Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Daeth un Rhybudd o Gynnig i law:

 

Y Cynghorydd Richard Jones:

 

“(1)      Bod y Cyngor hwn yn buddsoddi’n gyfartal ym mhob un o drefi Sir y Fflint mewn perthynas â Chefnogi Seilwaith unrhyw fuddsoddiad refeniw neu gyfalaf i:

 

 (a)      Adeiladu neu wella rhwydweithiau priffyrdd a chludiant (ffyrdd, rheilffyrdd, llwybrau beicio neu lwybrau troed), gan gynnwys parcio

 (b)      Ailddatblygu neu adfywio trefi, strydluniau neu fannau hamdden, gan gynnwys TCC

 (c)       Adeiladu neu ailddatblygu tai, gan gynnwys tai cymunedol megis gofal ychwanegol

 

(2)       Yr adroddir ar y lefelau buddsoddi priodol, yn dangos cyllid allanol a mewnol, fel rhan o adroddiadau’r Strategaeth Refeniw a Chyfalaf i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter”.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Attridge y geiriau ychwanegol i’r Rhybudd o Gynnig a anfonwyd allan ym mhecyn y rhaglen, ac fe'i hysbyswyd gan y Prif Weithredwr bod y geiriau “i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter” wedi cael eu hychwanegu i (2) yn dilyn cyngor a roddwyd i’r Cynghorydd Jones ar sail y gwaith y byddai angen ei wneud pe bai’r Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

Wrth siarad o blaid ei Rybudd o Gynnig, ychwanegodd y Cynghorydd Jones y bu digon i bawb yn y gorffennol, pan oedd mwy o gyllid ac adnoddau ar gael i’r awdurdod lleol.  Dan yr amgylchiadau hynny, doedd dim cymaint o angen craffu'n agos ar y gwariant mewn trefi a chymunedau.  O ganlyniad i ddwyster yr her ariannol y mae’r Awdurdod bellach yn ei hwynebu, roedd pawb yn ymwybodol bod y sefyllfa hon wedi newid.  Ni ellid dibynnu ar setliadau ariannol Llywodraeth Cymru (LlC) i ddarparu digon o gyllid i osgoi straen pellach ar ein cyllidebau, sydd eisoes wedi’u hymestyn.  Roedd sefyllfa ariannol Sir y Fflint yn ei gwneud yn anoddach sicrhau unrhyw arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol ac roedd angen craffu’n fwy manwl.  Ymhellach, roedd yn amlwg bod yr adnoddau hynny oedd ar gael wedi’u lleihau, felly roedd mwy  o angen ystyried  a oedd yr egwyddor o arian cyfatebol a gwariant anghyfartal yn Sir y Fflint yn ddull teg a thryloyw.  Efallai na fu i’r dull hwn ganiatáu i bob un o'r trigolion ddeall a oedd eu tref hwy’n elwa neu ai i’r etholedig rai roedd yr adnoddau’n mynd.  Roedd arian cyfatebol a gwariant anghyfartal mewn un ardal yn disbyddu’r adnoddau oedd yn weddill gymaint fel nad oedd ond ychydig ar ôl, os o gwbl, i’r trefi a’r cymunedau eraill, a chredai bod y sefyllfa’n annheg ac yn anghynaladwy.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peers.

 

Siaradodd y Cynghorydd Shotton yn erbyn y Rhybudd o Gynnig, ond diolchodd i’r Cynghorydd Jones am y cyfle i drafod.  Er ei fod yn deall y teimlad y tu ôl i’r Rhybudd o Gynnig, gofynnodd i’r Aelodau ddeall y goblygiadau a’r canlyniadau pe byddai’n cael ei basio.  Roedd y Cyngor eisoes yn gwneud ei orau dan amgylchiadau anodd mewn trefi a phentrefi ledled y Sir, pob un â’i hunaniaeth ei hun. Cynigiodd rai enghreifftiau o gynlluniau cyfredol: (1) olynydd Cymunedau Llewyrchus Llawn Addewid, sef y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio (TRIP) a’r cyfle i dref Treffynnon dderbyn y cyllid adfywio hwnnw; a (2) fel rhan o Gynllun y cyngor, blaenoriaethwyd ehangu darpariaeth gwelyau gofal preswyl trwy’r rhaglen gyfalaf yn Marleyfield House ym Mwcle ar sail yr angen a amlygwyd yn ne’r Sir.  Pe cefnogwyd y Rhybudd o Gynnig, byddai’n cyfyngu ar y cyfle i fwrw ymlaen â’r buddsoddiadau hynny, gan y byddai angen yr un faint o gyllid ym mhob tref, a byddai hynny'n arwain at bopeth ym mhob tref neu ddim byd mewn unrhyw dref.  Canlyniad cefnogi’r Rhybudd o Gynnig fyddai Cyngor fyddai’n methu gwneud penderfyniadau angenrheidiol ar gyfer y Sir gyfan.  Roedd y Cyngor yn gwneud ei orau dros y Sir gyfan yn ystod cyfnod anodd ac roedd y Rhybudd o Gynnig yn afrealistig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei fod yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig, ond gyda rhywfaint o amheuon.  Teimlai y byddai peidio ei gefnogi’n anfon y neges anghywir i bobl y Sir, ond roedd yn cydnabod nad oedd trefi a phentrefi’r Sir angen cymaint o fuddsoddiad cyfartal â’i gilydd.  Fodd bynnag, teimlai nad oedd y Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â chyllido cyfartal yn unig, ond â gwleidyddiaeth.  Roedd wedi meddwl mai gwaith grwpiau annibynnol fyddai dwyn y gr?p Llafur i gyfrif a’i gefnogi pan oeddent yn cytuno ar faterion.  Roedd wedi clywed a bod yn dyst i ymddygiad gwael a bwlio gan Aelodau Llafur ac Annibynnol ill dau tuag at Aelodau eraill.  Roedd rhai Aelodau oedd yn cynrychioli’r un wardiau neu rai cyfagos yn amlwg yn casáu ei gilydd.  Gofynnodd sut y gellid cynrychioli unrhyw gymuned yn briodol dan yr amgylchiadau hynny.  Roedd y Cyngor yn wynebu caledi a thoriadau i wasanaethau, ac os oedd Sir y Fflint am oroesi’r cyfnod anodd hwn, roedd rhaid i Aelodau dynnu ynghyd a gosod materion hanesyddol i un ochr er mwyn gwneud Sir y Fflint yn Sir well a mwy ffyniannus i'r holl drigolion.

 

Galwodd y Cynghorydd Attridge ar y Cynghorydd Kevin Hughes i dynnu ei sylwadau yngl?n â’r gr?p Llafur yn ôl.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi ei glywed gan bob gr?p.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers nad oedd, fel Arweinydd y Gr?p Cynghrair Annibynnol, wedi derbyn unrhyw adroddiadau o fwlio gan y Cynghorydd Kevin Hughes nac unrhyw aelod arall.  Gan gefnogi’r Rhybudd o Gynnig, dywedodd ei bod yn amlwg nad am Fwcle yn unig yr oedd y Cynghorydd Richard Jones yn siarad, ond am y Sir gyfan.  Roedd angen i Aelodau Etholedig edrych ar eu hardaloedd eu hunain a gofyn a oeddent wedi elwa i’r un graddau a rhai o ardaloedd eraill y Sir a dderbyniodd fuddsoddiad dros gyfnod maith.  Gwnaeth sylwadau am y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a Chais Cytundeb Twf Economaidd Gogledd Cymru. Cynhaliwyd gweithdy ar Gais Cytundeb Twf Gogledd Cymru, ond nid oedd llawer o wybodaeth ar gael, er i gwestiynau gael eu gofyn am y Metro a meysydd eraill.  Roedd yna lawer o ddarnau ar goll yr oedd angen atebion ar eu cyfer ac roedd yn ymwneud â bod yn deg ac yn gyfartal ar draws y Sir, nid â chyllid yn unig.  Dylai pawb gael cyfle i elwa ar fuddsoddiad y gallai’r Awdurdod ei ddenu a dylid sicrhau pob cymuned y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i unrhyw angen am wasanaeth, gan rannu’r buddsoddiadau’n gyfartal.   Roedd buddsoddiadau'n dod i law’r Awdurdod, ond nid oeddent yn cael eu rhannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Wooley bod gwahanol leoliadau angen gwahanol fuddsoddiadau, ac y byddai’n anodd dweud y dylai popeth fod yn gyfartal trwy’r amser.  Roedd yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig, ond awgrymodd ychwanegu’r geiriau ‘yn ôl yr angen’ ar ôl y gair ‘cyfartal’ ar y llinell gyntaf.  Gofynnodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd cynigydd ac eilydd y Rhybudd o Gynnig, sef y Cynghorwyr Richard Jones a Peers yn y drefn honno, yn derbyn y diwygiad hwnnw, a dywedasant eu bod. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod nifer o’r siaradwyr a oedd wedi siarad o blaid y cynnig mewn gwirionedd wedi cyflwyno rhesymau cadarn dros ei wrthod.  Gwnaed y gwelliannau i’r ardaloedd a nodwyd yn y Rhybudd o Gynnig fel rhan o raglen flynyddol wedi'i seilio ar flaenoriaethu angen, gan nad oedd angen buddsoddi ym mhob un o’r pethau hynny ar yr un pryd.  Datblygwyd cynlluniau ailddatblygu Canol Trefi ar sail angen, ac roeddent yn cael eu gweithredu pan oedd cyllid LlC yn dod i law.  O ran mannau hamdden, cynhaliwyd arolwg nifer o flynyddoedd yn ôl lle edrychwyd ar yr holl fannau chwarae, a chynhyrchwyd rhestr Coch-Oren-Gwyrdd (COG), gan weithio trwyddi, unwaith yn rhagor ar sail angen.  O ran cynlluniau tai, roedd cynllun mawr ar y gweill ac roedd tai’n cael eu hadeiladu lle'r oedd safleoedd dan berchnogaeth y Cyngor.  Gwnaeth sylwadau hefyd ar leoliadau’r Cartrefi Gofal Ychwanegol, gan ychwanegu bod materion yn cael eu trin yn systematig yn y Sir.  Byddai’r Rhybudd o Gynnig yn ‘taenu’r menyn yn rhy denau’ ac ni fyddai o fudd i unrhyw un.

           

            Siaradodd y Cynghorydd McGuill o blaid y Rhybudd o Gynnig gan fod pob ward yn wahanol, a'i fod wedi’i seilio ar angen.  Siaradodd y Cynghorydd Heesom hefyd o blaid y Cynnig, gan nodi’r angen am Sir gyfunol, gydlynol.  Nododd bod nifer o bobl yn gweld Sir y Fflint fel bwrdd darts gyda Glannau Dyfrdwy yn y canol, a bod angen ystyried yr holl ardaloedd y tu allan hefyd. 

 

            Wrth ymateb i gyhuddiad y Cynghorydd Hughes o fwlio, dywedodd y Cynghorydd Sharps bod y sylw hwnnw'n annerbyniol ac y dylai ymddiheuro.  Nid oedd yn ymwybodol o unrhyw fwlio fel Arweinydd y Gr?p Annibynnol.  Ar y Rhybudd o Gynnig, dywedodd bod problemau o ran plwyfoldeb; roedd yn byw mewn ardal wledig, meddai, ond roedd cyfran deg o’i waith yn cael ei gyflawni yn ei gymuned.

 

Croesawodd y Cynghorydd Ellis y gwelyau ychwanegol yn Marleyfield ym Mwcle a’r gwaith arall a wnaed yn y dref, gan gynnwys adfywio’r dref gyda buddsoddiad Aldi, oedd wedi annog datblygiadau eraill yn y dref.

 

Bu i'r Cynghorwyr Butler, David Healey a Carolyn Thomas oll siarad yn erbyn y Rhybudd o Gynnig, gan nodi mai gwneud y penderfyniadau iawn dros drigolion Sir y Fflint oedd yn bwysig; roedd yn amhosibl gweithredu na monitro’r Rhybudd o Gynnig gan na ellid gwneud popeth ar unwaith a bod pob cynllun yn cael ei gyflawni ar sail angen ac yn cael ei asesu yn y ffordd honno.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am gyngor, gan ddweud bod ychwanegu’r geiriau ‘yn ôl yr angen’ yn gwrthddweud y gair blaenorol, ‘cyfartal’. 

 

            Siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones am Rif (2) y Rhybudd o Gynnig, gan ddweud mai atebolrwydd oedd yr agwedd bwysicaf.  Dywedodd ei bod yn ymddangos fod yna anghysondeb eang ond bod angen atebolrwydd a thryloywder er mwyn i’r Aelodau gael gwybod i ble’r oedd buddsoddiadau’n mynd.  Pe bai pethau o'r fath yn cael eu hadrodd i'r Aelodau, gallent hwythau roi gwybod i drigolion eu wardiau.  Awgrymodd y gellid cyflwyno gwybodaeth o’r fath am ba fuddsoddiadau oedd wedi’u gwneud yn eu cymunedau dros y blynyddoedd diweddar, cyn cynnal etholiad.

 

            Wrth grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod angen gallu dangos i’r trigolion bod pethau’n cael eu gwneud yn yr ardaloedd oedd â’r angen mwyaf.  Roedd rhai rhannau o’r Sir yn teimlo nad oeddent yn cael unrhyw fuddsoddiadau.  Anogodd yr Aelodau i bleidleisio dros degwch a thryloywder, gan ddweud bod gan bawb hawl i gael eu trin yn gyfartal.  Ychwanegodd bod adroddiad o 2010 yn dangos faint a wariwyd ym mhob tref, ond nad oedd gwybodaeth o’r fath ar gael ers y dyddiad hwnnw.  Fodd bynnag, o adroddiad ar Lefydd Llewyrchus Llawn Addewid, gallai weld bod dros £20m wedi cael ei wario rhwng Cei Connah a Queensferry rhwng 2010 a 2016; nid oedd y wybodaeth hon ar gael ar gyfer trefi eraill.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr pe byddai’r Cyngor yn gosod polisi, mai cyfrifoldeb y swyddogion fyddai cynghori ar sut i’w ddehongli yn yr un ysbryd ag y'i bwriadwyd.  Roedd cynnwys y geiriau a awgrymodd y Cynghorydd Woolley yn gwneud synnwyr i’r lleygwr a chawsant eu derbyn gan y cynigydd a’r eilydd.  Fodd bynnag, roedd pwynt y Cynghorydd Attridge yngl?n â bod yn anghyson yn bwynt dilys - nid yw 'cyfartal' yn cyd-fynd ag 'angen'.  Edrychodd ef a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y geiriad diwygiedig ac awgrymu defnyddio’r gair ‘teg’ yn lle ‘cyfartal’.  Ychwanegodd bod y Rhybudd o Gynnig yn awgrymu mewn achosion lle'r oedd gan yr Awdurdod reolaeth dros naill ai’r refeniw neu’r cyfalaf, a dywedodd bod angen i’r Aelodau ystyried, pe bai’r cyllid yn allanol ac wedi’i dargedu ar gyfer ardal benodol, tybed a fyddai disgwyl i’r Cyngor ei wrthbwyso â’i adnoddau cyfalaf cyfyngedig ei hun mewn ardal arall?  Darparodd enghreifftiau o ble gallai hynny ddigwydd fel canlyniad anfwriadol.  Yn dilyn y drafodaeth, a waeth beth fo’r canlyniad, derbyniwyd y gellid darparu gwell proses ar gyfer adrodd sawl gwaith y flwyddyn er mwyn cael tryloywder.

 

Derbyniodd y Cynghorwyr Richard Jones a Peers, fel cynigydd ac eilydd y Rhybudd o Gynnig, yr awgrym a chytuno y dylid defnyddio’r gair ‘teg’ yn lle ‘cyfartal’, gyda’r Rhybudd o Gynnig diwygiedig yn darllen fel a ganlyn:

 

“(1)      Bod y Cyngor hwn yn buddsoddi’n deg, yn ôl yr angen, ym mhob un o drefi Sir y Fflint mewn perthynas â Chefnogi Seilwaith unrhyw fuddsoddiad refeniw neu gyfalaf i:

 

 (a)      Adeiladu neu wella rhwydweithiau priffyrdd a chludiant (ffyrdd, rheilffyrdd, llwybrau beicio neu lwybrau troed), gan gynnwys parcio

 (b)      Ailddatblygu neu adfywio trefi, strydluniau neu fannau hamdden, gan gynnwys TCC

 (c)       Adeiladu neu ailddatblygu tai, gan gynnwys tai cymunedol megis gofal ychwanegol

 

(2)       Yr adroddir ar y lefelau buddsoddi priodol, gan ddangos cyllid allanol a mewnol, fel rhan o adroddiadau’r Strategaeth Refeniw a Chyfalaf i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter”.

 

            Galwodd y Cynghorydd Richard Jones am bleidlais wedi’i chofnodi ac fe’i cefnogwyd gan y nifer ofynnol o Aelodau.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Rhybudd o Gynnig:

 

Mike Allport, Bernie Attridge, Janet Axworthy, Glyn Banks, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Clive Carver, Geoff Collett, Paul Cunningham, Jean Davies, Rob Davies, Ron Davies, Adele Davies-Cooke, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, Carol Ellis, David Evans, George Hardcastle, David Healey, Gladys Healey, Patrick Heesom, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Tudor Jones, Colin Legg, Brian Lloyd, Dave Mackie, Hilary McGuill, Mike Peers, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Small, Ian Smith, Carolyn Thomas, Owen Thomas, Martin White, David Williams, David Wisinger ac Arnold Woolley.

 

Ni phleidleisiodd unrhyw Gynghorydd yn erbyn y Rhybudd o Gynnig nac ymatal.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Richard Jones yn cael ei gefnogi fel a ganlyn:

 

“(1)      Bod y Cyngor hwn yn buddsoddi’n deg, yn ôl yr angen, ym mhob un o drefi Sir y Fflint mewn perthynas â Chefnogi Seilwaith unrhyw fuddsoddiad refeniw neu gyfalaf i:

 

 (a)      Adeiladu neu wella rhwydweithiau priffyrdd a chludiant (ffyrdd, rheilffyrdd, llwybrau beicio neu lwybrau troed), gan gynnwys parcio

 (b)      Ailddatblygu neu adfywio trefi, strydluniau neu fannau hamdden, gan gynnwys TCC

 (c)       Adeiladu neu ailddatblygu tai, gan gynnwys tai cymunedol megis gofal ychwanegol

 

(2)       Yr adroddir ar y lefelau buddsoddi priodol, gan ddangos cyllid allanol a mewnol, fel rhan o adroddiadau’r Strategaeth Refeniw a Chyfalaf i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter”.

Dogfennau ategol: