Agenda item

Diweddariad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Pwrpas:        I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd Prif Weithredwr y Cynghorwyr Meirick Lloyd Davies a Peter Lewis (Cadeirydd ac Is-Gadeirydd) a Dawn Docx (Dirprwy Brif Swyddog Tân) o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân gyflwyniad ar ddyfodol y gwasanaeth Tân ac Achub i gwmpasu’r pynciau a ganlyn:

 

·         Diogelwch Cymunedol

·         Galwadau Gwasanaeth Arbennig

·         Ymateb a Diogelwch Tân Busnes

·         Faint mae'n gostio i’w redeg?

·         Cyllideb Cyfalaf

·         Cronfeydd wrth gefn 2017/18

·         Pwysau ar y Gyllideb

·         Strategaeth Gadarn

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyflwyniad yn adlewyrchu pwysau’r gyllideb a oedd yn cysoni gyda rhai’r Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham am y posibilrwydd o gyflwyno taliadau i ddarparu buddsoddiad mawr ei angen mewn gwasanaethau.  Eglurodd Dirprwy Brif Swyddog Tân nad oedd taliadau am wasanaethau arbennig damweiniol yn cynhyrchu incwm sylweddol a bod anawsterau o ran codi tâl am ddarparu cyngor diogelwch oherwydd gwrthdaro buddiannau.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Jones, eglurwyd, oherwydd sefyllfa ariannol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod penderfyniadau wedi’u gwneud i leihau neu atal gwasanaethau penodol – fel achub anifeiliaid mawr – nad oeddent yn orfodol, gan ystyried y lefelau risg sy'n rhan o hyn.

 

 Yn ystod y drafodaeth, eglurwyd fod pwysau’r gyllideb a wynebir gan yr Awdurdod wedi dod i sefyllfa lle roedd angen trafodaeth gytbwys i nodi effeithlonrwydd pellach.  Yr opsiynau i’w hystyried oedd gofyn am ardoll uwch gan gynghorau neu leihau darpariaeth o ran gweithwyr gorsafoedd y rhanbarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones, pe bai preswylwyr yn ymwybodol o’r rhagolwg o doriadau pellach, mae’n bosibl y byddant yn barod i dalu £3 ychwanegol bob blwyddyn fesul aelwyd i ddiogelu gwasanaethau.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei dalu o Dreth y Cyngor ac y byddai unrhyw gynnydd o ran yr ardoll yn bwysau o ran cost ar y Cyngor.  Dywedodd fod cynnydd pellach a argymhellwyd i Dreth y Cyngor 2017/18 i ddarparu ar gyfer yr ardoll uwch gan yr Awdurdod wedi’i ddiystyru gan Aelodau, gan arwain at bwysau ar y gyllideb ar gyfer y Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Jones yn teimlo y gallai preswylwyr gefnogi’r ardoll ychwanegol pe bai wedi’i glustnodi o fewn swm Treth y Cyngor.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, gan nad oedd deddfwriaeth yn caniatáu hyn, gallai nodyn gael ei gynnwys ar filiau Treth y Cyngor i ddangos yr ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, efallai byddai Aelodau am wneud argymhelliad i roi ystyriaeth creadigol i’r wybodaeth a gynhyrchir i roi gyda’r bil Treth y Cyngor.  Awgrymodd argymhelliad pellach ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor i roi ystyriaeth ddyledus i unrhyw gynnydd a awgrymir o ran y tâl ardoll.  Gofynnodd y Cynghorydd Peter Lewis, Is-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, fod y Cyngor yn rhoi pwyslais cynnar ar ei ymateb.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion, a hefyd yr awgrym i roi sylwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth a chynnig y Cynghorydd Woolley fod yr adroddiad yn cael ei nodi am ei eglurder a’i grynoder.

 

Gan mai hwn oedd ei chyfarfod olaf cyn cymryd rôl newydd ym Manceinion Fwyaf, diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Brif Swyddog Tân am ei chyflwyniad a chymerodd y cyfle i ddymuno’n dda iddi ar ran y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynrychiolwyr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael diolch am eu presenoldeb a’u cyfraniad at y cyfarfod;

 

(b)       Nodi’r adroddiad a chymeradwyo ei eglurder a’i grynoder;

 

(c)       Bod newidiadau i’r deunyddiau sydd wedi’u cynnwys ym miliau Treth y Cyngor, i egluro cyllid Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru  i dalwyr Treth y Cyngor, yn cael eu hymchwilio;

 

(d)       Bod achos am newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth genedlaethol yn cael ei ddilyn i ddarparu rhagor o dryloywder o ran cyllid Awdurdod Tân ac Achub;

 

(e)       Bod y Cabinet a’r Cyngor Sir yn cael gwybod bod y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i dâl ardoll yr Awdurdod Tân ac Achub a’r angen am gynnydd; a

 

(f)        Bod cynrychiolwyr Sir y Fflint ar yr Awdurdod Tân ac Achub yn cael gwybod ar gam cynnar am sefyllfa’r Cyngor ar gynnydd o ran cyllid Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dogfennau ategol:

  • Restricted enclosure