Agenda item

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (mae'r cyfarfod hwn wedi ei ddynodi'n gyfarfod Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anhrefn Statudol)

Pwrpas:   Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan roi arolwg i’r Pwyllgor fel eu bod yn hyderus yn cyflawni eu rôl fel pwyllgor craffu trosedd ac anhrefn statudol i Sir y Fflint.

 

            Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint. Dywedodd bod sawl strategaeth ar waith i fynd i’r afael â phroblemau o ran trosedd ac anhrefn, camddefnyddio sylweddau ac aildroseddu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Cunningham at seremoni wobrwyo ddiweddar gan Heddlu Gogledd Cymru y bu ynddi.Roedd y digwyddiad hwn wedi amlygu'r llwyddiannau o fewn cymunedau a oedd yn cynnwys trigolion ifanc a h?n a ddaeth ynghyd i gael gwared ag, er enghraifft, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio alcohol neu broblemau masnachu anghyfreithlon. Roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno dau brosiect i'w hystyried.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at riportio trosedd casineb a gofynnodd a oedd cynnydd wedi bod. Wrth ymateb, fe ddarparodd y Prif Arolygydd drosolwg o achosion o drosedd casineb yn Sir y Fflint.       

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Cunningham, cyfeiriodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau at y cynlluniau ymfudo rhanbarthol ac fe ddywedodd, er bod siroedd eraill wedi gweld effaith o ymfudo, nid oedd hynny'n wir yn Sir y Fflint. Roedd Sir y Fflint yn rhan o Gr?p y Bartneriaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn a oedd yn cyfarfod pob mis ac roedd y cydlynydd ar gyfer Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn rhannu gwybodaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru.

 

            Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am broblemau o ran gangiau troseddu trefnedig yn targedu cartrefi pobl ddiamddiffyn a oedd ag anawsterau dysgu yn yr ardal i ddelio cyffuriau. Yn Saesneg, gelwid hyn yn ‘cuckooing' ac fe gadarnhaodd y Prif Arolygydd bod hon yn broblem ar draws Prydain wrth i gangiau symud o ganol dinasoedd. Roedd angen i Swyddogion Diogelwch a Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ddod o hyd i bobl ddiamddiffyn a cheisio cymorth gan drigolion lleol. O dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, roedd gorchmynion wedi’u cyflwyno i rwystro pobl rhag mynd i’r tai hyn. Ni fyddai hyn yn gweithio heb i’r holl asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd gydweithio.  Ymrwymodd aelodau’r Bartneriaeth oedd yn bresennol i ystyried gweithred bellach ar yr her sy’n dod yn amlwg.

 

            Cyfeiriodd y Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol at y cyfarfodydd misol yr oedd yn mynd iddynt lle roedd  ardaloedd problemus mewn tai cymdeithasol yn cael eu hamlygu. Roedd y cyfarfodydd hyn hefyd yn cynnwys wardeiniaid cymdogaethau. Soniodd y Cynghorydd Haydn Bateman am bryderon yngl?n â phroblemau sy'n digwydd yn ei ward ef yn ystod y nos.

 

            Gwnaeth Rhiannon Edwards sylw yngl?n â chyflwyno hyfforddiant cenedlaethol. Roedd hon wedi bod yn fenter enfawr ac roedd cynllun peilot eisoes wedi’i roi ar waith. O ran dioddefwyr trais rhywiol, ym mis Ebrill 2018, roedd cynlluniau i bob un a oedd yn gweithio â phobl ddiamddiffyn dderbyn hyfforddiant uwch gan mai nhw oedd y pwynt cyswllt cyntaf i ddioddefwyr. Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau gael hyfforddiant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gydweithwyr o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a chefnogi’r cynnydd a wnaed.

Dogfennau ategol: