Agenda item

RHAGOLWG ARIANNOL A CHAM DAU Y GYLLIDEB 2018/19

Pwrpas:        Rhoi (1) rhagolwg ariannol diweddaraf i’r Pwyllgor a (2) ymgynghori ar opsiynau ar gyfer Cam 2 cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu’r rhagolwg ariannol diweddaraf ac i ymgynghori ag Aelodau yngl?n â’r dewisiadau ar gyfer cam dau Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2018/19.

 

                        Manylodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y setliad dros dro a dderbyniwyd ar 10 Hydref 2017 ac fe roddwyd gwybod i’r Aelodau amdano ym mis Tachwedd 2017. Yn dilyn cyhoeddi’r setliad dros dro, cymeradwywyd dewisiadau cyllideb y cam cyntaf gan y Cyngor Sir ar 14 Tachwedd a lleihawyd y bwlch yn y gyllideb o £3.1m. Felly, roedd y bwlch a oedd yn weddill yn £10.5m, ac nid oedd hyn yn cynnwys y peryglon a phwysau yn ystod y flwyddyn.

 

                        Eglurodd y Prif Weithredwr fod dewisiadau cyllideb yr ail gam eisoes wedi’u cyhoeddi mewn gweithdy i Aelodau ar 21 Tachwedd, 2017 a bod y dewisiadau wedi cael eu rhannu i bedwar categori, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Roedd y Cyngor yn ystyriol o’r risgiau mewn perthynas â chyllidebau ysgolion ac felly roedd yn ystyried sut i liniaru’r risgiau hynny wrth symud ymlaen. Manylwyd hefyd yng nghategori 3 yr adroddiad, gofynion penodol Llywodraeth Cymru a gobeithiwyd y byddai cyfarfod â Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal cyn diwedd y flwyddyn. 

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Ian Dunbar sylwadau ar yr Ardoll Brentisiaethau a mynegodd bryder nad oedd llawer o gwmnïau yn fodlon cyflogi prentisiaid yn dilyn cyflwyno’r Ardoll. Gofynnodd a oedd unrhyw adborth wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar gais y Cyngor i adennill 50% o’r gost. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y cais i Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer caniatáu’r Cyngor i barhau i dyfu’r cynllun prentisiaeth a chyflogi mwy o brentisiaid graddedig lle bo bwlch o ran angen wedi’i nodi.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â phrentisiaid graddedig, esboniodd y Prif Weithredwr y byddai cyflogi prentisiaid graddedig yn cynorthwyo â chynllunio ar gyfer olyniaeth ac fe wnaeth sylwadau ar sut oedd y cynllun eisoes wedi helpu prentisiaid i sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith i’r Cyngor gael ei roi mewn sefyllfa ariannol anodd iawn ond cwestiynodd pam nad oedd dewisiadau cyllideb yr ail gam wedi’u cyflwyno i’w hystyried i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gan mai dyna oedd y broses ar gyfer ystyried dewisiadau cyllideb y cam cyntaf yn flaenorol. Cynigodd y dylid cyflwyno adroddiad yn adolygu’r broses ar gyfer gosod y broses gyllideb flynyddol i’w ystyried gan Y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau etholaeth yn y dyfodol. Eiliwyd y dewis hwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom. Ar y dewisiadau i gyllidebau ysgolion barhau yn ‘arian gwastad’, mynegodd y Cynghorydd Healey bryderon o ran yr angen i warchod ysgolion gymaint â phosibl a gwnaeth sylwadau ar gynllun busnes diweddar GwE, a oedd wedi categoreiddio ysgolion cynradd ac uwchradd yn ‘goch’ oherwydd effaith barhaus caledi. Roedd o’r farn y dylai dewisiadau mewn perthynas â chyllidebau ysgolion gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid fel mater brys.

 

            Cytunodd y Prif Weithredwr fod perfformiad ysgolion yn wahanol ar draws Sir y Fflint ac felly dewiswyd parhau i fonitro’r effaith ar ysgolion a darparu cefnogaeth ychwanegol lle bo’r angen yn ddifrifol. Gwnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor sylw ar y broses o osod y gyllideb flynyddol a oedd yn gymharol newydd o ran ystyried dewisiadau cyllideb fesul cam a theimlai fod hyn yn caniatáu ar gyfer trafodaeth a dadl well. Rhannodd y pryderon am gyllidebau ysgolion a dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn am ddealltwriaeth ysgolion yn ystod y cyfnod hwn a dywedodd y byddai’n rhaid i effaith y setliad “arian gwastad” arfaethedig gael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i'r sylwadau am y broses ar gyfer gosod y gyllideb flynyddol ac esboniodd fod Cyfansoddiad y Cyngor wedi gosod y broses ar gyfer Trosolwg a Chraffu i ystyried y dewisiadau cyllideb a gyhoeddwyd gan y Cabinet. Dywedodd fod y broses wedi gwella a bod Aelodau yn cael mwy o rybudd o’r dewisiadau a mwy o gyfle i’w hystyried yn fanwl o gymharu â blynyddoedd blaenorol.     

 

            Diolchodd y Cynghorydd Healey i’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog a’r Cynghorydd Aaron Shotton am eu hymatebion ac am gydnabod yr angen i Drosolwg a Chraffu ystyried dewisiadau cyllideb, yn enwedig cyllidebau ysgolion.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylid cynnal gweithdy ar gyfer yr holl Aelodau i ystyried ffyrdd o greu incwm pellach ar gyfer y Cyngor. Awgrymodd hefyd y dylid gofyn i swyddogion o fewn y Cyngor, sydd ag arbenigedd penodol, fynd i ysgolion i’w cynorthwyo â chynllunio eu cyllidebau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yn gweithio ar y Strategaeth Incwm ac yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth agored gydag Aelodau am ffyrdd o gynhyrchu incwm yn y dyfodol. Esboniodd hefyd y dylai rheolwyr busnes ysgolion fod yn cynnig cymorth a chefnogaeth wrth gynllunio cyllidebau ysgolion ac y byddai’n mynd i’r afael â’r mater hwn yn ystod cyfarfod nesaf Ffederasiwn Penaethiaid Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. 

 

            Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid y sylwadau a wnaed gan y Cynghorwyr Dave Healey a Hilary McGuill. Gwnaeth sylw ar ddewisiadau cyllideb y cam cyntaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 14 Tachwedd 2017, a’r bwlch yn y gyllideb sy'n weddill y manylwyd arno yn yr adroddiad. Dywedodd nad oedd y ffigwr hwn yn gywir o ystyried y gorwariant yn y flwyddyn ariannol bresennol. Rhoddodd sylw hefyd i’r newid strwythurol o fewn y Cyngor a mynegodd bryderon yngl?n â diffyg cydweithrediad â Bwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai elfen o berygl bob amser â Modelau Darparu Amgen, yn enwedig yn ystod y camau cynnar, ac y byddai'r Modelau hyn yn parhau i gael eu monitro gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol. Gwnaeth sylw hefyd ar y datganiadau gwytnwch a luniwyd ar gyfer pob maes gwasanaeth a dywedodd fod y dewisiadau cyllideb ar gyfer yr ail gam yn feysydd a ystyriwyd yn dderbyniol ac ni fyddent yn rhoi’r gwasanaethau hynny mewn perygl. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton nad oedd yn derbyn y pryderon a godwyd mewn perthynas â Bwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Modelau Darparu Amgen gan nad oedd dewisiadau ger bron yr aelodau i leihau’r gyllideb yn y meysydd hyn o fewn cyllideb refeniw 2018/19. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon am nad oedd manylion am y canlyniadau ar ôl gweithredu’r dewisiadau a ddarparwyd o fewn yr adroddiad a theimlai fod hyn yn ei gwneud yn anodd i Aelodau ddeall arwyddocâd y dewisiadau. Soniodd am ansicrwydd y Gronfa Gofal Canolraddol fel y manylwyd yn yr adroddiad ac fe gwestiynodd pam fod hyn wedi’i restru gan fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau y byddai hyn yn parhau. Mynegodd sawl pryder mewn perthynas â’r dewisiadau i gynyddu ffioedd parcio a’r effaith niweidiol a fyddai hyn yn ei gael ar Ganol Tref Bwcle o gymharu â Chanol Trefi eraill ac fe wnaeth sylwadau penodol am Gynllun Glannau Dyfrdwy, a fyddai’n sicrhau nad yw ardal Glannau Dyfrdwy yn cael ei heffeithio gan y toriadau cyllid a gofynnodd i gael gwared ar y dewis hwn.

 

            Ymatebodd y Prif Weithredwr gan ddweud, er i Lywodraeth Cymru gadarnhau y byddai cyllid y Gronfa Gofal Canolraddol yn parhau, roedd y Cyngor yn ceisio cadarnhad o barhad y cyllid penodol hwn er mwyn sicrhau na fyddai’n gorfod ei drafod o un flwyddyn i’r llall.  O ran canlyniadau’r dewisiadau, byddai manylion llawn yr asesiadau risg, effeithiau a chanlyniadau’r holl ddewisiadau cyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr 2018. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton na fyddai’n amddiffyn y cynnydd arfaethedig i ffioedd parcio ond byddai’r maes hwn yn cael ei herio gan Lywodraeth Cymru wedi i’r incwm a gynhyrchwyd gan y Cyngor gael ei feincnodi ag Awdurdodau Lleol cyfagos. Nid oedd cyllid yn uniongyrchol gysylltiedig â Chynllun Glannau Dyfrdwy a byddai’r Cynllun, yn yr un modd â’r Cynllun Canol Tref, yn cynorthwyo â lobïo am gyllid pan fyddai ar gael.   

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i swyddogion am eu gwaith a’r wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r gyllideb, teimlai fod y wybodaeth hon wedi bod yn fuddiol iawn iddo ef fel Aelod newydd o’r Cyngor. Gwnaeth sylw ar y Rhybudd o Gynnig yn galw am ddiwedd ar Galedi Ariannol Llywodraeth y DU, a ystyriwyd gan y Cyngor Sir ar 14 Tachwedd 2017, a gofynnodd beth oedd y Cyngor yn ei wneud i gyfathrebu’r problemau a wynebir, o achos y gostyngiad mewn cyllid, i gymunedau lleol. Esboniodd y Cynghorydd Aaron Shotton fod y Cyngor yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru a darparu tystiolaeth o effaith caledi  drwy’r datganiadau gwytnwch a oedd wedi’u llunio ar gyfer pob maes gwasanaeth. Roedd llawer o ddigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus hefyd wedi’u cynnal ar draws Sir y Fflint i ddarparu gwybodaeth am y sefyllfa ariannol i’r cyhoedd. Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir, yr anfonwyd llythyr at Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a gwasanaethau Llywodraeth Leol a Chyhoeddus, a byddai copi hefyd yn cael ei ddosbarthu ymysg yr holl Aelodau.Dywedodd hefyd ei fod, ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, yn ceisio cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid er mwyn trafod y setliad a phryderon mewn perthynas â chyllid i wasanaethau cyhoeddus wrth symud ymlaen.  

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Andrew Holgate sylw ar Ddatganiad Yr Hydref y Canghellor, lle cyhoeddwyd y byddai Cymru yn derbyn £1.2b o gyllid ychwanegol dros y 4 blynedd nesaf. Eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton fod cyfanswm y cyllid refeniw i’w dderbyn gan Lywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf yn £215m, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu drwy fuddsoddiadau cyfalaf. Croesawodd y Prif Weithredwr y buddsoddiad cyfalaf mewn perthynas â  seilwaith a thai a dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn egluro yn ddiweddarach sut allai’r cyllid refeniw ychwanegol effeithio ar Awdurdodau Lleol.

 

            Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Patrick Heesom am gyllidebau sylfaenol, Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol a Modelau Darparu Amgen, esboniodd y Cynghorydd Aaron Shotton fod y Cyngor, bedair blynedd yn ôl bellach, wedi cyflwyno cynllun busnes 3 blynedd ar gyfer pob maes gwasanaeth i fodloni’r targedau arbedion arfaethedig o 30% yn eithrio ysgolion a gwasanaethau gofal cymdeithasol rheng flaen.Roedd cyflwyno Modelau Darparu Amgen wedi caniatáu i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd wahanol yn hytrach na gorfod tynnu gwasanaethau yn ôl.     

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas at awgrym cynharach gan y Cynghorydd McGuill a gofynnodd a fyddai’n bosib trefnu gweithdy ar Gynhyrchu Incwm yn y Flwyddyn Newydd. Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones i’r wybodaeth ar ganlyniadau dewisiadau cyllideb yr ail gam gael ei darparu i Aelodau. 

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn y drafodaeth, y byddai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn ymgynnull ym mis Ionawr i adolygu’r ffioedd parcio a’r dewisiadau cyllideb ysgolion yn fanwl, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r dewisiadau hyn, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Ar ôl ystyried dewisiadau cyllideb yr ail gam, nodi’r adroddiad a’r dewisiadau;

 

 (b)      Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlen;        

 

(c)       Dosbarthu’r llythyr a anfonwyd at Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a GwasanaethauLlywodraeth Leol a Chyhoeddus a’r Datganiadau Gwydnwch ymysg yr holl Aelodau;

 

 (d)      Dylid sicrhau bod holl fanylion yr asesiadau risg, effeithiau a           chanlyniadau'r dewisiadau cyllideb ar gael i’w hadolygu  ym mis Ionawr;

 

(e)      Ymgynnull Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctidym mis Ionawr i adolygu'r ffioedd parcio a’rdewisiadau cyllideb ysgolion yn fanwl, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r dewisiadau, cyn gwneudpenderfyniad terfynol; a     

 

(f)       Pharatoi adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol ar gyfer cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataiddar 31 Ionawr 2018.

Dogfennau ategol: