Agenda item

Diweddariad ar Gronfa Bensiynau Clwyd.

Rhoi crynodeb lefel uchel i Aelodau'r Pwyllgor am faterion sy’n ymwneud â'r Gronfa a diweddariad ar ddefnyddio dirprwyaethau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad ar y Gronfa Bensiwn.  Dywedodd ei fod wedi lleihau’r nifer o adroddiadau o dan yr eitem hon ar yr agenda o ystyried yr aelodau newydd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ond dywedodd y byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o hyfforddiant y Pwyllgor.

Gofynnodd Mr Latham a oedd pawb ar gael ar 19 Gorffennaf ar gyfer diwrnod cyntaf yr hyfforddiant ar Lywodraethu; cadarnhaodd yr holl aelodau eu bod ar gael.  Cynhelir yr ail ddiwrnod hyfforddi yn yr wythnos yn dechrau 24 Gorffennaf, a bydd Actiwari’r Gronfa yn cynnal yr hyfforddiant hwn.

Dywedodd Mr Latham wrth y Pwyllgor bod 86% o’r Gronfa Bensiwn wedi’i hariannu ar 31 Mawrth 2017, o ganlyniad i elw cadarnhaol ar fuddsoddiadau.  Dywedodd Nikki Gemmell (Actiwari Cynorthwyol – Mercer) bod y sefyllfa ariannu wedi gwella ymhellach o’r sefyllfa a nodwyd yn y papurau – roedd y sefyllfa ariannu yn 89% ar ddiwedd Mai ac roedd wedi’i ariannu tua 90% yn y dyddiau diwethaf.  Dywedodd Kieran Harkin (Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa – Gr?p JLT) mai gwerth asedau’r Gronfa oedd £1.746 miliwn ar ddiwedd Mai.  Dywedodd Mr Latham bod y sefyllfa ariannu bresennol ar ei lefel uchaf erioed.

Tynnodd Mr Latham sylw’r Pwyllgor at y mater ar dudalennau 32/33 y papurau am eu bod yr un fath; nododd bod tudalen 32 yn anghywir.  Dywedodd bod hyn yn ymwneud â’r gwaith parhaus o fonitro Rheolwyr y Gronfa ac nad oedd unrhyw beth arwyddocaol i’w ddatgan yn y cyfarfod.

Dosbarthodd Mr Latham ddogfen gan LAPF Investments yngl?n â chyfuno a allai fod yn ddefnyddiol i’r aelodau.  Bydd Mr Latham a’r Cadeirydd yn teithio i Gaerdydd ddydd Iau i fynychu cyfarfod cyntaf y Cydbwyllgor Llywodraethu.  Gelwir Cronfa Cymru yn Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Dywedodd Mr Latham bod gwaith i’w wneud o hyd ar gyfer cynllunio Gweithlu'r Adran Weinyddol ac mae ad-drefnu adnoddau gyda chynlluniau olyniaeth a pharhad busnes yn faterion i’w trafod.  Tynnodd sylw’r Pwyllgor at Atodiad 4 sy’n dangos y strwythur presennol a’r strwythur arfaethedig ar gyfer yr adran Dechnegol.  Ychydig iawn o gostau ychwanegol fydd yn cael eu creu yn dilyn yr ailstrwythuro.

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman pwy oedd y Swyddog Datblygu Technegol Arweiniol.  Cadarnhaodd Mrs Burnham mai swydd newydd oedd hon yn y Tîm Technegol ac y bydd yn cael ei chynnwys yn y tîm presennol.  Dywedodd Mrs Burnham bod angen ailstrwythuro hyn cyn gynted â phosibl oherwydd bod rhywun yn ymddeol.  Dim ond y Tîm Technegol sy’n cael ei ystyried yn awr ond byddant yn edrych ar y tîm ehangach yn y dyfodol.

Dywedodd Ms Brooks, pe byddai’n fuddiol i aelodau newydd y Pwyllgor, roedd Bwrdd Cronfa Bensiwn Clwyd wedi edrych ar y prosesau cynllunio’r gweithlu o fewn trefniadau staffio’r Gronfa a’u bod yn cefnogi unrhyw newidiadau a fyddai’n helpu’r tîm i gyflawni gofynion y cynllun busnes.

PENDERFYNIAD:

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ac yn darparu unrhyw sylwadau

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r strwythur sefydliadol diwygiedig ar gyfer y Tîm Technegol a bod penodiad y Swyddog Technegol Arweiniol yn cael ei glustnodi.

 

Dogfennau ategol: