Agenda item

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cwestiwn canlynol wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd John Holiday, Cyngor Cymuned Argoed, o fewn y dyddiad cau ac wedi’i ddangos ar yr agenda.

 

“Fel y byddwch yn ymwybodol heb os, er gwaetha’r protestiadau sylweddol, penderfynodd CSFf/Aura gau’r cyrtiau sboncen yn yr Wyddgrug. Mae Clwb Sboncen Brymbo’n codi cyrtiau newydd a chynigion nhw brynu, datgymalu a thynnu’r unedau cefn gwydr o’r Wyddgrug. Clywson nhw ddim rhagor. Mae’n amlwg bellach yn hytrach nag achub y caffaeliad gwerthfawr hwn, cawson nhw eu malu’n chwilfriw a’u gwaredu yn y sgip. O gofio iddynt gostio £6000 yr un, mae hwn yn wastraff gwarthus o £12,000 pan fo CSFf mewn angen dybryd am arian yn ôl pob sôn. 

 

O ran diddordeb wrth wneud defnydd pellach o gefnau cyrtiau gwydr, pam gafodd yr adnodd gwerthfawr hwn ei falu a’i daflu mewn sgip?”

 

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Addysg, darparodd y Cynghorydd Ian Roberts yr ymateb canlynol: 

 

Yn y cyfarfod ymgynghori i gwsmeriaid yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug ar 23 Ionawr 2018 am y datblygiad cyfalaf arfaethedig, derbyniwyd cais ar lafar gan gynrychiolydd y chwaraewyr sboncen ynghylch a ellid rhoi’r cefnau gwydr i glwb sboncen lleol, naill ai’n rhad ac am ddim neu am ffi fach. Cytunodd y Rheolwr yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug edrych i mewn i hyn ac o ganlyniad, gofynnwyd i’r contractwr, WFC, a oedd tynnu’r cefnau gwydr ymaith a’u bwrw i’r neilltu’n ymarferol. Cytunodd WFC i geisio diwallu’r cais cyn dymchwel.

 

Mae WFC wedi darparu adroddiad ar sut gwnaethon nhw ddelio â’r cais gan gynnwys diagram yn dangos y cyrtiau sboncen yn cael eu trwsio (gweler atodiad 1). Mae’r pwyntiau amlycaf fel a ganlyn:

 

·         roedd gwaelod y gwydr wedi’i osod mewn sianel siâp ‘U’ a ymgorfforwyd yn y llawr concrit saernïol;

·         fe’i diogelwyd gan gynnyrch mastig trwm i’w ddal yn ddiogel yn ei le;

·         cafodd ochrau’r gwydr eu diogelu gyda mastig hefyd;

·         llenwyd yr uniadau rhwng y rhannau gwydr gyda mastig hefyd;

·         roedd y manylion yn gymesur ag adeiladu’r cefnau gwydr er mwyn iddynt fod yn addas i’r diben, yn ddiogel, yn fertigol ac yn wydn i gymryd y sbonciau mynych ac effeithiau sylweddol eraill a brofir mewn cwrt sboncen;

·         gwnaeth y WFC eu gorau glas trwy dorri cymaint o fastig allan â phosibl gan ddefnyddio offer trafod gwydr priodol, er enghraifft sugnwyr, i ryddhau a chodi’r paneli gwydr; a

·         fodd bynnag, o gofio natur y dull gosod gwreiddiol, nid oedd hyn yn bosibl heb ddifrodi’r gwydr. Canlyniad hyn oedd nad oedd dewis ond i dorri’r rhannau amrywiol i’w cael nhw allan.

 

Ffoniodd rheolwr Canolfan Hamdden yr Wyddgrug gynrychiolydd y clwb sboncen ar 1 Chwefror 2018 i roi gwybod iddo na fu’n bosibl tynnu’r cefnau gwydr yn llwyddiannus.

 

I gloi, cymerwyd pob cam i geisio diwallu’r cais hwn gan ei fod er lles pawb dan sylw, gan gynnwys y Cyngor, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’r chwaraewyr a’r clwb sboncen lleol. Yn anffodus, nid oedd hyn yn bosibl a chyflëwyd hyn yn amserol.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad sylweddol ar y datblygiadau hyn, gan gynnwys yn benodol gyda’r chwaraewyr sboncen. Gellir darparu ar gyfer y defnydd cymharol isel o sboncen yn yr Wyddgrug mewn safleoedd eraill sy’n gymharol agos, gan gynnwys Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

Mae’r gwaith yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug sydd bellach yn mynd rhagddo yn rhan o brosiect gwerth £1.4 miliwn, heb unrhyw gost i’r Cyngor, a fydd yn dyblu maint y cyfleuster ffitrwydd presennol ac yn creu stiwdio ymarfer corff gr?p wedi’i deilwra. Cwmni elusennol a berchnogir gan ei weithwyr ac a sefydlwyd gan y Cyngor a’r gweithwyr yw Hamdden a Llyfrgelloedd Aura. Gall Aura dalu’r costau cyfalaf yn ôl trwy gynnydd mewn incwm refeniw.

. 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am eglurhad ar y weithdrefn i godi cwestiynau cyhoeddus yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir. Esboniodd y Swyddog Monitro fod uchafswm cyfnod o 30 munud yn cael ei ganiatáu yn ystod cyfarfod y Cyngor i godi ac ateb cwestiynau cyhoeddus.   

 

Dogfennau ategol: