Agenda item

Cyfarwyddiaeth Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol II (MiFID II)

Rhoi cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor yngl?n â statws bresennol MiFID II er mwyn i'r Aelodau gymeradwyo bod y Gronfa'n dilyn y gweithdrefnau yn Llawlyfr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, pan gafodd ei gyhoeddi, i gael ei gydnabod fel Buddsoddwr Proffesiynol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad byr ar MIFID II ac yna trosglwyddodd yr awenau i Mr Buckland i drafod y cyflwyniad fel hyfforddiant i’r aelodau newydd, ac i’w esbonio i’r aelodau presennol.  Yna trafododd fanylion y sleidiau.

Amlygodd Mr Buckland y prif bwyntiau allweddol, gan gynnwys eu hysbysu bod cyflwyniad cyfarwyddeb MIFID II wedi’i symud yn ôl i Ionawr 2018 ac y bydd, ar bapur, yn darparu mwy o ddiogelwch i awdurdodau lleol oherwydd y byddant yn cael eu hystyried yn “Gleientiaid Manwerthu” yn hytrach na “Chleientiaid Proffesiynol”.  Fodd bynnag, bydd y “dosbarthiad Manwerthu” yn golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu cael mynediad at gynnyrch buddsoddi cymhleth yn awr.  Bydd proses i “camu i fyny” i “statws Proffesiynol”, er nad yw manylion y broses wedi’u cadarnhau eto.  Codwyd pryderon yngl?n â sut y gallai Cronfa Clwyd brofi eu bod yn cyflawni’r meini prawf i camu i fyny i fod yn gleient proffesiynol, ac effaith bosibl hynny.

Dywedodd Mr Buckland bod MIFID II hefyd yn creu goblygiadau i gyfuno oherwydd gallai rhai awdurdodau lleol yn yr un gronfa gael eu hystyried yn gleientiaid proffesiynol ac eraill yn gleientiaid manwerthu.  Nodwyd bod Jeff Houston, o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, wedi codi’r mater na allai Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus fuddsoddi mewn seilwaith fel cleientiaid manwerthu, sef un o nodau cyfuno.

Dywedodd Mr Harkin y bydd hyfforddiant mwy manwl ar fuddsoddi yn cael ei drefnu ar fuddsoddiadau ond pe byddai MIFID II yn cael ei weithredu yn unol â’i ddiben gwreiddiol, gallai hyn gael effeithiau difrifol ar gronfeydd a allai achosi i asedau gael eu gwerthu e.e. ni allai cleientiaid manwerthu fuddsoddi yn rhai o’r asedau eraill (sydd wedi’u rhestru fel asedau gwirioneddol a marchnadoedd preifat ar dudalen 15 y sleidiau).

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a fyddai Brexit yn cael effaith ar MIFID II.  Dywedodd Mr Harkin y gallai hyn greu goblygiadau yn y dyfodol ond tra bydd y DU yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd, bydd MIFID II ar waith.  Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd hyn wedi’i ymgorffori yng nghyfreithiau’r DU; dywedodd Mr Harkin, oherwydd y byddai MIFID II yn weithredol ym mis Ionawr 2018, byddai’r DU yn parhau i fod yn yr Undeb Ewropeaidd ac y byddai hyn yn effeithio arno beth bynnag.

Disgwylir i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) gyflwyno eu hymateb i’r ymgynghoriad erbyn diwedd Mehefin a’r gobaith yw y bydd y weithdrefn camu i fyny yn cael ei symleiddio ac y bydd Cronfa Clwyd mewn sefyllfa dda i wneud hyn.

Dywedodd Mr Latham bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda rheolwyr y gronfa er mwyn galluogi’r awdurdodau lleol i gael cyfres safonol o ddogfennau, ac er y bydd angen i bob Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus eu cwblhau, byddant yn ddogfennau cyson.  Yr argymhelliad yw y bydd Cyngor Sir y Fflint, yn ei rôl fel awdurdod gweinyddol Cronfa Bensiwn Clwyd yn camu i fyny i statws proffesiynol ac y bydd awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Weithredwr i ddatblygu’r broses o wneud cais gyda rheolwyr ac ymgynghorwyr y gronfa i “camu i fyny” o ran y Gronfa Bensiwn.

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a fyddai MIFID II yn digwydd yn bendant.  Dywedodd Mr Buckland nad oedd wedi clywed unrhyw beth a oedd yn gwneud iddo gredu fel arall.  Dywedodd Mr Latham bod hyn wedi cael ei symud yn ôl droeon ond mae Mr Buckland yn credu bod hyn yn digwydd er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn gywir.

Gofynnodd Mrs McWilliam y cwestiwn, er y gallai Cronfeydd benderfynu i camu i fyny, a oedd risg o hyd y byddai rheolwyr buddsoddi yn parhau i ystyried y Cronfeydd fel risg iddynt hwy a pharhau i drin Cronfeydd fel cleientiaid manwerthu e.e. cerdded i ffwrdd am nad yw’n werth y baich cydymffurfio uwch.  Cytunodd Mr Buckland, y gallai rhai rheolwyr buddsoddi bwtîc gymryd y farn hon.

PENDERFYNIAD:

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r effaith bosibl ar y strategaeth fuddsoddi o ddod yn gleient manwerthu a hynny o’r 3ydd Ionawr 2018.

(b)       Bod y Pwyllgor yn cytuno i ddechrau’r ceisiadau ar gyfer statws cleientiaid proffesiynol etholedig gyda phob sefydliad perthnasol, cyn gynted ag y bydd llawlyfr yr FCA yn cael ei gymeradwyo, er mwyn sicrhau y gall barhau i weithredu strategaeth fuddsoddi effeithiol.

(c)        Drwy ddewis statws cleientiaid proffesiynol, mae’r pwyllgor yn cydnabod ac yn cytuno i hepgor y trefniadau diogelwch sydd ar gael i gleientiaid manwerthu.

(d)       Bod y Pwyllgor yn cytuno i gymeradwyo cyfrifoldeb dirprwyedig i’r Prif Weithredwr at ddibenion cwblhau’r ceisiadau a phenderfynu ar sail y cais naill ai fel gwasanaeth llawn neu sengl.