Agenda item

MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 11)

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 11), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.   Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.  Byddai'r adroddiad nesaf ar sefyllfa ariannol y Cyngor i'r Cabinet 17 Gorffennaf, a dyma'r sefyllfa alldro derfynol yn dilyn cau cyfrifon 2017/18.

 

            Y sefyllfa a ragamcanwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:

 

Cronfa’r Cyngor:

 

·         Rhagamcan gwariant net yng nghanol y flwyddyn, diffyg gweithredol o £0.109m;

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcenir yn ystod y flwyddyn bellach yn cynnwys £1.422m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir 1 Mawrth.  Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £1.531 yn is na’r gyllideb; a

·         Balans Cronfa Wrth Gefn At Raid a ragamcanwyd ar 31 Mawrth o £8.353m a leihaodd i £5.948m wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2018/19.

 

Cyfrif Refeniw Tai:

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.035m yn uwch na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Crynhowyd y rhesymau dros yr amrywiannau a ragamcanwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, gydag amrywiannau portffolio sylweddol allweddol wedi’u hegluro yn yr adroddiad.

 

Fe wnaeth yr adroddiad gynnwys y rhagamcan diweddaraf ganol blwyddyn fesul portffolio; symudiadau sylweddol yn y gyllideb rhwng Mis 10 a Mis 11; arbedion effeithiolrwydd a drefnwyd ar gyfer ganol y flwyddyn a gyflawnwyd; cynnal a chadw yn y gaeaf; chwyddiant; cronfeydd wrth gefn a balansau a cheisiadau i gario'r cyllid ymlaen. 

 

O ran y Gronfa Wrth Gefn At Raid, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yng nghyfarfod cyllideb y Cyngor 20 Chwefror 2018, fod swm o £0.900m wedi’i gynnwys o fewn y lefel a ragamcanwyd o gronfeydd wrth gefn darbodus ar gyfer arian buddsoddi i arbed, i helpu i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.  Ar ôl ystyried y dyraniad o £0.550m ar gyfer y prosiect Strategaeth Ddigidol – Cwsmeriaid Digidol, argymhellwyd y byddai’r £0.350m yn cael ei glustnodi at y diben hwnnw hefyd.

 

Fe wnaeth adroddiad i’r Cabinet 26 Medi 2017 ar Gynnydd Cais Cytundeb Twf Economaidd Gogledd Cymru argymell awdurdod dirprwyedig i awdurdodi cyfraniad refeniw cychwynnol o wariant 2017/18 ar gyfer datblygiad manwl o’r Cais Cytundeb Twf, gydag uchafswm o hyd at £0.050m.  Argymhellwyd iddo gael ei ariannu o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid.

 

Fe wnaeth digwyddiad diweddar a arweiniodd at orfod symud sylweddau gwastraff peryglus o eiddo yn Sir y Fflint dynnu sylw at y gofyniad am arian i fodloni unrhyw gamau unioni brys na ragwelwyd, a gofynion cefnogi cysylltiedig.  Argymhellwyd cyfraniad o £0.050m o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid i'w glustnodi ar gyfer y diben hwnnw.

           

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas sylw ar yr amodau tywydd gwael a oedd yn parhau i roi pwysau ar gyllideb cynnal a chadw dros y gaeaf, fodd bynnag, roedd yn falch ganddi gyhoeddi fod grant diweddar o £125,000 wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018;

 

(b)       Cymeradwyo’r trosglwyddiad o £0.900m o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid ar gyfer prosiectau buddsoddi i arbed, lle’r oedd £0.550m wedi’i ddyrannu i ariannu’r strategaeth ddigidol;

 

(c)        Cymeradwyo trosglwyddiad o £0.050m o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid i ariannu'r cyfraniad tuag at ddatblygiad manwl o'r Cais Twf Economaidd;

 

(d)       Cymeradwyo trosglwyddiad o £0.050m o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid i glustnodi cronfa wrth gefn i fodloni unrhyw gamau unioni brys na ragwelwyd, a chostau cefnogi;

 

(e)       Dylid nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

(f)        Chymeradwyo’r ceisiadau cario ymlaen sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 6.

Dogfennau ategol: