Agenda item

Canlyniadau'r ymgynghoriad i amodau arfaethedig y Gorchymyn Drafft Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n

Pwrpas:   Adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n’.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar amodau arfaethedig Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n yn Sir y Fflint sy’n cwmpasu rheoli c?n a baw c?n, a fyddai’n disodli’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol.

 

Rhoddodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol fanylion am yr ymgynghoriad a chrynodeb o’r ymatebion, a oedd yn dangos cefnogaeth gref dros yr amodau arfaethedig.  Er bod 68% o’r ymatebion yn cytuno gyda gwahardd c?n rhag lleiniau chwaraeon wedi’u marcio, dyma oedd y cynnig a gefnogwyd leiaf a chafodd wrthwynebiadau hwyr.    Oherwydd hyn a phryderon nad oedd rhai unigolion yn ymwybodol o’r ymgynghoriad, nododd yr adroddiad ddau opsiwn: (1) argymell bod y Cabinet yn ystyried yr holl amodau arfaethedig a (2) bod y Cabinet yn ystyried cyfnod pellach o ymgynghoriad lleol i geisio safbwyntiau ar p’un a ddylid gwahardd c?n o leiniau chwaraeon wedi’u marcio mewn ardaloedd lle nad oedd cyfleusterau amgen ar gyfer mynd a ch?n am dro.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Opsiwn 1 wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Aelodau a oedd yn bresennol yn y gweithdy yn gynharach yn y flwyddyn.

 

I letya rhai pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton Opsiwn 1, gyda diwygiad 'i ganiatáu c?n o amgylch perimedr lleiniau chwaraeon ar dennyn'.  Cadarnhaodd Swyddogion y byddai gorfodi’r Gorchymyn Rheoli C?n presennol yn dod i ben ar 20 Hydref 2017 oni bai bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored wedi’i fabwysiadu i ddod yn ei le.

 

Nododd y Cynghorydd Owen Thomas fod rhai lleiniau chwaraeon heb eu marcio ac na fyddent yn cael eu cwmpasu gan yr amodau. Teimlai y dylai cyfeiriad at gaeau gwmpasu ardal gyfan y caeau hynny ac y dylid rhoi c?n ar dennyn wrth ddefnyddio llwybrau cerdded cyhoeddus, gan ychwanegu y byddai camau ataliol o'r fath yn osgoi damweiniau posibl.  Dywedodd y swyddogion fod amodau (i) a (v) yn mynd i’r afael â’r pryderon ac y byddai arwyddion priodol yn cael eu harddangos.  Ar ôl ymholiadau pellach, esboniwyd yr ymgynghorwyd â'r Cynghorau Tref a Chymuned ar dir yr hoffent iddo gael ei gynnwys yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ac y byddai angen caniatâd ar unrhyw dir preifat pe bai ai am gael ei gynnwys ar gam yn y dyfodol. 

 

Cymharodd yr aelodau y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Shotton i Opsiwn 2.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cydnabuwyd bod llawer o berchnogion c?n yn gallu rheoli eu c?n pan fyddant yn cael eu gollwng yn rhydd am ymarfer corff a bod amod (v) wedi ei gynnwys fel amddiffyniad lle nad dyma'r achos.

 

Cafodd diwygiad y Cynghorydd Shotton ei eilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Cindy Hinds ar wahardd c?n rhag mynd i mewn i unrhyw ardaloedd chwarae, esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai angen gwahanol arwyddion ar gyfer gwahanol ardaloedd.

 

Tra roedd y Cynghorydd Veronica Gay yn cytuno gyda'r diwygiad, teimlai ei bod yn bwysig cydnabod yr angen i g?n gael ymarfer corff oddi ar dennyn ac awgrymodd y gallai ardaloedd dynodedig fod yn destun trafodaeth ar gyfer y Pwyllgor neu Weithgor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Joe Johnson, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod baw c?n yn orfodadwy o dan y Gorchymyn presennol yn unig.  Cytunodd gyda phwysigrwydd darparu ar gyfer cerddwyr c?n a chydnabod y buddion iechyd a chymdeithasol cysylltiedig.  Tra roedd deddfwriaeth yn darparu ar gyfer mannau agored i ddarparu ymarfer corff i g?n, byddai’r syniad o ardaloedd dynodedig yn ystyriaeth dda gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Ar ôl trafod ymhellach, eglurwyd bod Opsiwn 2 i estyn yr ymgynghoriad ar leiniau chwaraeon wedi’u marcio yn golygu y gellid rhoi'r amodau sy’n weddill ar waith. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Evans Opsiwn 2 a theimlai ei fod yn mynd i’r afael â’r diwygiad a gyflwynwyd.  Eiliwyd hyn.  Cytunodd pedwar Aelod gydag Opsiwn 1 a chytunodd saith Aelod ag Opsiwn 2. Felly, aethpwyd gydag Opsiwn 2.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn argymell gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored i gwmpasu rheoli c?n a baw c?n yn Sir y Fflint, gyda'r amodau canlynol i'r Cabinet ar gyfer penderfyniad terfynol.  Bydd gofyn i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored sicrhau bod unigolion sy’n gyfrifol am gi i wneud y canlynol:

 

 (i)   Cael gwared ar wastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint.

 (ii)  Gwahardd cymryd, neu ganiatáu i’r ci fynd neu aros yn

- Yr holl ardaloedd o fewn tir ysgolion,

- Ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tenis

- Ardaloedd chwarae plant caeedig â ffens.

 (iii)Cadw eu ci ar dennyn mewn Mynwent.

 (iv)Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi gwastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint.

 (v)  Rhoi eu ci ar dennyn, pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny, os bydd y ci yn rhydd ac yn niwsans neu'n poeni unrhyw unigolyn, aderyn neu anifail arall.

 

Tynnu'r cynnig o wahardd c?n rhag yr ardaloedd chwarae mewn lleiniau chwaraeon wedi’u marcio mewn ymateb i ddiffyg ardaloedd agos amgen i g?n gael ymarfer corff ar yr adeg hwnnw.  Caniatáu am gyfnod o ymgynghori pellach ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned i ymgynghori’n lleol ar leiniau chwaraeon wedi'u marcio yn eu hardaloedd; a

 

 (b)      Nodi er gwybodaeth, ond yn amodol ar benderfyniad terfynol y Cabinet, bod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored sy'n cwmpasu rheolaeth c?n a baw c?n yn dechrau ar 20 Hydref 2017, yn dilyn cyfnod rhybudd a chyhoeddusrwydd y Gorchymyn sydd ar ddod.

Dogfennau ategol: