Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

                        Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dau euogfarn. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) gan yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig i roi sylw i’r holl euogfarnau, ac fe atodwyd y rhain i’r adroddiad. Yn sgil natur ac amlder yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.   

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau. Nododd ei fod wedi cyflawni rhai troseddau yn ei ieuenctid, ac yn difaru gwneud hyn yn fawr iawn, ac eglurodd y rhesymau dros ei weithredoedd. Cyfeiriodd at ei euogfarn diwethaf yn 2003 a dywedodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ers yr amser hwnnw. Ail-adroddodd ei fod yn difaru ei ymddygiad yn y gorffennol yn fawr iawn, a'i fod wedi datblygu'n unigolyn cyfrifol, gonest, sy'n gweithio'n galed, o ganlyniad i'w brofiadau a'r euogfarnau a wasanaethodd.

 

Atebodd yr ymgeisydd gwestiynau yngl?n â'i hanes cyflogaeth, ac amgylchiadau personol a theuluol. Dywedodd ei fod wedi gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda sefydliadau, fel cyn-droseddwr, i hysbysu ac addysgu pobl a oedd wedi canfod eu hunain mewn amgylchiadau anodd tebyg.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at euogfarn diwethaf yr ymgeisydd, a cheisiodd ragor o eglurhad ynghylch yr amgylchiadau a oedd wedi achosi'r drosedd a'r ddedfryd a wasanaethodd. Cwestiynwyd yr ymgeisydd yn fanwl gan y Cyfreithiwr ar ei fan preswylio ar yr adeg honno, natur ei gyflogaeth, a'i ddealltwriaeth o faterion yn ymwneud â sylweddau anghyfreithlon.     Ymatebodd yr ymgeisydd i’r cwestiynau ac eglurodd ei fod wedi gweithredu’n ddiffuant o ran ei euogfarn, ond wedi cael ei dwyllo ynghylch pwrpas y dasg roedd wedi cytuno i'w chynnal.  

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd a oedd yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn dibynnu ar incwm o gyflogaeth ar gyfer annibyniaeth ariannol.  Dywedodd ei fod yn mwynhau ei waith a chyfarfod pobl, a’i fod yn unigolyn gofalgar a chymwynasgar. Pan gafodd ei holi am ei ‘ffordd o fyw’ flaenorol, dywedodd ei fod wedi cael diwygiad a oedd yn ceisio gwneud y gorau o'i fywyd. Dywedodd ei fod yn difaru ei benderfyniadau yn y gorffennol a’r amgylchiadau personol a oedd wedi’u hysgogi.

 

 Mewn ymateb i gais gan y Panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei ragolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol pe bai ei gais yn llwyddo. 

 

 

 

 

 

 

 

                        Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.      

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais  

 

                        Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad.    Ystyriwyd gonestrwydd yr ymgeisydd gan ei fod wedi methu â datgelu ei holl euogfarnau. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau a oedd ynghlwm wrth bob achos, a'r eglurhad a roddwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r amser a oedd wedi mynd heibio ers yr euogfarn diwethaf, a theimlai'r aelodau bod yr ymgeisydd wedi adrodd hanes ei weithredoedd yn llawn ac yn gredadwy.   Cytunodd yr Is-Bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd). 

 

                        Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

4.2       Penderfyniad

           

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.  

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.