Agenda item

Penodiad Aelod Annibynnol

Pwrpas:        Penodi aelod annibynnol (cyfetholedig) i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Benodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. Roedd un swydd wag ar y Pwyllgor ar gyfer aelod annibynnol (cyfetholedig) a dwy swydd wag o’r fath gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (ATAGC). 

 

Roedd y Cyngor wedi cynnal ymarfer recriwtio ar y cyd ag ATAGC, gan rannu'r costau hysbysebu.  Hysbysebwyd y swyddi gwag yn y wasg leol, ar y wefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol.  Cafwyd 8 ymgeisydd a lluniwyd rhestr fer yn erbyn meini prawf a oedd wedi’u cytuno’n flaenorol gan y Cyngor Sir.  Roedd mewn cysylltiad ag un o'r ymgeiswyr oedd heb ei gynnwys ar y rhestr fer, oedd yn teimlo bod y broses yn ddiffygiol.

 

Gwahoddwyd pum ymgeisydd i gael cyfweliad gan banel a gytunodd i argymell Julia Hughes i Gyngor Sir y Fflint ac ATAGC, gyda Sally Ellis yn cael ei hargymell ar gyfer yr ail swydd wag yn yr ATAGC.  O ystyried bod Julia Hughes yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Safonau ac i ATAGC, byddai hyn yn galluogi’r ddau awdurdod i rannu'r buddsoddiad mewn hyfforddi, yn rhoi profiad ehangach iddi a hefyd yn rhannu syniadau rhwng y ddau sefydliad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carver y cysylltwyd ag ef gan un o’r ymgeiswyr na chafodd ei roi ar y rhestr fer, oedd yn mynegi ei bryderon am y broses recriwtio a'r nifer isel o ymgeiswyr.  Holodd pam y nodwyd yn yr hysbyseb y gellid hawlio am deithio a chynhaliaeth, ond nad oedd yn nodi’r tâl o £99 am hanner diwrnod neu £198 am ddiwrnod llawn, y teimlai allai fod wedi peri i bobl beidio ag ymgeisio.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych ers 2015 a holodd a fyddai’r tymor o ddwy flynedd hwnnw yn cael ei dynnu oddi ar dymor y swydd yn Sir y Fflint a p’un ai fyddai gwasanaethu ar ddau wahanol Bwyllgor Safonau’n anfantais ai peidio.  Gohiriodd yr eitem er mwyn i Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd gael ei ystyried.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hardcastle.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cafwyd ymateb da y tro hwn o’i gymharu ag achlysuron lle bu’n rhaid ceisio ymgeiswyr.  Ochr yn ochr â’r hysbyseb roedd pecyn cais llawn oedd yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl, gan gynnwys y cyfraddau tâl a nodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Cadarnhaodd nad oedd y ffaith fod aelod yn gwasanaethu ar Bwyllgor Safonau Cyngor arall yn eu diarddel rhag bod yn aelod nac yn effeithio eu tymor yn y swydd.  Byddai’n dod â haen ychwanegol o brofiad yn ei sgil.  Ychwanegodd y dilynwyd y broses recriwtio’n gywir fel y’i nodir mewn deddfwriaeth ac achubodd ar y cyfle i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, y Cynghorydd Arnold Woolley a’r lleygwr, Noella Jones, am fod yn rhan o'r Panel.

 

O'i roi i’r bleidlais, collwyd y diwygiad i ohirio.

 

O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd y cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y byddai’r Cyngor yn penodi Julia Hughes ar y Pwyllgor Safonau tan 2022; ac

 

 (b)      Y dylid diolch i Noella Jones am gymryd rhan.

Dogfennau ategol: