Agenda item

Adolygiad o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles

Pwrpas:        Darparu adolygiad o waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a datblygiad y Cynllun Lles.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr drosolwg o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a datblygiad y Cynllun Lles.

 

 Dosbarthodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol wybodaeth am bum thema’r Cynllun Lles a ddewiswyd fel rhai lle gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ychwanegu’r mwyaf o werth.  Roedd ymgynghoriad helaeth ar y Cynllun amlinellol i fod i ddechrau cyn hir gan arwain at fabwysiadu’r fersiwn derfynol gan y Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mynegodd Cynghorydd Jones bryderon fod dolen gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cyfeirio at feysydd penodol o'r sir a allai awgrymu na fyddai ardaloedd eraill yn manteisio ar y Cynllun.  Cafwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr fod y themâu yn cefnogi’r Sir gyfan a nododd Un Pwynt Mynediad dan ‘Lles a Byw’n Annibynnol’ fel enghraifft.   Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i godi’r mater yng nghyfarfod Compact Sector Gwirfoddol a oedd i ddod, i sicrhau nad oedd nodau’r Cynllun yn cael eu cam-gynrychioli ar wefan BIPBC.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn bosibl gwerthuso effaith Brexit eto a materion eraill a oedd y tu allan i reolaeth y Cyngor.  Byddai camau gweithredu dan bob thema yn cael eu holrhain yn erbyn targedau penodol a osodwyd.  Atgoffodd Aelodau am y gweithdy a oedd i ddod ar Fargen Twf Economaidd Gogledd Cymru a dywedodd y byddai’r dull rhanbarthol yn cryfhau sefyllfa’r Cyngor ar fynediad cyllid a phwerau yn y dyfodol.  Roedd cyfeirio at Holway ar beilota ffyrdd newydd o weithio mewn cymunedau dan ‘Cymunedau Gwydn’ yn adlewyrchu Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn yr ardal.  Cytunodd Swyddogion i newid hwn i Holywell (Treffynnon) er cysonder gyda’r trefi eraill a nodwyd.

 

Soniodd Cynghorydd Woolley am y cymysgedd o gyfeiriadau at ‘flaenoriaethau’ a ‘themâu’ a allai ddrysu darllenwyr.  Eglurwyd bod blaenoriaethau’n berthnasol i’r hen Fwrdd Gwasanaethau Lleol a bod camau wedi’u cymryd i symleiddio iaith dan bum thema’r Cynllun newydd.

 

Amlygodd Cynghorydd Heesom bwysigrwydd sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg ar draws y sir a gofynnwyd bod ymateb i’r pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Jones yn cael ei rannu.  Gofynnodd hefyd bod y rhaglen ar gyfer y cyfarfod Compact yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor.  Gan ymateb i sylwadau am gyfraniadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gorff gwneud penderfyniadau ffurfiol a dangosodd y cysylltiad rhwng y Cynllun Lles a Chynllun y Cyngor.  Darparodd hefyd fanylion am aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd wedi’i estyn tu hwnt i’r partneriaid statudol.

 

Yn ystod trafodaeth am argymhellion yr adroddiad, gofynnwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd grynhoi’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd.  Cefnogwyd rhain gan y Pwyllgor fel penderfyniadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod gan y Pwyllgor hyder bod camau ar waith i fod â chynllun yn barod erbyn y dyddiad cau statudol, yn amodol ar:

 

  • Newid ‘Holywell’ am y cyfeiriad at ‘Holway’;
  • Bod cyfeiriadau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cael eu herio yng nghyfarfod Compact dydd Llun i roi sicrwydd i Aelodau fod BIPBC yn cydnabod y manteision i’r sir gyfan, gydag adroddiadau ar gael maes o law.
  • Bod papurau ar gyfer cyfarfod Compact sydd i ddod ar gael i Aelodau, fel y gofynnwyd;
  • Diolch i’r Prif Weithredwr am ei eglurhad a’i sicrwydd nad yw’r cysylltiad rhwng Cynllun y Cyngor a’r Cynllun Lles yn peri risg i broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor.

Dogfennau ategol: