Agenda item

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 a Diweddariad Chwarter 3 2017/18

1.01 Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2018/19 i’r Aelodau a’i argymell ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet.

 

1.02 Rhoi diweddariad ar faterion sy’n ymwneud a Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor at ddiwedd mis Rhagfyr 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifeg Dechnegol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 ddrafft i’w hadolygu a’i thrafod, gan geisio argymhelliad i’r Cabinet. Gwahoddwyd pob Aelod i sesiwn hyfforddiant ym mis Rhagfyr 2017 i baratoi ar gyfer cymeradwyo’r Strategaeth yn y Cyngor llawn yn nes ymlaen yn y mis. Yn ogystal, cyflwynwyd diweddariad Chwarter 3 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli’r Trysorlys 2017/18 y Cyngor er gwybodaeth.

 

Crynhodd yr adroddiad y prif newidiadau a gododd o’r diweddariad diweddar i’r ddau God Ymarfer gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Oherwydd yr amserlenni a’r ffaith nad oedd CIPFA eto wedi cyhoeddi arweiniad ymarferol i gyd-fynd â’r diweddariadau, argymhellodd ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys (Arlingclose) fod y Cyngor wedi gosod ei Strategaeth 2018/19 gan ddefnyddio  fersiwn 2011 y Cod. Amlygwyd newidiadau allweddol o’r Strategaeth flaenorol, gan nodi bod Adran 4 (cyd-destun lleol) yn seiliedig ar waith yn y Rhaglen Gyfalaf ar hyn o bryd a allai fod yn destun newid cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Yn ystod diweddariad ar Reoli’r Trysorlys 2017/18, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid at drafodaeth flaenorol ar MiFiD II (Marchnadoedd yn y Gyfarwyddeb Offerynnau Ariannol) a arweiniodd at gytundeb i’r Cyngor ddewis statws cleientiaid ‘proffesiynol’. Ers cyhoeddi’r adroddiad, cymeradwywyd y Cyngor i’r statws hwn gan 11 sefydliad ariannol ac roeddent yn aros am ymateb gan un arall.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at gyhoeddi canllawiau CIPFA, oedd yn ddisgwyliedig yn ail hanner y flwyddyn, a gofynnodd ynghylch y risgiau oedd yn codi yn sgil gweithredu’r newidiadau yn hwyr. Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod Cod 2011 yn parhau i fod yn berthnasol. Er y gallai rhai paratoadau ddechrau, byddai’r goblygiadau ymarferol yn gofyn am ragor o drafod pan fyddai’r canllawiau ar gael, er enghraifft eglurder ar ddiffiniad ehangach ‘buddsoddiadau’. Roedd gan y Cyngor ddull da o droi at fesur y risgiau sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau buddsoddi tymor hir ac roedd hi’n bwysig peidio â chael eu gorlethu â’r fframwaith risgiau petai gofynion y Cod yn cael eu bodloni. Gofynnodd Sally i ddiweddariad ychwanegol ar Reoli’r Trysorlys gael ei amserlennu yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Nid oedd y Prif Weithredwr yn disgwyl i’r newidiadau effeithio ar arferion oherwydd roedden nhw’n gyffredinol berthnasol i gofnodi a dosbarthu’r eitemau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson ar newidiadau CIPFA, dehonglodd y Rheolwr Cyllid fod y rhain o gwmpas y mentrau masnachol cynyddol a gyflawnir gan y cynghorau yn Lloegr yn bennaf. O ran MiFiD II, rhoddodd wybodaeth am y sefydliadau ariannol rheoledig oedd yn ofynnol i roi cymeradwyaeth i statws proffesiynol y Cyngor a chytunodd rannu rhestr o’r sefydliadau hynny a fyddai’n cyd-fynd ag Arferion ac Amserlenni Rheoli’r Trysorlys.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley am yr angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch cynlluniau ad-drefnu i lywodraeth leol. Gofynnodd a ad-dalwyd benthyciad o £1.6m yn ystod Chwarter 3 gan ddefnyddio cronfeydd presennol neu drwy fenthyca. Dywedodd y Rheolwr Cyllid  fod y penderfyniadau hynny’n cael eu penderfynu gan y sefyllfa ariannol ar y diwrnod yr oedd y benthyciad yn aeddfedu a byddai’n darparu ymateb ar wahân ar y mater penodol hwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am eglurhad ar y cyfanswm benthyca a ddangoswyd yng ngwahanol ardaloedd yr adroddiad. Cadarnhaodd y swyddogion fod y cyfanswm benthyciad net o £274.49m a ddyfynnwyd yn cynnwys benthyca tymor hir a byr yn rhan 3 y Strategaeth a oedd yn clymu’n ôl â’r £252.1m o fenthyciadau tymor hir a ddangoswyd yn rhan 6.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Argymell Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft 2018/19 i’r Cabinet ar 20/02/18. Mae’r Pwyllgor yn cadarnhau ar yr achlysur hwn mai’r mater yr hoffai ddod ag ef i sylw’r Cabinet yw gofid am y risgiau potensial sy’n codi o argaeledd hwyr canllawiau CIPFA ar y Codau Ymarfer a ddiweddarwyd; a

 

(b)       Nodi diweddariad chwarterol 2017/18 Rheoli’r Trysorlys.

Dogfennau ategol: