Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG

Adroddiad y Prif Weithredwr amgaeedig.

 

Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-

 

Newid Sefydliadol

  • Gwerthu Byngalo Aberllanerch, Ffordd y Bryn, Alltami, Yr Wyddgrug trwy Dendr Anffurfiol

Gwerthu daliad amaethyddol gwag sy’n cael budd o ganiatâd cynllunio i newid yr annedd bresennol yn uned fwy.

 

  • Gwerthu Tir Ger 20 Bernsdale Close, Sandycroft

Mae’r tir yn cynnwys ardal o dir a gedwir yn y Cyfrif Refeniw Tai.  Bydd gwerthu yn tynnu cyfrifoldeb atgyweirio sylweddol oddi ar y Cyngor.

 

  • Gwerthu gardd wrth ochr 8 Maes Alaw, Y Fflint

Pan brynodd y perchennog yr eiddo drwy’r cynllun Hawl i Brynu, roedd yr ardd ochr wedi'i heithrio.

 

  • Gwerthu Tir Ger Grantec Ltd, Ystad Ddiwydiannol Spencer, Bwcle

Roedd Grantec wedi llechfeddiannu’r tir uchod ac mae bellach wedi cytuno ei brynu.

 

  • Gwerthu Tir Ger Bryn Abbey, Strand Lane, Treffynnon

Mae’r darn bach hwn o dir (oddeutu 25 metr sgwâr) yn ffurfio rhan o Ysgol Treffynnon ar hyn o bryd ac mae’n cael ei werthu er mwyn caniatáu mynediad i berchnogion adeilad gerllaw i’w galluogi i gynnal a chadw cefn yr adeilad.

 

  • Codi Prisiau Prydau Ysgol

Codi prisiau prydau mewn ysgolion fel eu bod yn gydnaws â phrisiau darparwyr prydau ysgol eraill ledled Cymru.

 

  • Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd - Cadarnhau Amodau i Alluogi Trosglwyddiad Gwasanaethau i, a Chwblhau Lesoedd gydag, Aura Leisure and Libraries Ltd, sef y Gymdeithas Mantais Gymunedol newydd.

Mae hyn yn cwmpasu'r gwaith a gwblhawyd i’n galluogi i gadarnhau amodau (a gytunwyd yn y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2016) er mwyn galluogi trosglwyddiad gwasanaethau i, ac arwyddo lesoedd gydag, Aura Leisure and Libraries Ltd., sef y Gymdeithas Mantais Gymunedol newydd o 1 Medi 2017.

 

Cymuned a Menter

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan Gymdeithas Gymunedol Bagillt wedi’i wrthod ar y sail fod gan y ganolfan gymuned incwm a chyfalaf digonol i dalu eu hardrethi busnes o 20%.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan Glwb Bocsio Bwcle wedi’i wrthod ar y sail fod gan y clwb incwm a chyfalaf digonol i dalu eu hardrethi busnes o 20%.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan Jump 2 It Deeside Ltd. wedi cael ei wrthod ar y sail na thybir y byddai cefnogi dyfarniad o Ryddhad Ardrethi ar Sail Caledi o fudd i’r cyhoedd ehangach.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan Gr?p Sgowtiaid Mynydd Isa wedi’i wrthod ar y sail fod gan y clwb incwm a chyfalaf digonol i dalu eu hardrethi busnes o 20%.

 

  • Ardrethi Busnes – Cais am Ryddhad Caledi

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi hawl i’r Cyngor ddefnyddio ei ddoethineb i ostwng neu ddileu ardrethi busnes os yw’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’n gwneud hynny ac os yw’n rhesymol iddo wneud hynny o ystyried buddiannau trethdalwyr y cyngor.

 

Mae cais a dderbyniwyd gan elusen gofrestredig ‘SHARE’ (Supporting Homeless Assisting Refugees Everywhere) wedi cael ei wrthod ar y sail na thybir y byddai cefnogi dyfarniad o Ryddhad Ardrethi ar Sail Caledi o fudd i’r cyhoedd ehangach.

 

  • Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint

Ar ôl cyhoeddi adroddiad “Adolygu Ffioedd a Thaliadau Cyngor Sir y Fflint” gan Deloitte’s ym mis Rhagfyr 2016, mae adolygiad o ffioedd cofrestru anstatudol wedi’i gynnal i fanteisio ar y cyfleoedd a amlygir yn yr adroddiad.   Mae’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) wedi dirprwyo pwerau i osod y ffioedd anstatudol.

 

  • Llety Ar Brydles – Cynllun Adleoli Unigolion Sy’n Agored i Niwed o Syria

Arwyddo cytundebau prydles y sector preifat i ddarparu hyd at bump o gartrefi i deuluoedd er mwyn galluogi’r Awdurdod Lleol i gymryd rhan yn y Cynllun Adleoli Unigolion sy'n Agored i Niwed o Syria.

 

Cyfreithiol

  • Ffioedd ac Ad-daliadau Cyfreithiol 2017

Mae tîm cyfreithiol y Cyngor yn adfer costau ymgymryd â gwaith cyfreithiol penodol megis gwerthu tir a pharatoi cytundebau A.106 gan drydydd partïon (y prynwr, datblygwr ac ati).  Yn dilyn ymarfer meincnodi yn erbyn yr awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru, mae ffioedd wedi codi mymryn.  Mae’r Cyngor hefyd wedi adolygu’r tâl fesul awr ar gyfer ei dîm cyfreithiol i adlewyrchu cyfraddau presennol y farchnad.  Rhagwelir y bydd hyn yn codi lefelau incwm o £60,000 (yn 2015/16) i £75,000 (yn ystod 2017/18).

 

  • Strwythur Staffio Cyfreithiol mis Gorffennaf 2017

Cytunodd y Cabinet ar strwythur staffio’r Gwasanaethau Cyfreithiol ym mis Mehefin 2016 a oedd yn cynnwys nifer o swyddi newydd.  Mae’r swyddi hynny wedi cael eu hysbysebu ond heb eu llenwi eto.  Trwy ailddosbarthu gwaith o fewn y tîm bydd modd newid lefelau cymhwyster ar gyfer y swyddi gwag i’w gwneud yn fwy deniadol i ymgeiswyr.  Mae’r newidiadau arfaethedig yn niwtral o ran cost ac yn gwella cynhwysedd a gwytnwch mewn meysydd a nodwyd fel rhai gwan ac i ddiwallu'r cynnydd disgwyliedig mewn galw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Dogfennau ategol: