Agenda item

Cais am Drwydded Personol

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Personol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu'r adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Bersonol gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod y datgeliad sylfaenol yr oedd ei angen yn ôl deddfwriaeth yn rhan o’r broses ymgeisio wedi datgelu euogfarn. Gan fod y trosedd yn euogfarn berthnasol dan Ddeddf Trwyddedu 2003, atgyfeiriwyd y cais at Heddlu Gogledd Cymru i'w ystyried. Gwrthwynebodd Heddlu Gogledd Cymru’r cais gan y gallai fod yn groes i Amcanion Trwyddedu Trosedd ac Anrhefn Deddf Trwyddedu 2003.  Datgelodd Heddlu Gogledd Cymru hefyd bod yr ymgeisydd wedi’i chael yn euog o drosedd yn 2008.  Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor bennu a oedd yr ymgeisydd yn berson addas i ddal Trwydded Bersonol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd pam nad oedd wedi datgelu'r trosedd blaenorol ar ei chais gan ei gwahodd i egluro ei heuogfarn flaenorol. Eglurodd yr ymgeisydd ei bod wedi deall bod ei heuogfarn a ddigwyddodd yn 2008 wedi’i ‘threulio’ ac felly nad oedd angen ei datgan. Eglurodd Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru, mewn perthynas â throseddau traffig ffordd, y gallai gwybodaeth gael ei datgelu hyd at 11 mlynedd ar ôl yr euogfarn.  

 

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd, rhoddodd yr ymgeisydd wybodaeth gefndir ac amlinellodd yr amgylchiadau personol yng nghyd-destun y troseddau a gyflawnwyd. Dywedodd ei bod yn llwyr edifarhau ei hymddygiad yn y gorffennol a dywedodd bod y digwyddiadau a oedd wedi arwain at ei dau drosedd yn unigryw ac yn groes i’w chymeriad. Pwysleisiodd ei bod wedi datblygu’n berson cyfrifol, gonest a gweithgar oherwydd ei phrofiadau ac roedd yn ystyried ei bod yn unigolyn cymwys ac addas yn enwedig i ddal Trwydded Bersonol pe bai ei chais yn llwyddiannus.  

 

Atebodd yr ymgeisydd gwestiynau a godwyd gan yr Is-bwyllgor yngl?n â'i hamgylchiadau personol a theuluol a'i hanes cyflogaeth. Amlinellodd hefyd ei rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol, ei huchelgeisiau am yrfa’n rheoli tafarn yn ogystal â’i phrofiad o oruchwylio wrth weithio mewn safle trwyddedig. Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn ddibynnol ar gael trwydded bersonol i wella ei dewisiadau cyflogaeth a gyrfa, ei hannibyniaeth ariannol a'i sefyllfa deuluol.  

 

Ceisiodd y Cyfreithiwr eglurhad pellach gan yr ymgeisydd yng nghyd-destun peidio â thanseilio Amcanion Deddf Trwyddedu 2003, yn enwedig Atal Trosedd ac Anhrefn.Ceisiodd y Cyfreithiwr eglurder yngl?n ag amgylchiadau ei heuogfarnau a’r dedfrydau a gafwyd amdanynt a holodd yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n â’i dealltwriaeth o ddifrifoldeb a goblygiadau materion sy’n ymwneud ag yfed a gyrru. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd hefyd sut y byddai’n mynd i’r afael â materion yfed a gyrru, tybiaeth o yfed a gyrru ac yfed dan oed gyda chwsmeriaid yn ystod ei chyflogaeth mewn tafarn. 

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd ynghylch ei hamgylchiadau personol a theuluol a gofynnodd a oedd ganddi strategaethau a allai ei helpu yn ystod cyfnodau “anodd”. Soniodd yr ymgeisydd am y gefnogaeth a ddarparwyd gan aelodau ei theulu a’r cymeriad cryf roedd wedi’i ddatblygu o ganlyniad i’w phrofiadau. 

 

Darparodd aelod o deulu’r ymgeisydd ddatganiad ategol i ategu bod yr ymgeisydd yn berson cyfrifol, gonest a gweithgar ac yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Bersonol. Pwysleisiodd bod methiant yr ymgeisydd i ddatgelu ei heuogfarn yn 2008 yn gamddealltwriaeth wirioneddol ac nad oedd wedi bwriadu camarwain neb.          

 

            Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru a'r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod tra oedd y panel yn penderfynu ar y cais.             

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais  

 

            Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor Ddeddf Trwyddedu 2003, gan gynnwys yr Amcanion Trwyddedu perthnasol fel Atal Trosedd ac Anhrefn, Canllawiau Adran 182 ar gyfer Awdurdodau Lleol, a datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor.

 

Ystyriwyd gonestrwydd yr ymgeisydd gan ei bod wedi methu â datgelu ei holl euogfarnau. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau a oedd ynghlwm â phob achos, a'r eglurhad a roddwyd ar lafar, a theimlai'r aelodau bod yr ymgeisydd wedi adrodd hanes ei gweithredoedd yn llawn ac yn gredadwy. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu o’r farn na fyddai’r Amcanion Trwyddedu’n cael eu tanseilio pe bai gan yr ymgeisydd Drwydded Bersonol ac felly roeddent yn ystyried y gallai’r ymgeisydd gael Trwydded Bersonol yn yr amgylchiadau hyn.

 

            Gwahoddwyd yr ymgeisydd, Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru a’r Swyddog Trwyddedu yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

4.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd, ar ôl gwrando ar yr holl sylwadau a wnaed gan bawb, bod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu bod sylwadau'r ymgeisydd, gan gynnwys ei hatebion i gwestiynau, wedi bod yn onest, gan gynnwys sylwadau a oedd yn ymwneud ag Amcan Trwyddedu Atal Trosedd ac Anhrefn yn Neddf Trwyddedu 2003. Roedd yr Is-bwyllgor yn credu, o dan yr amgylchiadau, na fyddai'r Amcanion Trwyddedu'n cael eu tanseilio pe bai trwydded yn cael ei rhoi a chytunodd i ganiatáu'r cais.

PENDERFYNWYD:

 

Na fyddai’r Amcanion Trwyddedu wedi’u tanseilio pe bai gan yr ymgeisydd Drwydded Bersonol dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac felly y dylid caniatáu’r Drwydded Bersonol.