Agenda item

Ymateb Cyngor Sir y Fflint I Ddogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Goridor Glannau Dyfrdwy A55/A494/A548

Pwrpas:        Ystyried ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, a oedd yn cynnig ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Goridor A55/A494/A48 Glannau Dyfrdwy.

 

            Dechreuodd yr ymgynghoriad fis Mawrth 2017 ar ddau ddewis posib’ i wella ffordd allweddol Coridor Glannau Dyfrdwy o Ogledd Cymru i Loegr. Roedd manylion y ddau ddewis, y Llwybr Glas a'r Llwybr Coch, wedi'u hatodi i'r adroddiad.

 

            Yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, trafodwyd trydydd llwybr, a oedd wedi’i gynnig gan drigolion, gan gyfeirio ato fel y Llwybr Gwyrdd.  Eglurodd y Cynghorydd Thomas nad oedd hwn yn un o'r dewisiadau a oedd wedi'u cynnig gan Lywodraeth Cymru. Cynghorwyd y trigolion hynny i gyflwyno’r dewis hwnnw’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

 

            Ers anfon y rhaglen, roedd y Fforwm Busnes wedi cysylltu â’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ac wedi gofyn i fand eang cyflym iawn gael ei ddarparu yn yr ardal yn rhan o'r cynllun, a oedd wedi'i gefnogi gan yr aelodau ac a fyddai’n ffurfio rhan o’r ymateb ffurfiol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr arfarniadau a gynhaliwyd ar y ddau lwybr, a’r llwybr a ffafriwyd oedd y Llwybr Coch.  Fodd bynnag, roedd nifer o elfennau o’r Llwybr Glas yr oedd astudiaeth fewnol wedi casglu y byddent yn gwella'r rhwydwaith cyffredinol drwy eu cynnwys yn y cynllun terfynol ar gyfer y prosiect cyfan.  Felly, roedd yr astudiaeth fewnol yn argymell y dylai'r penderfyniad terfynol fod yn gyfuniad o'r ddau ddewis, a fyddai'n cynnwys gwelliannau allweddol ar hyd y llwybrau a oedd wedi'u cynnwys yn y ddau ddewis.  Bu iddo hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am roi estyniad ar ddyddiad cau’r ymgynghoriad. Gofynnwyd am hynny oherwydd yr etholiadau lleol a chan nad oedd y Cyngor wedi cyfarfod dros y cyfnod hwnnw.

 

            Croesawodd y Cynghorwyr Attridge a Jones yr adroddiad a'r cynnig am ddewis cyfun.  Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd fod angen pont newydd yn lle Pont Ddyfrdwy.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai ei bryder mwyaf oedd y traffig o Laneurgain am Helygain, lle'r oedd ciwiau rheolaidd, a phe bai'r Llwybr Coch yn cael ei ddewis, yna fe ddylid gwneud gwaith yn yr ardal honno i gynyddu'r capasiti.  Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod hyn wedi’i gynnwys yn yr ymateb fel “‘Lôn Ymlusgo ychwanegol’ ar hyd y darn o allt tua’r gorllewin ar yr A55 am Helygain’ ac fe nodwyd bod hyn yn hanfodol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cynllun a fyddai o fudd i Ogledd Cymru gyfan, gan gynnwys manteision i’r economi leol a thwristiaeth.  Cododd bryder tebyg i un y Cynghorydd Roberts, a oedd yn ymwneud â phroblemau traffig o Oakenholt i Laneurgain.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai pwyslais ar hynny yn yr ymateb terfynol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am y gwaith a wnaed ar y cynigion drwy’r arfarniadau llawn o’r dewisiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo arfarniad y Cyngor ar y dewisiadau ar gyfer y ddau lwybr arfaethedig a bod yr ymateb ffurfiol arfaethedig gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru fel y mae yn Atodiad 2; a

 

 (b)      Bod cais am fand eang cyflym iawn yn rhan o'r cynllun.

Dogfennau ategol: