Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7)

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

  Ar Gronfa’r Cyngor, rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa net yn ystod y flwyddyn £1.262m yn uwch na’r gyllideb, a oedd yn gynnydd o £0.115m ers Mis 6. Roedd y newidynnau arfaethedig mwyaf sylweddol ar gyfer cost uchel y lleoliadau ychwanegol y tu allan i’r sir a’r oedi wrth weithredu effeithlonrwydd cymhorthdal bysiau yn ystod y flwyddyn, a oedd wedi’u gosod yn erbyn trosglwyddiad costau cludiant ysgol o Strydwedd a Chudliant.

 

Ar arbedion cynlluniedig, amcangyfrifwyd y byddai 93% wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Byddai angen dadansoddi effeithiau y risgiau newydd sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ar gyllideb 2018/19 ac fel y trafodwyd yn ystod cyfarfod diweddar y Cyngor Sir byddai’r symiau ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r Gronfa Gofal Canolraddol yn cael eu cynnwys o fewn cynigion Cam 2.Cynlluniwyd gwaith pellach ar faterion sylweddol eraill megis caffael cludiant lleol a chludiant ysgol yn dilyn y gweithdy i Aelodau, y costau cynyddol ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir a chwrdd â’r targedau incwm. Yn dilyn diweddariad ar gronfeydd wrth gefn a balansau, nodwyd bod disgwyl i’r gronfa wrth gefn o £20.3m a glustnodwyd haneru erbyn diwedd y flwyddyn, ac amlygwyd Strategaeth y Gyllideb Wrth Gefn a Balansau Ysgolion fel y prif faterion.

 

Ni adroddwyd unrhyw newid sylweddol ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £0.035m yn is na’r gyllideb.

 

Ar gais y Cadeirydd, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu gwybodaeth am ‘Flintshire Enterprise Ltd’ a oedd yn ymddangos ar y tabl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y lefelau incwm gan drwyddedau parcio Neuadd y Sir a oedd yn is na’r disgwyl a chafodd wybod bod y rhain yn rhan o gynigion cyllideb Cam 2 i’w hystyried yn y Flwyddyn Newydd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y tabl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a dywedodd y dylid cyflwyno’r cronfeydd hynny nad oeddent yn dangos unrhyw newid i ddiwedd y flwyddyn (sy’n gyfanswm o £2.45m) yn ôl i’r gyllideb i’w defnyddio yn hytrach na gadael iddynt barhau yn awtomatig.Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y tabl wedi'i gynnwys mewn adroddiadau chwarterol, ac fel rhan o gynllunio rheolaeth ariannol, cadwyd y symiau am resymau amrywiol ac roeddent yn destun adolygiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones y dylid trin y balansau ar refeniw'r un fath â chyfalaf ac os nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol, dylai’r gwasanaeth orfod ailymgeisio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol i ddeall goblygiadau hyn.

 

Ar Atodiad 1 yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai'n ddefnyddiol i ddangos yr amrywiant mewn coch. Cyfeiriodd at dri amrywiant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Anableddau – Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig; Gwasanaethau Iechyd Meddwl – Lleoliadau Preswyl; a Datblygiad ac Adnoddau – Uned Diogelu) â chyfanswm o £700K o danwariant, lle bo’r cam gweithredu yn nodi i ‘barhau i fonitro ac adolygu’. Cynigodd atgyfeirio y rhain at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w harchwilio ac adrodd yn ôl arnynt gan nad oedd yr eglurhad yn ddigonol o ystyried sefyllfa cyllideb y Cyngor. Eglurodd Swyddogion bod llawer o feysydd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu harwain gan y galw, gyda rhwymedigaethau i gyflawni dyletswyddau statudol a bod trosglwyddiadau yn cael eu hadrodd ar draws y gwasanaethau.

 

Cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i drosglwyddo pryderon am effeithiau ariannol oedi ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a ffioedd meysydd parcio y Fflint, er mwyn. Mewn perthynas â’r pwynt diwethaf, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad byr am y cefndir a byddai’n gofyn am ymateb fwy manwl gan y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant).

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom fod angen i Aelodau dderbyn mwy o fanylder am werthusiad y gyllideb sylfaenol ar gyfer pob portffolio er mwyn cynorthwyo â dealltwriaeth o gynigion Cam 2. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd hyn yn ymarferol oherwydd y nifer sylweddol o ganolfannau cost gwaelodol na fyddai’n cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at fanylder y datganiadau gwytnwch a rannwyd yn ddiweddar gydag Aelodau. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ymholiadau yngl?n â chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Strategaeth y Gyllideb Wrth Gefn a Statws Sengl, gan ddweud y byddai adolygiad terfynol o’r holl gronfeydd wrth gefn yn asesu digonolrwydd ar gyfer anghenion y Cyngor. Ar chwyddiant, roedd y prif faterion, megis cynnydd o ran ynni, wedi’u cynnwys yn rhagolwg 2018/19.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Woolley bwysigrwydd trywydd archwilio ysgrifenedig o benderfyniadau’r pwyllgor i arddangos cywirdeb. Mynegodd ei bryderon mewn perthynas ag eglurder annigonol o gamau gweithredu ar amrywiant, gan dynnu sylw at absenoldeb cam gweithredu ar Gludiant.

 

Eglurwyd y ddau argymhelliad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Jones a derbyniwyd cefnogaeth y Pwyllgor. Yn ystod trafodaeth, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd nad oedd terfynau amser yn caniatáu digon o amser i’r pwyntiau hyn gael eu cynnwys mewn adroddiad ysgrifenedig i’r Cabinet ac y byddai, yn hytrach, yn anfon e-bost at Arweinydd y Cyngor a swyddogion statudol, gan gynnwys Aelodau'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 Mis 7 a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, y materion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet:

 

 (a)      Dylid trin y balansau refeniw yn yr un modd â chyfalaf, os nad yw’r gyllideb yn cael ei defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol, mae’n rhaid i’r gwasanaeth ailymgeisio ar gyfer y cyllid hwnnw. (Cynigodd y Swyddog 151 i lunio adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol a fydd yn nodi goblygiadau dull o’r fath, cymeradwywyd hyn gan y Pwyllgor); a

 

 (b)      Dylid atgyfeirio y mater o danwariant y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y dangosir ar dudalennau 93 a 94 yr adroddiad (Gwasanaethau Anabledd - Adnoddau a Gwasanaetha Rheoledig, Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Lleoliadau Preswyl; a Datblygiad ac Adnoddau - Uned Diogelu, â chyfanswm o £700K) at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’w harchwilio ac adrodd yn ôl. Nid yw ‘parhau i fonitro ac adolygu’ yn gam gweithredu digonol o ystyried sefyllfa cyllideb y Cyngor ar danwariant a gorwariant.

Dogfennau ategol: