Agenda item

Diweddariad Cyllid a Llwybrau Cyrraedd Targed

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd y sefyllfa ariannol a gwarchod rhag atebolrwydd fel rhan o'r strategaeth llwybr cyrraedd targed ar gyfer rheoli risgiau atebolrwydd.

 

Cofnodion:

             

            Fe wnaeth Mr Middleman grynhoi elfennau sylfaenol o gyllido cynllun pensiwn:-

 

·         Mae’r buddion (h.y. y rhwymedigaethau), yn llifoedd arian sy’n gysylltiedig â chwyddiant i bob pwrpas, yn daladwy dros gyfnod hir iawn o amser.  Mae hyn yn golygu bod y lefel o chwyddiant yn ffactor mawr yn y gost e.e. chwyddiant uwch = rhwymedigaeth uwch = cost uwch.

 

·         Rydych yn cyllido’r buddion a dalwyd drwy falans o enillion ar fuddsoddiad (yn erbyn chwyddiant) a enillwyd a chyfraniadau a dalwyd e.e. po uchaf yw'r enillion yn erbyn chwyddiant a enillwyd dros y tymor hir, po leiaf yw'r cyfraniadau sy'n ofynnol ac i'r gwrthwyneb.

 

             Yn ei hanfod, mae’r strategaeth Llwybr Hedfan yn rhoi mwy o sicrwydd i enillion (dros chwyddiant) a hefyd i ddarparu amddiffyniad yn erbyn newidiadau mewn lefelau chwyddiant disgwyliedig. Yn ganolog i’r strategaeth “mantoli”, sydd yn ei hanfod yn golygu buddsoddi mewn asedau sy’n “cyfateb” y newidiadau mewn rhwymedigaethau yn llawer agosach - gan felly ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn lefel y diffyg.  Mae hyn yn arwain at fwy o sicrwydd/sefydlogrwydd o gyfraniadau ar gyfer gweithwyr sy’n amcan allweddol y strategol.

 

            Y berthynas allweddol yw’r enillion ar fuddsoddiad yn erbyn chwyddiant, ac os yw’r chwyddiant yn cynyddu rydych am i’r enillion ar eich buddsoddiad gynyddu hefyd, o o leiaf yr un swm, i gadw costau’n sefydlog.

 

            Ar hyn o bryd, mae’r lefelau mantoli yn dal yn 20% mewn perthynas â'r gyfradd log a 40% mewn perthynas ag amddiffyn chwyddiant (gyda 100% wedi'i fantoli'n llawn). Roedd y lefel ariannu o flaen y targed yn sylweddol ar 91% (12% ar y blaen) 31 Hydref 2017.

             Ymhellach at hynny, mae’n bwysig gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithlon/amserol o ran y strwythur ac ariannu’r strategaeth.  Mae hyn yn golygu bod amseru unrhyw newidiadau a lefel y farchnad rydych yn gwneud hyn yn bwysig, gan eich bod chi eisiau gwneud hyn yn y dull mwyaf cost effeithiol. Mae’r esiampl o ailstrwythuro'r mandad mantoli yn 2017 yn esiampl o hyn, lle mae disgwyl i hyn gyflawni enillion o £36.5m dros y tymor hir.  

 

            Mae’r gwaith manwl yn cael ei ddirprwyo i swyddogion ac yn cael ei weithredu ar y cyngor a roddwyd i’r Ymgynghorydd Buddsoddi ac Actiwari drwy’r Gr?p Rheoli Risg a Chyllido (FRMG).  Y rhan nesaf o hyn yw ail-ymweld â’r elfen diogelu ecwiti o’r strategaeth, cyn Ebrill 2018, pan fydd y contract cyfredol yn dod i ben.  Bydd y canlyniad yn cael ei adrodd gerbron pwyllgor y dyfodol.

Gan ystyried yr uchod, mae wedi bod yn strategaeth lwyddiannus hyd yn hyn yn erbyn cost y llywodraethu sy’n ei amgylchynu. Ers ei ddechreuad yn 2014, mae wedi lleihau’r diffyg o oddeutu c£140m, gyda phopeth arall yn ddigyfnewid.

Roedd y Cynghorydd Llewelyn-Jones wedi codi cwestiwn yn flaenorol, ynghylch pam fod y costau mor sensitif i newidiadau mewn enillion ar fuddsoddiad yn y dyfodol, fel y caiff ei fesur gan gyfradd disgownt e.e. byddai gostyngiad o 0.25% p.a. mewn enillion ar fuddsoddiad yn lleihau'r lefel ariannu o 4% ac yn cynyddu'r diffyg o £91m. 

            Esboniodd Mr Middleman fod hyn oherwydd y llinell amser a drafodwyd. Mae’r buddion a dalwyd dros gyfnod eithaf hir, ar gyfartaledd o oddeutu 17-18 mlynedd ar draws cyfanswm y Gronfa ar gyfer buddion presennol.  Mae gostyngiad o 0.25% y flwyddyn  yn rhoi colled i chi o oddeutu 4% dros y cyfnod hwnnw, gan fod effaith gronnus flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n compowndio. 

            Cyfeiriodd Mrs Fielder at sylw diweddar mewn digwyddiad CIPFA yng Nghaerdydd, a ddywedodd os oedd sefyllfa ariannol Cronfa wedi gwella’n faterol neu wedi'i gyllido 100% neu drosodd, y dylid meddwl am amddiffyn y sefyllfa a thynnu'r risg oddi yno.  Dyma yn ei hanfod yw cysyniad y strategaeth llwybr hedfan.

             Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith fod y Gyllideb wedi ail-gadarnhau symud y cap cyflog sector cyhoeddus posibl, ac wedi holi beth fyddai’n digwydd i’r Gronfa pe bai’n cael ei dynnu oddi yno?

            Nododd Mr Middleman, yn y prisiad actiwaraidd diwethaf, y tybiwyd fod y dilyniant cyflog yn cael ei gapio ar 1% hyd at 2020, a gafodd ei gynnwys yn y cynllun cyfrannu.

            Os caiff y cap ei symud oddi yno, byddai’r effaith yn dibynnu ar beth fyddai’n cael ei ddyfarnu a gall hyn effeithio ar weithwyr yn wahanol.  Fel esiampl, pe bai’r cynnydd ar gyfartaledd nawr yn 2% p.a. hyd at y flwyddyn 2020, byddai’r effaith ar gyllido’n cynyddu’r diffyg o £15-20 miliwn ar draws y Gronfa.   Gallai hyn olygu cynnydd mewn cyfraniadau diffyg o c£1.5m y flwyddyn.    Yn ogystal, beth a anghofir yn aml yw bod y costau croniad buddion parhaus (15.3% o dâl i'r Gronfa), hefyd yn cynyddu o ran telerau £’oedd, gan fod y cyflogau’n cynyddu fwy nag y cyllidebwyd ar eu cyfer yn flaenorol.

            Nododd Mr Everett nad oedd unrhyw un ag unrhyw amddiffyniad yn erbyn y cap cyflog a dynnwyd oddi yno mewn cyllidebau, felly byddai angen ystyried hyn yn y trafodaethau wrth symud i'r prisiad nesaf.

            Diolchodd y Cadeirydd i Mr Middleman am y diweddariad cadarnhaol ar y cynnydd a’r cefndir i’r strategaeth Llwybr Hedfan i aelodau Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad am y sefyllfa mantoli a chyllido ar gyfer y Gronfa, a bod cynnydd yn cael ei wneud yn y Fframwaith Rheoli Risg.

 

Dogfennau ategol: