Agenda item

Cynllun y Cyngor 2017 - 23

Pwrpas:   Gofynnir i’r Pwyllgor gymeradwyo a chefnogi:

i) ystyriaethau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i gyfrannu at ddatblygiad dogfen derfynol Cynllun y Cyngor 2017-23

ii) cynnwys cyffredinol Cynllun y Cyngor a dogfen ‘Sut ydym ni’n mesur llwyddiant’ ar gyfer blaenoriaeth y ‘Cyngor Presennol’

iii) y targedau arfaethedig ar gyfer y dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun y Cyngor 2017-23 ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor mewn dwy ran. Rhan 1 oedd y datganiad o amcanion a bwriadau. Roedd Rhan 2 yn disgrifio’r targedau a’r cerrig milltir a ddefnyddid i fesur y llwyddiannau. Pwrpas yr adroddiad oedd galluogi’r pwyllgor i ystyried strwythur, fformat a chynnwys Cynllun y Cyngor, ynghyd â’r ddogfen Mesuryddion a Cherrig Milltir, a rhoi adborth i’r Cabinet. Byddai’r cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei fabwysiadu ar 27 Medi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr adran a soniai am gefnogi hyfywedd canol trefi. Roedd yn teimlo y gallai fod yn niweidiol i ddefnydd manwerthu parhaus. Pryderai y gallai hyn ddylanwadu ar brif gynlluniau a chynlluniau datblygu lleol (CDLl). Cyfeiriodd hefyd at Gynllun Glannau Dyfrdwy a phryderai nad oedd y capasiti gan Sir y Fflint i sicrhau y byddai ardaloedd eraill o fewn y sir hefyd yn cael eu hystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y materion hyn o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Mentergarwch a oedd wedi ystyried a chefnogi’r Cynllun yn y cyfarfod y diwrnod blaenorol.   Bwriad y wybodaeth oedd cefnogi’r gwaith adfywio ehangach yng nghanol y trefi, gan gynnwys tai, ond nid ar draul y cynnig adwerthu lleol.

 

            Roedd y Cynghorydd Jones yn bryderus y byddai datblygwyr yn gweld hyn yn y CDLl ac y byddai canol trefi yn cael eu colli. Eglurodd y Prif Weithredwr nad dogfen polisi cynllunio ffurfiol oedd hon ac ni ddylai achosi unrhyw risg. 

 

            Cytunodd yr Arweinydd ac fe rannodd y pryderon yngl?n â thai’n dod i safleoedd manwerthu. Yn ei ward ef, roedd datblygiadau tai lle bu unwaith siopau, ond fe ychwanegodd y gallai 'byw uwchben y siop' fod yn llwyddiant. Parhaodd gan gyfeirio Aelodau at y gyfeiriadaeth yn strategaeth datblygu trafnidiaeth leol ranbarthol yng Nghynllun Dyfrdwy o’r Cynllun Metro i gysylltu trefi gyda chanolfannau cyflogaeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman am eglurhad yngl?n â chryfhau trefniadau cydweithio rhanbarthol ar ansawdd aer er mwyn helpu i hyrwyddo gwell canlyniadau i iechyd a lles.Atebodd Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol gan ddweud bod hwn yn ddull strategol rhanbarthol i gasglu data ar ansawdd aer a'i fod yn dod o dan gylch gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr amheuon y bu iddo eu datgan eisoes yngl?n â’r cynllun ar gyfer budd-ddeiliaid a phartneriaid. Cyfeiriodd hefyd at y Cynnig Twf Rhanbarthol ar gyfer Twf Gogledd Cymru ond roedd yn bryderus am y diffyg manylder  ar ochr orllewinol y sir.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi gweld Cynllun y Cyngor yn ystod y broses ymgynghori a bod yr Aelodau ar y cyfan yn ei chefnogi, gan gynnig sylwadau penodol ar faterion manwl yn unig.  Soniodd yr Arweinydd am gyfnod 4 neu 5 mlynedd yn ôl pan nad oedd y cynlluniau gwella'n cael eu trin fel blaenoriaeth yn y modd mae Cynllun y Cyngor yn cael ei drin erbyn hyn – fel cynllun ar gyfer y Cyngor cyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am sicrwydd y byddai buddsoddiadau ym mhob un o drefi Sir y Fflint yn ecwitïol. Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, roedd canol tref Bwcle wedi colli 25 o fusnesau. Dywedodd y Prif Weithredwr na ellid sicrhau ecwiti felly gan fod y modd y gellid defnyddio llawer o grantiau’r llywodraeth yn benodol iawn ac efallai na fyddai Bwcle'n gymwys. Felly, ni fyddai'n realistig i wneud ymrwymiad o'r fath yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Dywedodd yr Arweinydd nad oedd yn ymarferol ystyried yr holl anghenion am fuddsoddiadau yn ecwitïol – roedd y farchnad wedi dewis canolbwyntio cyflogaeth yng Nglannau Dyfrdwy. Byddai'n fuddiol ystyried trafodaeth ehangach gydag Aelodau yngl?n â Thwf Gogledd Cymru – gellid cynnal sesiwn friffio – ac fe bwysleisiodd fod gan Sir y Fflint, yn wahanol i awdurdodau lleol eraill, dîm datblygu economaidd yn dal i fod gydag uchelgeisiau i ehangu a manteisio ar y cyfleoedd hyn.

 

            Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn teimlo bod hon yn drafodaeth fuddiol ac fe awgrymodd y byddai’r cyfarfod briffio o ddiddordeb i’r holl Aelodau, yn enwedig o ran isadeiledd.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod rhan fwyaf o'r buddsoddiad o £50m ar gyfer y Cynlluniau Metro rhanbarthol ar gyfer Sir y Fflint. Roedd y Cyngor yn gyd-arweinydd ar ddatblygu’r Cynnig Twf Rhanbarthol Gogledd Cymru ac roedd hyn tu allan i’r Cynllun ac wedi’i ysgrifennu fel cynllun lleol.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Richard Jones ei bryderon.  Roedd yn deall yr angen am y cysylltiadau cludiant â Glannau Dyfrdwy a'r cyfleoedd am waith y gallent eu creu, ond roedd yn teimlo y byddai canol trefi ac ardaloedd eraill yn Sir y Fflint yn dioddef.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y pwyllgor yn cefnogi strwythur, fformat a chynnwys fersiwn "gyhoeddus" Cynllun (Gwella) y Cyngor ar gyfer 2017-23.

 

(b)  Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen Mesurau a Cherrig Milltir (atodiad 2) ynghlwm â Chynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 gyda’r sylw canlynol i’r Cabinet ei ystyried: Tudalen 161, diwygio’r ail bwynt bwled yn eitem 5 a chael gwared ar y frawddeg ‘yn arbennig ar gyfer defnydd preswyl’ a’i newid i ‘ar gyfer aml-ddefnydd o bob math’, a nodi cymorth y Cyngor ar gyfer Cynnig Twf Economaidd Gogledd Cymru tu allan i’r Cynllun.

 

(c)  Darparu sesiwn briffio ar gyfer yr holl Aelodau ar Gynnig Twf Economaidd Gogledd Cymru.

Dogfennau ategol: