Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog

Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Cyfamod Lluoedd Arfog y Cyngor cyn ei gyhoeddi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yr Adroddiad Blynyddol cyntaf i Gyfamod Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu cynnydd ac ymrwymiad yr Awdurdod a’i bartneriaid sydd wedi llofnodi’r Cyfamod i gefnogi’r Gymuned Lluoedd Arfog.  Eglurodd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi ymuno â Chyfamod Sir y Fflint, ac wedi llofnodi’r Cyfamod yn ffurfiol mewn seremoni fer cyn y cyfarfod o'r Cyngor heddiw. Gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau ystyried i ardystio cynnydd positif a wnaed i gwrdd â’r Cyfamod Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau am welliannau pellach a chymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.  Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Cynghorydd Andrew Dunbobbin i siarad ar eitem fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog y Cyngor.

 

                        Wrth drafod yr adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin ar y sylwadau cadarnhaol a wnaethpwyd gan Llywodraeth Cymru ynghylch y gwaith a gyflawnwyd yn Sir y Fflint ac yn bennaf gwaith ysgolion i gasglu data os yw unrhyw ddisgyblion neu fyfyrwyr yn blant aelodau sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’r cynnig o gyfweliadau sicr ar i gyn-filwyr sydd yn bodloni meini prawf hanfodol o rôl y swydd.  

 

                        Llongyfarchodd y Cynghorydd Clive Carver yr Awdurdod ar gynhyrchu Cyfamod Lluoedd Arfog, fodd bynnag, gan gyfeirio at feysydd i wella a nodir ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad, teimlodd bod hepgor yr amcan “ysgolion i ddechrau casglu a yw unrhyw ddisgyblion/ myfyrwyr yn blant i aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog” ac awgrymodd y dylid newid geiriau'r Cyfamod Sir Y Fflint i gynnwys “plant aelodau sy’n wasanaethau a chyn-filwyr o’r Lluoedd Arfog”. Cydnabu'r Prif Weithredwr y pwynt a wnaeth y Cynghorydd Carver, a rhoddodd sicrwydd bod y gwaith yn berthnasol i aelodau sy’n gwasanaethu ac sydd yn gyn-filwyr, a chytunwyd i newid y geiriau i ddarparu cadarnhad.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at hyrwyddo menter nofio am ddim Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr a phersonél lluoedd arfog a oedd ar gael mewn pedwar pwll nofio yn y Sir, a gofynnwyd a ellir gwneud y cyfleuster hwn ar gael i byllau nofio yn y Sir. Hefyd dywedodd y Cynghorydd Jones ar y gwaith a gyflawnwyd i adfer cofeb ryfel yn Ysceifiog, a gofynnodd i'r Cynghorydd Dunbobbin os allai ddarparu gwybodaeth ar unrhyw gyllid y gallai’r gymuned leol wneud cais amdano i helpu gyda’r prosiect.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin bod cyllid ar gael gan Llywodraeth Cymru tan 2018 ar gyfer y fenter nofio am ddim ac yn berthnasol i holl wasanaethau hamdden. Dywedodd y byddai’n annog sefydliadau i wneud cais am gyllid a oedd yn cael ei ddal yn ganolog gan Llywodraeth Cymru.  Gan gyfeirio at y prosiect cymunedol i adfer cofeb ryfel, dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin y gallai’r cymunedau lleol wneud cais am gyllid drwy’r Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog. Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) sut oedd y cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y fenter nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog yn cael ei ledaenu ar draws pyllau nofio yn Sir y Fflint, a dywedodd bod y trefniadau cyfredol am gael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf. Dywedodd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyllid a darpariaeth ar gyfer nofio am ddim yn ystod y 12 mis nesaf i sicrhau bod y pobl sydd ei angen fwyaf yn cael mantais. 

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley i’r gair “to” gael ei gynnwys yn yr ail argymhelliad ar dudalen 6 yr adroddiad ar ôl y gair “prior”. Mewn ymateb i’r cwestiwn gan y Cynghorydd Woolley ynghylch a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llofnodi Cyfamod Sir y Fflint, cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod personél o’r Lluoedd Arfog wedi mynychu a llofnodi’n ffurfiol y cyfamod ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn seremoni fer cyn cyfarfod o’r Cyngor heddiw.  

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham bod cefnogaeth gyhoeddus gryf ar gyfer y Lluoedd Arfog a llongyfarchodd yr Awdurdod am y gwaith a gyflawnwyd i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Hillary McGuill os yw cyn-filwyr a phersonél lluoedd arfog yn cael mynediad “heb gyfyngiad” yn lle “cyfyngiad o ran amser" i weithgareddau nofio a digwyddiadau. Cydnabu’r Cynghorydd DunbobbIn yr awgrym a dywedodd bod nifer o gynlluniau ar gael gan y Lluoedd Arfog i gynorthwyo cyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell y menter i ysgolion i ddechrau casglu data os ydy unrhyw ddisgyblion neu fyfyrwyr yn blant i gyn-filwyr ac aelodau sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Soniodd am ei edmygedd am lwyddiannau gan y disgyblion a myfyrwyr sydd wedi gorfod addasu i gyfnodau aml o ail-leoli drwy eu haddysg. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed mewn cyfarfod, bod y Cyfamod Lluoedd Arfog a chefnogi ymrwymiadau ar gyfer gwelliannau pellach gael eu gosod; a

 

             (b)      Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo

 

Dogfennau ategol: