Agenda item

Cynllun y Cyngor 2017-23

I ystyried a chadarnhau targedau penodol a osodwyd o fewn Cynllun y Cyngor  2017-23, a dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Aaron Shotton Cynllun y Cyngor 2017-23 drafft a oedd wedi’i adolygu a’i newid i adlewyrchu prif flaenoriaethu'r Cyngor ar gyfer y tymor pum mlynedd o'r weinyddiaeth newydd.  Roedd yn ddyletswydd statudol gan y Cyngor i fabwysiadu'r Cynllun (a oedd yn cymryd lle'r Cynllun Gwella blaenorol) a'i bwysigrwydd i adnabod blaenoriaethau ac amcanion, yn arbennig yn ystod adegau o galedi, yn cael eu hadnabod.

 

I gywiro'r pwrpas yr adroddiad ar yr agenda, gofynnodd y Prif Weithredwr am sylwadau i roi fel adborth i’r Cabinet fel bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gallu ystyried eu meysydd penodol.  Bydd ymatebion yn cael eu dychwelyd i’r Pwyllgor hwn a’r Cabinet ym mis Medi 2017 i helpu i lywio'r Cynllun terfynol cyn cael cymeradwyaeth y Cyngor.  Mae’r themâu blaenorol wedi'i gydgrynhoi i chwe blaenoriaeth i’w cyflenwi yn y pum mlynedd nesaf, gyda ffocws penodol yn y flwyddyn gyntaf.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol bod y strwythur cyffredin o’r cynllun blaenorol wedi’i gadw, ond ni fydd materion polisi cenedlaethol yn effeithio ar gyflenwi rhai canlyniadau.  Roedd y tabl o fewn y Cynllun yn nodi'r effaith dymunol i bob blaenoriaeth ac is-flaenoriaeth sydd wedi’i gysylltu â’r  Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y Cyngor ac ymrwymiad i Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd rheoli risgiau wedi'u nodi ar gyfer pob adran.  Bydd manylion ar berfformiad targed a cherrig filltir yn cael eu rhannu yn yr ail ran o ddogfen “Sut ydym yn mesur llwyddiant’ sydd i’w rannu ar ddyddiad diweddarach.

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin ynghylch cofnod y Cyngor ar berfformiad fel y nodwyd gan y Swyddfa Archwilio Cymru, a’r bwriad i adeiladu ar y llwyddiannau hynny.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Jones y gwelliannau parhaus yn strwythur y Cynllun.  Roedd ei bryderon ynghylch y cynnwys,  dywedodd nad oedd manylion ar sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu mesur o ran eu llwyddiant.  Adlewyrchodd ar Gynlluniau blaenorol a oedd yn teimlo yr oeddynt yn canolbwyntio ar ardal Glannau Dyfrdwy, a gofynnodd am sicrwydd y byddai’r gwariant ar y blaenoriaethau cyfredol yn cael eu lledaenu’n deg ar draws y sir.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod rhai materion drwy’r sir gyfan, ond rhoddodd enghreifftiau o eraill sydd wedi’u targedu’n benodol yn unol ag ardaloedd o angen neu sy’n ddibynnol ar gyllid.  Bydd cynlluniau ar sail ddaearyddol a’u buddion i ardaloedd ehangach yn cael eu cyfeirio yn yr ail ran o’r ddogfen.

 

Eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod cyfeiriad at Lannau Dyfrdwy oherwydd ffocws rhanbarthol a chenedlaethol ar bwysigrwydd economaidd o dwf Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy y byddai Sir Y Fflint ar y cyfan yn manteisio ohono.    Hefyd cyfeiriodd at estyniad i’r rhaglen adeiladu tai'r Cyngor i rannau eraill o’r sir.

 

Er i'r Cynghorydd Jones gydnabod Glannau Dyfrdwy fel y ganolfan gyflogaeth yn y sir gyda buddiannau i'r ardaloedd ehangach, teimlodd ei fod yn bwysig bod cymunedau eraill yn cael cyllid cyfartal, yn arbennig i adfywio canolfannau tref.

 

Amlygwyd pwysigrwydd twristiaeth gan y Cynghorydd Vicky Perfect i helpu i roi hwb i’r economi leol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Arnold Woolley eiriau eraill yn lle'r gair 'effaith' a oedd wedi cael ei adrodd drosodd a throsodd yn y Cynllun.   Gofynnodd am y cyswllt rhwng tai cymdeithasol a’r Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) a’r angen i ddiffinio tlodi i dargedu cymorth yn briodol.  Awgrymodd meysydd blaenoriaeth eraill megis diogelu pobl ifanc yn erbyn camddefnyddio cyffuriau; hyfforddiant addysg i ddiwallu sgiliau gofynnol; mynd i’r afael â throsedd amgylcheddol megis baw c?n; a thai rhent sector preifat.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton y gellir gwneud cyfeiriad mwy penodol i dwristiaeth a oedd wedi'i nodi dan y flaenoriaeth 'Cyngor Gwyrdd’.   Dywedodd bod meincnodau clir ar dlodi a bod angen barn gytbwys ar aelodau blaenoriaeth yn groes i fusnes dyddiol y Cyngor.  Roedd cefndir rhai o’r pynciau a awgrymwyd yn ffurfio rhan o fframwaith Llywodraeth Cymru, gan gynnwys materion eraill megis adolygu polisi Treth Y Cyngor ar Dai Amlfeddiannaeth (AMO).  Tra bo’r cam hwn o’r ddogfen yn nodi amcanion y blaenoriaethau, byddai’r ail ran ar fesur perfformiad yn cynnwys y lefel o fanylder y mae’r Aelodau eu hangen.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y blaenoriaethau wedi seilio ar effeithiau hirdymor gyda strategaethau cefnogol a fyddai'n cael eu hystyried yn y ddogfen ddilynol gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.   Mae llawer o’r meysydd blaenoriaeth eraill yn awgrymu yn faterion cymdeithas, a dim ond ychydig o ddylanwad y byddai gan y Cyngor.

 

Er ei fod yn cefnogi amcanion y blaenoriaethau, nid oedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn teimlo na allai gefnogi’r Cynllun yn ei ffurf bresennol gan nad oedd yn dangos mecanwaith i gyflawni’r canlyniadau.

 

Ail-adroddodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol y bydd yr ail ran o’r ddogfen yn cynnwys mesurau a cherrig milltir lle gallai datblygiad gael ei graffu, fodd bynnag nid oedd y Cynllun drafft yn cynnwys manylion ar sut y byddai llwyddiant yn cael ei fesur.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Heesom ar yr angen am ragor o eglurder, atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau bod y Cynllun drafft wedi’i wneud ar sail y Cynllun Gwella blaenorol, lle’r oedd mecanweithiau wedi'u hen sefydlu, ac wedi’u cefnogi gan strategaethau, wedi helpu i yrru perfformiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylai’r ddogfen gynnwys cyfeiriad at Brexit fel risg sylweddol posibl i ganlyniadau ar yr economi leol dros y pum mlynedd nesaf.  Awgrymodd y Prif Weithredwr bod elfennau ar yr economi leol yn y Cynllun yn gallu cael eu cryfhau a siaradodd am y trafodaethau rhanbarthol sy’n digwydd ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Holgate ar Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP), cydnabuwyd y dylai gael ei gynnwys yn y geirfa ynghyd ag unrhyw dalfyriadau.  Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i'r ddogfen yn ystyrlon ac awgrymwyd y dylid cael dolenni i'w defnyddio i helpu egluro brawddegau.

 

Awgrymodd y Cynghorydd David Wisinger ymgynghoriad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar geisiadau cynllunio ar gyfer addasiadau atic fflat un ystafell i atal gorlenwi a thrafod hyn gyda Chynllunio.  Cytunodd â’r pwynt a wnaethpwyd ynghylch Treth Y Cyngor mewn Tai Amlfeddianaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai blaen y ddogfen gyfeirio at waith ar flaenoriaethau ‘yn unol â phartneriaid hanfodol neu statudol.’  Dywedodd y Prif Weithredwr y gellir cadarnhau hyn yn ychwanegol â’r symbol ysgwyd llaw.

 

 Ailadroddodd y Cynghorydd Jones ei bryderon ar gynnwys y ddogfen gyfredol ac nid oedd yn gallu cefnogi argymhellion llawn ar y sail hynny.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod sylwadau’r Aelodau ar gynnwys y cynllun drafft yn cael eu hystyried gan y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn hysbysu'r Cabinet ei fod yn cefnogi'r strwythur, fformat a chynnwys y fersiwn 'cyhoeddus' y cynllun (Gwella) y Cyngor 2017-23 a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo maes o law; a

 

(b)       Lle bo Aelodau wedi mynegi pryderon, bydd y rhain yn cael eu hystyried gan y swyddogion.

Dogfennau ategol: