd wedi ymgymryd ag o.  Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi siarad ag aelod o Dîm Trwyddedu’r Cyngor a oedd wedi ei hysbysu y gallai barhau i weithio nes y byddai’r Is-Bwyllgor Trwyddedu wedi cyfarfod i benderfynu a fyddai’n cael cadw ei drwydded. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y panel yn cyrraedd penderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

  Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth â dedfrydau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Rhoddwyd ystyriaeth i’r amgylchiadau ym mhob achos yn ogystal â’r camau rhagofalus yr oedd yr ymgeisydd yn eu cymryd, gan ddod i’r canlyniad fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cytunodd y panel y byddai’n briodol i ddeiliad y drwydded sefyll a phasio’r prawf gwybodaeth yr oedd disgwyl i bob ymgeisydd newydd ei basio cyn bod yn drwyddedig, o fewn chwe wythnos i’r cyfarfod.

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, wedi ystyried y sylwadau a wnaeth, y gallai’r ymgeisydd barhau i ddal trwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat / Cerbyd Hacni.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded             Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth        Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu iddo’r drwydded; ac

 

 (b)      y dylai’r ymgeisydd sefyll a phasio’r prawf gwybodaeth y mae’n rhaid i bob ymgeisydd newydd ei basio cyn bod yn drwyddedig o fewn chwe wythnos i’r cyfarfod.