Agenda item

Cronfa Waddol Gymunedol

Pwrpas:        Bydd Colin Evans o’r Sefydliad Cymunedol yn cyflwyno’r adroddiad cynnydd blynyddol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol yr adolygiad perfformiad blynyddol o Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a reolir ac a weinyddir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn dilyn trosglwyddiad 16 o gronfeydd ymddiriedolaeth addysgol yn 2013. Ers hynny, mae elfen gyfalaf Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint wedi cynyddu o 18% a’r Gronfa wedi dyfarnu gwerth £34,000 o grantiau; ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl cyn y trosglwyddiad.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynnig, sef i'r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ymgymryd â’r un cyfrifoldebau dros Gronfa’r Degwm Deiran Clwyd ar ran Cynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Eglurwyd cylch gorchwyl ehangach y ceisiadau grant gan Gronfa’r Degwm Deiran Clwyd.

 

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru - Colin Evans (Partner Datblygu), Richard Williams (Prif Weithredwr) a Tom Morris (Rheolwr Cyllid ac Ymchwil) – a rhoddwyd cyflwyniad ar waith y Gronfa, gan drafod y canlynol:

 

·         Llwyddiannau’r Sefydliad Cymunedol ar draws Cymru ac yn benodol yn Sir y Fflint

·         Hanes a Throsolwg o’r Gronfa

·         Perfformiad Ariannol y Gronfa

·         Gwasanaethau Ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol

·         Crynodeb o’r Gwobrau Grant a ddyfarnwyd yn 2016 a 2017

·         Trosoledd ar gyfer Sir y Fflint

·         Astudiaethau Achos

 

Ers trosglwyddo’r asedau, roedd Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint wedi cyflawni cyfanswm elw o 35% ac yn ddiweddar nodwyd gwerth o tua £210,000 i elfen gyfalaf y Gronfa. Rhoddwyd eglurhad mewn perthynas â’r strategaeth fuddsoddi a oedd yn ymdrin â risgiau yn gymedrol ac yn destun craffu rheolaidd.Nodwyd manylion y grantiau a ddyfarnwyd yn 2016/17 yn yr Adroddiad Effaith a ychwanegwyd at y rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Dunbobbin sylw mewn perthynas â hyrwyddo Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a oedd yn cynnwys rhwydwaith o hwyluswyr cymunedol a gwefannau. Eglurwyd eu bod wedi mabwysiadu ymagwedd risg isel i ddechrau er mwyn adeiladu’r Gronfa. Rhoddwyd terfyn uchaf ar y grantiau a ddyfarnwyd o £750 i unigolion a £1,000 i grwpiau gwirfoddol. Awgrymodd y Cynghorydd Dunbobbin y byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol hefyd yn elwa o glywed y cyflwyniad hwn.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Hughes, rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â chyfansoddiad y panel (o ran cynrychiolaeth leol) wrth asesu cryfder y ceisiadau i benderfynu os dylid dyfarnu grant rhannol neu lawn.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at broblemau gyda rhai sieciau wedi’u hanfon drwy’r post. Eglurwyd mai dim ond rhai sieciau yn unig oedd heb gyrraedd pen eu taith ac ni adroddwyd unrhyw achos o dwyll.Ers mis Ebrill 2017, caiff y grantiau eu talu’n uniongyrchol i gyfrifon banc, gan fod y dull hwn yn fwy diogel ac effeithlon.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones a fyddai unrhyw newid i’r meini prawf ar gyfer grantiau gan y ddwy Gronfa. Cafodd wybod y byddai’r ddwy gronfa yn cael eu rhedeg ar wahân yn ôl eu hamcanion eu hunain a nodwyd yn y ddogfen llywodraethu y cytunwyd arni gan y Cyngor a Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Ni fyddai unrhyw newid i’r broses ymgeisio oherwydd dim ond cyfrifoldebau rheoli a gweinyddu fyddai’n trosglwyddo.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, rhoddodd Mr Morris sicrwydd o adolygiadau blynyddol er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw fuddsoddiad anfoesol uniongyrchol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr am eu presenoldeb a’u cyflwyniad manwl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn diolch i gynrychiolwyr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am eu cyflwyniad a rhoi gwybod i’r Cabinet:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a dyfarniad grantiau lleol fel rhan o Gronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo trosglwyddiad prosesau rheoli a gweinyddu grantiau Sir y Fflint a ddyfarnwyd gan Gronfa’r Degwm i’w cyfuno â’r broses sydd eisoes ar waith ar gyfer Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint.

Dogfennau ategol: