Agenda item

Buddsoddi yng Nghymru

Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor am gymeradwyo caffael Gweithredwr i Fuddsoddi yng Nghymru

 

Cofnodion:

            Eglurodd Philip Latham (Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd) bod y cyfarfod JGC diweddar wedi’i ganslo, ac eglurodd y byddai Cronfa Bensiwn Clwyd angen cynnal pwyllgor arbennig arall i gytuno i benodi’r gweithredwr. Hefyd, nid oedd angen trin yr eitem hon fel eitem eithriedig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai dyma oedd y sefyllfa a phenderfynwyd yn groes i agenda’r cyfarfod, na fydd y cyfryngau a'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r eitem hon.

 

Cyn i John Wright (Hymans Robertson) roi cyflwyniad am Gronfa Cymru a’r broses gaffael, gofynnodd Colin Everett (Prif Weithredwr) gan ystyried y datganiadau o gysylltiad gan Mrs McWilliam, Mr Middleman a Mrs Spalling, roedd angen iddynt adael yr ystafell. Nododd Mr Latham nid oherwydd bod y cyflwyniad ond yn cynnwys gwybodaeth a oedd am fod yn gyhoeddus yn unig. Roedd Mr Everett yn fodlon â hyn, ond dywedodd bod rhaid i unrhyw drafodaethau aros yn gyffredinol, a byddai Mrs McWilliam, Mr Middleman a Mrs Spalling yn ymatal rhag rhoi sylw neu gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth.   Cadarnhaodd Mr Wright mai dyma’r achos a byddai’n helpu i atgyfnerthu’r hyfforddiant yr oedd y Pwyllgor wedi’i gyflawni'r wythnos flaenorol.

 

Y pwyntiau allweddol y soniodd Mr Wright amdanynt oedd:

 

·         comisiynwyd Hymans Robertson i weinyddu’r broses yn unig

·         cadarnhau bod awdurdodau Cymru wedi bod o flaen cronfeydd eraill o ran gweithio gyda’i gilydd, gwneud hyn cyn cyhoeddiad y llywodraeth yn gofyn am gyfuno asedau.

·         rhoi cefndir dros y rheswm bod y Llywodraeth wedi dewis y meini prawf hyn.

Hefyd ychwanegodd Mr Wright:

 

·         roedd barn bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn talu gormod i Reolwyr Buddsoddi, ond mae wedi dod i’r amlwg bod cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi trafod bargeinion da gyda hwy, ar y cyd â chwmnïau sector preifat.

·          mae rhagor o waith wedi ei wneud yn rheolaeth oddefol fel ffordd o leihau costau a nodwyd drwy weithio gyda’i gilydd, bod yr wyth Cronfeydd Cymru wedi gwneud arbedion sylweddol.   

·          Hefyd cafwyd yr argraff nad oedd rhai cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu rheoli’n dda, yn bennaf gan nad oes ganddynt y gyllideb lywodraethol nac arbenigedd i wneud hyn yn effeithiol.

·          mae gan rai Gronfeydd dimau rheoli mewnol, felly pan roedd y Cronfeydd yn edrych ar gyfuno, roedd rhai eisiau cadw rheolaeth fewnol.

·         mae rhai cronfeydd eraill yn sefydlu eu cwmnïau buddsoddi eu hunain, gyda chymysgedd o arbenigwyr buddsoddi sector breifat ac arbenigwyr presennol.

Eglurodd Mr Wright wedyn sut y byddai’r strwythur Cronfa yn gweithio.  Er gwybodaeth, eglurodd y byddai’r awdurdodau gweinyddol yn caffael y gweithredwr.    Byddent yn defnyddio strwythur ACS, sydd yn strwythur effeithlonrwydd treth fodern. 

 

Cadarnhaodd Mr Wright bod y penderfyniadau strategaeth ased dal yn cael eu pennu ar bob lefel PFC, ond y gweithredwr a fyddai’n penodi’r rheolwyr buddsoddi fel y gellir gweithredu’r strategaethau hynny.

 

Mae cynigwyr wedi cyflwyno tendrau eisoes i’r gweithredwr, ac ar ôl eu gwerthuso byddant yn mynd i Gadeirydd y PFC, ac aelodau’r JGC, gydag argymhelliad. Bydd y JGC yn gwneud argymhellion i gymeradwyo, felly bydd yr wyth Cadeirydd yn adrodd yn ôl i bob Cronfa Bensiwn unigol o fewn y Gronfa i wneud y penderfyniad terfynol. O ganlyniad, bydd rhaid i gynigwyr aros am amser hir cyn bydd y canlyniad terfynol yn hysbys.

 

Soniodd y Cynghorydd Llewelyn Jones yr hoffai Llywodraeth y DU gronfeydd i fuddsoddi mewn seilwaith y DU, ond wedyn gofynnodd beth fyddai’n digwydd os byddai’r Gronfa eisiau buddsoddi mewn seilwaith nad yw yn y DU. Dywedodd Mr Wright na fyddai’r Llywodraeth yn gallu dweud lle i fuddsoddi, felly byddai'r opsiwn hwn dal yn agored os byddai cyfleoedd deniadol.

 

Soniodd Mr Everett ar risg llywodraethol petai’r 8 cronfa yn methu â chytuno ar ddewis y gweithredwr. Felly, bydd angen gwerthuso anghenion ar wybodaeth ar sail tystiolaeth yn unig, a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddatrys unrhyw ymholiadau neu bryderon os na fydd cytundeb.

 

Nododd y Cadeirydd y bydd cyfuno yn eitem sefydlog ar gyfer cyfarfodydd PFC i symud ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a fyddai Cronfeydd Pensiwn unigol yn cael eu gorfodi i dderbyn rheolwyr penodol. Dywedodd Mr Wright ei fod yn disgwyl y bydd elfen o ymgynghoriad gyda Chronfeydd Pensiwn, ond byddai'r Gweithredwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddewis a phenodi Rheolwyr Buddsoddi.

 

Gofynnodd Steve (Cynrychiolydd Aelod o’r Cynllun) a fyddai rhaid i Reolwyr Buddsoddi gofrestru i’r Cod Tryloywder Costau. Dywedodd Mr Wright ei fod yn disgwyl y byddai hyn yn ofyniad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor i gytuno i symud Eitem 6 a oedd yn berthnasol i’r Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol i’r eitem nesaf.  Cytunodd y Pwyllgor i’r newid o ran trefn yr agenda.