Agenda item

Datganiad Cyfrifon 2016/17 yn cynnwys Gwybodaeth Ariannol Ychwanegol sy'n cyd-fynd â'r Datganiad Cyfrifon

Pwrpas:         I gyflwyno’r fersiwn terfynol, wedi’i archwilio, o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 er cymeradwyaeth yr Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 a’r Wybodaeth Ariannol Atodol i’r Datganiad Cyfrifon 2016/17.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi ceisio cymeradwyaeth ffurfiol o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, gyda chopi wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor Archwilio ym Mehefin 2017. Hefyd yn yr adroddiad, cafwyd yr wybodaeth atodol i’r cyfrifon ar y cyflog cyfwerth â llawn amser, ar gais yr Aelodau mewn cyfarfod blaenorol, fel Rhybudd o Gynnig i'r Cyngor.

 

Dywedodd Matthew Edwards, Swyddfa Archwilio Cymru, ei fod yn hapus i roi gwybod bod yr adroddiadau’n gadarnhaol ac yn dilyn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2016/17, roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cynnig barn ddiamod ar y datganiadau ariannol a fyddai’n cadarnhau bod y cyfrifon yn cynnig safbwynt teg a gwir ym mhob ystyr materol, a’u bod wedi paratoi yn unol â Chod Ymarfer CIPFA. Rhoddodd sylwadau hefyd ar ansawdd uchel y datganiadau fel y cawsant eu cyflwyno.

 

Nid oedd y Cyfrifon Cronfa Bensiwn o’r un safon uchel ag a ddangoswyd yn flaenorol, ond rhoddwyd sicrwydd bod trefniadau yn eu lle i roi sylw i hyn yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Carver ei fod wedi ymholi ynghylch taliadau a wnaed i ymgynghorwyr ac uwch swyddogion.Ers y Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, roedd yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys fel dogfen atodol. Eleni, nid oedd yn cynnwys yr un faint o wybodaeth ac roedd nawr wedi’i chynnwys yn y prif adroddiad. Esboniodd y Prif Weithredwr y gellid cynnwys yr holl wybodaeth mewn un adroddiad ac roedd y cyfan wedi’i gyflwyno. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd yr wybodaeth yn ffurfio rhan o’r cyfrifon ffurfiol ond roedd yn cael ei darparu er gwybodaeth i Aelodau.

 

Holodd y Cynghorydd Mike Peers pam fod gan y Gwasanaethau Landlordiaid orwariant o £66,000 a pham fod prosiectau'r Cyfrifon Refeniw Tai â chyllideb o 0 ond bod £111,000 wedi’i wario. Holodd hefyd pam y gwariwyd mwy i dalu am wariant, a holodd beth oedd yr ad-daliadau misol ar y lefel fenthyca a oedd yn £251m. Rhoddodd sylwadau ar y gostyngiad ymddangosiadol mewn cronfeydd wrth gefn, a holodd am ragor o wybodaeth am hyn, a holodd hefyd sut roedd dyledion drwg yn cael sylw. Awgrymodd y Prif Weithredwr, gan nad oedd y cwestiynau’n effeithio ar ddilysrwydd y cyfrifon, y gellid rhoi ymatebion ysgrifenedig os oedd hynny’n dderbyniol, gyda'r Cynghorydd Peers yn ateb ei fod yn dderbyniol. Cadarnhawyd y byddai copi o’r ymateb yn cael ei roi i bob Aelod.   

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y benthyciad a oedd yn weddill o £860,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau adfywio yng Nglannau Dyfrdwy, a holodd pa mor hir oedd y telerau ad-dalu ar y benthyciad hwn.  Holodd hefyd am fwy o wybodaeth am werth net y Cyngor, a oedd wedi gostwng £168m i £43m. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth a Thechnegol, bod y telerau ad-dalu ar y benthyciad yn 15 mlynedd. Byddai ymateb ysgrifenedig ar werth net y Cyngor yn cael ei roi i bob Aelod yn dilyn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown fod y Pwyllgor Archwilio wedi cael cyflwyniad manwl gan swyddogion ar y datganiad cyfrifon, a oedd yn rhoi cynnydd da, a dywedodd fod swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru hefyd wedi mynychu’r cyfarfod i amlinellu eu canfyddiadau. Cadarnhaodd y Cynghorydd Brown nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion yr oedd angen tynnu sylw’r Cyngor atynt, ac amlinellodd yr argymhellion gan y Pwyllgor Archwilio.  

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad  Cyfrifon 2016/17;

 

 (b)      Cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau – Cyngor Sir y Fflint; a Llythyr Sylwadau – Cronfa Bensiynau Clwyd; a

 

 (c)      Nodi'r Wybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon 2016/17.

Dogfennau ategol: