Agenda item

Adolygu Trwyddedau

 

Y Pwyllgor i adolygu trwyddedau yn unol â’r gofyniad i adolygu trwyddedau’n flynyddol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Is-swyddog Monitro yr adroddiad ac esboniodd bod rhaid adolygu pob rhyddhad a ganiateir gan y Pwyllgor Safonau ac sy’n parhau i fod ar waith gan y Pwyllgor unwaith bob 12 mis o'r dyddiad y caniatawyd y rhyddhad yn y lle cyntaf. 

 

Dosbarthodd yr Is-swyddog Monitro restr yr holl ganiatâd am ryddhad a roddwyd gan y Pwyllgor a oedd yn parhau i fod ar waith yn ogystal â’r rhai a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar ond roedd y Cynghorwyr dan sylw wedi gofyn iddynt gael eu hymestyn.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu p’un ai a ddylai’r rhyddhad barhau i fod ar waith neu gael eu hymestyn.

 

Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod yna sawl caniatâd am ryddhad ar gofnod a oedd wedi’u rhoi 10 mlynedd ynghynt a bod llythyrau wedi cael eu hanfon at bob Aelod i roi gwybod iddynt am yr argymhelliad i ddileu rhyddhad a roddwyd 10 mlynedd yn ôl neu fwy.  Gofynnwyd i aelodau gysylltu â’r Swyddog Monitro i neu Is-swyddog Monitro os oedd ganddynt unrhyw bryderon am y cynnig.Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo cael gwared ar ryddhad a roddwyd dros 10 mlynedd ynghynt.  Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylid cytuno ar yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan Ken Molyneux a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Esboniodd yr Is-swyddog Monitro bod Cynghorwyr a chanddynt ryddhad effeithiol wedi cael gwybod am ofyniad y Pwyllgor Safonau i adolygu eu rhyddhad a phenderfynu p’un ai a fyddant yn parhau i gael effaith, yn ogystal â'r rheiny a chanddynt ryddhad a oedd wedi dod i ben yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dileu pob rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau dros 10 mlynedd ynghynt.

 

Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson

Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson o dan baragraff (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 am gyfnod o 12 is (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) i siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Bwcle wrth ystyried cais am gymorth ariannol gan Ganolfan Gymunedol Hawkesbury.  Mae’r rhyddhad yn caniatáu iddo aros yn yr ystafell i siarad ac ateb cwestiynau ond rhaid iddo adael yr ystafell (ac felly ddim pleidleisio) ar ôl gwneud hynny.

 

Cynghorwyr Sir Dennis Hutchinson a Mike Peers

Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Mike Peers am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi 2018) o dan baragraffau (d), (f) a (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i gyfathrebu gyda swyddogion Cyngor Tref Bwcle a Chyngor Sir Y Fflint mewn pob mater sy’n gysylltiedig â Hen Neuadd Gymunedol Baddonau Bwcle Cyfyngedig i:

 

  • siarad ac ateb cwestiynau
  • Gadael y cyfarfod cyn i’r ddadl ddechrau
  • peidio â phleidleisio
  • cyfathrebu gyda swyddogion mewn ysgrifen
  • trafod gyda swyddogion os oedd o leiaf 3 pherson yn bresennol - 2 annibynnol (nid ymddiriedolwr arall na’u gwraig) a bod trafodaethau’n cael eu cofnodi

 

            Cynghorydd Sir Dennis Hutchinson

 

Caniatáu rhyddhad i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson am gyfnod o 12 mis (yn dod i ben ar 3 Medi) o dan baragraffu (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud mewn perthynas â chais cynllunio rhif 056023 a hefyd ceisiadau dilynol am ddatblygiad preswyl ar y tir gyferbyn y ceir mynediad iddo drwy’r cais hwnnw, ac i gyfathrebu gyda swyddogion mewn ysgrifen. 

 

Cynghorwyr Tref Stephen Rodham a Shelley Streeter

 

Y dylai’r rhyddhau a roddwyd gan y Pwyllgor ar 4ydd Gorffennaf 2016 mewn perthynas â Throsglwyddo Ased Cymunedol y Ganolfan Gymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid barhau nes yr 2il Hydref 2017, pan ddaw i ben, oni fydd y Cynghorwyr wedi cysylltu â'r Swyddog Monitro neu Is-swyddog Monitro cyn y dyddiad hwnnw gyda chais i’r Pwyllgor ystyried ymestyn y rhyddhad, a bod y cais hwnnw yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Cynghorwyr Cymunedol J Lamb a H Lamb

 

Y dylai’r rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor ar 4ydd Gorffennaf 2016 mewn perthynas â Throsglwyddo Ased Cymunedol y Ganolfan Gymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid barhau nes yr 2il Hydref 2017, pan ddaw i ben, oni fydd y Cynghorwyr wedi cysylltu â'r Swyddog Monitro neu Is-swyddog Monitro cyn y dyddiad hwnnw gyda chais i’r Pwyllgor ystyried ymestyn y rhyddhad, a bod y cais hwnnw yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Cynghorydd Sir Veronica Gay

 

Y dylai’r rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor ar 4ydd Gorffennaf 2016 mewn perthynas â Throsglwyddo Ased Cymunedol y Ganolfan Gymunedol, Llyfrgell a Chanolfan Ieuenctid barhau nes yr 2il Hydref 2017, pan ddaw i ben, oni fydd y Cynghorwr wedi cysylltu â'r Swyddog Monitro neu Is-swyddog Monitro cyn y dyddiad hwnnw gyda chais i’r Pwyllgor ystyried ymestyn y rhyddhad, a bod y cais hwnnw yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Cynghorydd Sir Mike Peers

 

Bod y rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor ar 7fed Gorffennaf 2014 i'r Cynghorydd Mike Peers allu cymryd rhan yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Bwcle pan fydd yn dadlau am faterion sy’n effeithio ar Gyngor Cymunedol Hawkesbury barhau nes 3 Medi 2018 pan ddaw i ben.  Rhoddir y rhyddhad o dan baragraffau (d) ac (f) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Rhyddhad) (Cymru) 2001 ac mae’n caniatáu i’r Cynghorydd Peers gysylltu â swyddogion mewn ysgrifen, aros yn yr ystafell i siarad ac ateb cwestiynau ond rhaid iddo adael yr ystafell (ac felly peidio â phleidleisio) ar ôl gwneud hynny.

 

Cynghorydd Cymunedol K Houghton ac aelodau eraill Cyngor Cymunedol Argoed a oedd y cael eu cynrychioli ar MIFFY

 

Y dylai’r rhyddhad a roddwyd gan y Pwyllgor ar 14eg Medi 2009 mewn perthynas â darparu cyfleusterau ieuenctid yn ardal y cyngor cymunedol barhau nes yr 2il Hydref 2017, pan ddaw i ben, oni fydd clerc y Cyngor Cymunedol wedi cysylltu â'r Swyddog Monitro neu Is-swyddog Monitro ar ran y Cynghorwyr Cymunedol cyn y dyddiad hwnnw gyda chais i’r Pwyllgor ystyried ymestyn y rhyddhad, a bod y cyfryw gais yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Bod pob rhyddhad sy’n weddill a roddwyd gan y Pwyllgor, yn ôl y rhestr a ddosbarthwyd gan yr Is-bwyllgor Monitro yn y cyfarfod, yn cael eu dileu.

 

 

Dogfennau ategol: