Agenda item

Rhagolwg Ariannol a Cham Dau y Gyllideb 2018/19

Pwrpas:        Ystyried Dewisiadau Cyllideb Ail Gam ar gyfer Cyllideb 2018/19 Cronfa'r Cyngor ar argymhelliad y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Rhagolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a gyflwynwyd ger bron cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 6 Rhagfyr a chyfarfod arbennig y Cabinet y bore hwnnw.  Roedd yr Aelodau eisoes wedi cael copi o’r argymhellion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol arbennig, a ardystiwyd gan y Cabinet y bore hwnnw.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom pam fod gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y cyfarfod hwn.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yn gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion, ac yn y cyfarfod craffu'r wythnos flaenorol, hysbyswyd yr Aelodau oedd yn bresennol y byddai canlyniad y cyfarfod hwnnw yn cael ei gyfleu i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor Sir.  Drafft oedd yr argymhellion a chynnwys y cofnodion.  Nododd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw, eu bod yn wir yn gofnod teg o’r hyn a gytunwyd.  Yn dilyn sylw pellach gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn adrodd yn gywir yr hyn a benderfynodd y Cabinet y bore hwnnw, gan roi ystyriaeth i benderfyniadau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. 

 

Bu i’r Cabinet gael a derbyn yn llawn y chwe argymhelliad drafft gan Adnoddau Corfforaethol, sef:

 

1.    Ar ôl ystyried dewisiadau Cam 2 y gyllideb, bod yr adroddiad a’r cynigion yn cael eu nodi;

 

2.    Bod y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni yn cael eu nodi;

 

3.    Bod y llythyr i’r Ysgrifenyddion Cabinet Cyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd, yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau;

 

4.    Bod manylion llawn asesiadau o risg, effeithiau a chanlyniadau pob un o gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

 

5.    Bod Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu hymgynnull ym mis Ionawr er mwyn adolygu’n fanwl y ffioedd parcio a chynigion cyllidebau ysgolion yn y drefn honno, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol; a

 

6.    Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

Roedd y Cabinet wedi nodi ac argymell Cam Dau'r gyllideb i’r Cyngor Sir ar yr amod y byddai'r cynigion penodol ar gyllidebau ysgolion a ffioedd parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ym mis Ionawr i’w hadolygu’n llawn, er mwyn iddynt hwy gael adrodd yn ôl cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar y ddau faes hynny.  Nododd y Cabinet hefyd y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn cymeradwyo Cam Un cynigion y gyllideb, bod y bwlch wedi lleihau i £10.5m, ac eithrio effaith unrhyw risgiau a phwysau yn ystod y flwyddyn allai barhau i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd.  Cafodd Cam Dau cynigion y gyllideb eu categoreiddio yn ôl lefel uchel neu lefel isel o reolaeth/sicrwydd a chafwyd y manylion llawn yn adroddiad Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a atodwyd i adroddiad y Cyngor, ac roedd yn amrywio o £7.592m i £9.001m. Roedd y gorwariant rhagamcanol yn ystod y flwyddyn o £1.3m yn cael ei archwilio’n llym a byddai dwyn ymlaen unrhyw orwariant cylchol yn y gyllideb sylfaen yn cynyddu'r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2018/19.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod tri chais cenedlaethol wedi’u gwneud i Lywodraeth Cymru (LlC) ar y Cap ar y Ffi Gofal Cartref (£0.490m), y Gronfa Gofal Canolraddol (£0.500m) a’r Ardoll Treth Prentisiaid (£0.350m), gyda’r ddau gyntaf yn costio dim i LlC. Ni chafwyd cais i newid y fformiwla ond gwnaed y ceisiadau penodol hynny i helpu Sir y Fflint gyda’r bwlch yn y gyllideb.  Eglurodd na fyddai'r ceisiadau hynny yn costio dim i awdurdodau lleol eraill chwaith.  Trefnwyd cyfarfod gyda’r Arweinydd, dau Weinidog y Cabinet ac ef ei hun cyn y Nadolig.

 

Bu i'r Cynghorydd Shotton gadarnhau unwaith eto'r argymhellion gan y Cabinet y bore hwnnw, oedd fel yr eglurwyd gan y Prif Weithredwr.  Eglurodd y cynhaliwyd y broses newydd ar gyfer gosod y gyllideb mewn tri cham bellach, gan bwysleisio pwysigrwydd cynllunio.  Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd y trafodaethau sydd ar ddod gyda LlC i helpu cyrraedd cyllideb fantoledig, yn enwedig ar y tri chais.  Nid oedd y Cabinet yn fodlon “awdurdodi” unrhyw doriadau pellach gan Llywodraeth y DU ar wasanaethau’r Cyngor, ac roedd yn ceisio cefnogaeth LlC i ymladd yn ôl yn erbyn caledi.  Ceisiodd gefnogaeth yr Aelodau, yn enwedig ar gyfer y trafodaethau fyddai’n cael eu cynnal gyda LlC.

 

Gofynnod y Cynghorydd Peers am wybodaeth am y gwariant yn ystod y flwyddyn oedd yn cael ei archwilio’n llym a’r newidiadau negyddol pellach i grantiau penodol, a chytunwyd i'w hanfon ato.  Ar y bwlch o £13.6m yn y gyllideb, dywedodd y byddai bwlch negyddol yn digwydd pan fo’r gwariant yn fwy na'r incwm.  O ran cynigion Cam Dau, yn enwedig ar lefel o ddim rheolaeth na sicrwydd, roedd hyn yn cynnig rhywfaint o risg ac roedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Gofynnodd a oedd yna gynlluniau at raid ar gyfer diwedd Camau Dau a Thri, gan nodi ansicrwydd yng Ngham Un allai newid o hyd.  Ychwanegodd ei fod wedi gofyn nifer o gwestiynau ar Gam Un ond nad oedd wedi cael atebion hyd yma.  Holodd a fyddai’r holl Aelodau’n cael eu gwahodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu pan fydd cyllidebau ysgolion a ffioedd parcio’n cael eu trafod, er mwyn i unrhyw gwestiynau fyddai’n cael eu holi yng nghyfarfod hwn y Cyngor gael eu holi yn y Pwyllgorau hynny.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod gwaith yn mynd rhagddo ar gwestiynau’r Cynghorydd Peers ar Gam Un y gyllideb ar gyfer y Flwyddyn Newydd.  Ar yr archwiliadau llym o’r pwysau yn ystod y flwyddyn, y cwestiwn oedd pa mor ragweladwy oedd yr hyn fyddai'n digwydd y flwyddyn nesaf, gydag un maes yn ymwneud â’r cynnydd mewn gwariant ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.  Bydd posib manylu ar effaith debygol pwysau o’r fath ym mis Ionawr.  O ran grantiau penodol, roedd y Grant Gwella Addysg a Grant Sengl yr Amgylchedd yn sylweddol a bob amser yn hwyr.  Roedd cyfuniad o dair ffordd yn unig y gellid mantoli’r gyllideb: (1) cefnogaeth atodol gan LlC; (2) defnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau fel mesur dros dro; ac/neu (3) toriadau i wasanaethau a chyllidebau fyddai’n arwain at effaith ar wasanaethau megis Gofal Cymdeithasol, Strydwedd ac Addysg, a thrafodwyd y rhain i gyd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Cadeiryddion cyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu bob amser yn croesawu Aelodau eraill i’w cyfarfodydd.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Heesom yr argymhellion gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a roddwyd i’r Aelodau.  Gwnaeth sylwadau ar faint y bwlch yn y gyllideb y mae’r Cyngor yn ei wynebu a theimlai bod ymdeimlad o anobaith o amgylch y sefyllfa roeddent yn ei hwynebu.  Oni fyddai LlC yn fodlon eu cynorthwyo, roedd y sefyllfa’n enbyd. Dywedodd mai'r Weinyddiaeth oedd wedi creu’r sefyllfa ac mai eu cyfrifoldeb hwy oedd tynnu’r Cyngor o’r sefyllfa hon.  Gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos cynt ar Gam Un a hysbyswyd yr Aelodau gan Arweinydd y Cyngor bod y gyllideb wedi cael ei harchwilio fesul llinell, ond dywedodd nad oedd Aelodau eraill mewn Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill wedi cael y cyfle hwnnw.  Hyd yn oed pe sefydlwyd dewisiadau Cam Dau, dim ond £9m fyddai hynny’n ei godi, gan adael bwlch o hyd.  Gofynnodd i’r Prif Weithredwr, o ran y tri dewis y cyfeiriodd atynt, pa ddewisiadau eraill oedd ar ôl, oherwydd os oedd yna ordal yn ychwanegol at godiad posibl o 5% yn Nhreth y Cyngor, roedd angen i'r Aelodau roi gwybod i'w trigolion cyn gynted ag y bo modd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y sefyllfa ariannol yn dra difrifol. Yr Aelodau oedd yn gyfrifol am osod y gyllideb, ar sail cyngor proffesiynol a ddarperir gan Swyddogion y gellid craffu arno wedyn.  Hysbysodd nad oedd yn briodol cyfeirio sylwadau’n bersonol ato ef ar ddewisiadau megis lefelau Treth y Cyngor.  Dywedodd efallai na fyddai angen codi Treth y Cyngor 5% ac ychwanegodd na chrybwyllwyd codiad yn Nhreth y Cyngor gan unrhyw Aelod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos cynt fel maes pryder mawr.  Roedd y Cynghorwyr Richard Jones a David Healey ill dau wedi nodi bod yr argymhellion yn gywir ac fe ddywedodd unwaith eto eu bod wedi’u derbyn gan y Cabinet y bore hwnnw.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) hefyd bod yr argymhellion yn adlewyrchu’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwnnw ac y byddent yn llunio rhan o’r cofnodion drafft i'r Pwyllgor hwnnw eu trafod.  Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, dywedodd y Cynghorydd Carver hefyd eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a gytunwyd.  Dywedodd hefyd ei fod yn croesawu Aelodau eraill i'w gyfarfodydd.  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y dyddiadau fel a ganlyn: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd, 16 Ionawr am 10.00am a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, 18 Ionawr am 2.00pm.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i’r Prif Weithredwr am gyfleu prif bwyntiau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Cododd bryder am y posibilrwydd y gellid teimlo nad yw rhai o'r dewisiadau’n dderbyniol, gan ddyfynnu ffioedd parcio, allai arwain at wneud tref yn anhygyrch, ond nid oedd yn deall y canlyniadau yn ddigon da i allu gwneud penderfyniadau o'r fath.  Teimlai bod Glannau Dyfrdwy yn cael ei ddiogelu oherwydd Cynllun Glannau Dyfrdwy.  Credai y dylid cynnwys y £500k am y Gronfa Gofal Canolraddol yn y ffigurau.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r tri chynnig fyddai á goblygiadau i’r cyhoedd oedd Treth y Cyngor, ysgolion a pharcio, ac roedd dau o’r rheiny wedi cael eu tynnu allan o’r prif adroddiad i’w trafod ar wahân yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y trafodwyd yn flaenorol.  Risg corfforaethol oedd yr holl ddewisiadau eraill ac nid oeddent yn effeithio’r bobl yn uniongyrchol; roedd asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn edrych ar y risgiau i bobl a chymunedau.  Byddai manylion yr asesiadau, yr effeithiau a’r canlyniadau ar gael ym mis Ionawr.  Mewn ymateb i’r pwynt am y Gronfa Gofal Canolraddol, eglurodd nad oedd hwn wedi’i warantu ar y cam cynnar hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey hefyd bod yr argymhellion drafft yn adlewyrchu’n gywir yr hyn a ddywedwyd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac roedd yntau hefyd yn croesawu’r holl Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ym mis Ionawr.  Mynegodd bryder am gyllidebau ysgolion, gan ddweud bod rhai ysgolion yn Lloegr wedi gostwng i bedwar diwrnod yr wythnos er mwyn diwallu pwysau cyllidebol.  Mynegodd ei werthfawrogiad nad oedd sefyllfa o’r fath wedi digwydd yn Sir y Fflint.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr pa mor bwysig oedd hi i ysgolion gael gwybod am y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd, er mwyn eu galluogi i gynllunio ar ei chyfer.  Fel Aelod Cabinet Addysg, dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi mynychu nifer o gyfarfodydd ymgynghori, ac mai’r adborth cyffredinol o ysgolion oedd eu bod yn ddiolchgar am yr hyn yr oedd y Cyngor wedi’i wneud hyd yma, a’u bod yn disgwyl y sefyllfa fel y’i nodwyd.  Fodd bynnag, cytunodd â’r Prif Weithredwr ar bwysigrwydd rhoi’r wybodaeth iddynt cyn gynted ag y bo modd.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn dewisiadau cyllideb Cam Dau o fewn yr adroddiad Craffu ac argymhellion y Cabinet y manylir arnynt isod;

 

 (i)        Derbyn adborth Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gydag argymhelliad i’r Cyngor ar Gam 2 strategaeth y gyllideb;

 

 (ii)       Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni; a

 

 (iii)      Bod y Cabinet yn cael ac yn derbyn yn llawn y 6 argymhelliad drafft gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (rhestrir isod).  Roedd y Cabinet wedi nodi ac argymell Cam 2 y gyllideb i’r Cyngor Sir ar yr amod y byddai'r cynigion penodol ar gyllidebau ysgolion a ffioedd parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ym mis Ionawr i’w hadolygu’n llawn, er mwyn iddynt hwy gael adrodd yn ôl cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar y ddau faes hynny.

 

Argymhellion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:

1.                  Ar ôl ystyried dewisiadau Cam 2 y gyllideb, bod yr adroddiad a’r cynigion yn cael eu nodi;

2.                  Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni;

3.                  Bod y llythyr i’r Ysgrifenyddion Cabinet Cyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd, yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau;

4.                  Bod manylion llawn asesiadau risg, effeithiau a chanlyniadau pob un o gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

5.                  Bod Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu hymgynnull ym mis Ionawr er mwyn adolygu’n fanwl y ffioedd parcio a chynigion cyllidebau ysgolion yn y drefn honno, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol; a

6.                  Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

(2)       Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni; a

 

 (b)      Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni.

Dogfennau ategol: