Agenda item

Cylchdeithiau Casglu Gwastraff a threfniadau gweithredu newydd yn Safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y newidiadau arfaethedig i’r cylchdeithiau casglu gwastraff a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer model gweithredu newydd yn y Canolfannau Ailgylchu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol y newidiadau arfaethedig i amserlenni casglu gwastraff a'r trefniadau gweithredu newydd yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor (CAGC).  Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd canlynol, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad:-

 

  • Trwyddedau preswylwyr yn unig
  • Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr
  • Rheoli CAGC
  • Amseroedd Agor
  • Newidiadau i amserlenni casglu gwastraff ac ailgylchu

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am adroddiad cadarnhaol a chroesawodd y cynnig i gadw’r Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr.  Gwnaeth sylwadau ar y gwaith cadarnhaol a wnaeth y Tasglu yng Nglannau Dyfrdwy a gofynnodd a fyddai hyn yn cael ei gyflwyno’n raddol mewn wardiau eraill ledled y Sir.  Gofynnodd hefyd a ystyriwyd cydweithio â Menter Gymdeithasol yn y CAGC, a p’un ai oedd y cyfleuster newydd yn Oakenholt ar y trywydd iawn i agor ym mis Medi 2017.     

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol, yn dilyn llwyddiant y Tasglu yng Nglannau Dyfrdwy, y bwriedir cynnal digwyddiadau tebyg ledled y Sir i helpu lleihau gwastraff ychwanegol.  Nododd bod y Cyngor ar hyn o bryd y cydweithio â Menter Gymdeithasol mewn CAGC ar hyd a lled y Sir, a’u bod yn edrych ar ehangu’r gwasanaeth ailgylchu gyda hwy.  Hysbysodd y Prif Swyddog y dylai’r cyfleuster newydd yn Oakenholt agor ym mis Medi 2017, ond y byddai’n dod ag adroddiad pellach ger bron y Pwyllgor pe byddai unrhyw newidiadau i’r dyddiad hwn.   Cafodd y Pwyllgor sicrwydd gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai y byddai safleoedd y CAGC yn Fflint a Chei Connah yn aros ar agor hyd nes y bydd y cyfleuster newydd yn Oakenholt yn agor.   

 

            Croesawodd y Cynghorydd Richard Lloyd hefyd gadw’r Cynllun Trwyddedau Fan i Breswylwyr a gofynnodd sut y byddai’r Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig yn cael ei orfodi i sicrhau nad oeddent yn cael eu pasio i breswylwyr heb drwydded.  Eglurodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni cyn gwneud penderfyniad ar gyflwyno Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig.  Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a ellid cyflwyno gwybodaeth ffeithiol i’r Pwyllgor ar faint o bobl oedd ddim yn preswylio yn Sir y Fflint oedd yn ymweld â’r CAGC ledled y Sir cyn gwneud penderfyniad ar y Cynllun Trwydded i Breswylwyr yn Unig.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau pellach, nododd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai preswylwyr yn cael calendr 9 mis cyn bo hir, fydd yn cynnwys gwybodaeth am yr eitemau y gellir eu hailgylchu.  Nododd hefyd y byddai’n adolygu cost casgliadau gwastraff swmpus.         

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby a oedd gan y Cyngor yr adnoddau i dargedu gwastraff ychwanegol.  Nododd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod ystyriaeth yn cael ei roi i ailgyfeirio swyddogion gorfodi sydd ar hyn o bryd yn delio â thaflu sbwriel i weithio gyda pobl i’w hannog i ailgylchu a lleihau gwastraff ychwanegol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin am i Aelodau lleol gael gwybod am unrhyw breswylwyr yn eu ward fyddai’n gweld newid yn eu diwrnod casglu neu eu hwythnos gasglu.  Cytunodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol i ddarparu’r wybodaeth hon i Aelodau lleol. 

 

            Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dolphin o ran newidiadau rheolaidd i amseroedd casglu i breswylwyr, cytunodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai i ymchwilio i’r mater hwn yn dilyn y cyfarfod.

    

            Mewn ymateb i’r Cynghorydd Andy Dunbobbin, eglurodd y Prif Swyddog bod y Cyngor eisoes wedi cyflwyno polisi i godi tâl ar archfarchnadoedd am gasglu a dychwelyd trolïau.    

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Argymell y newidiadau arfaethedig i Bolisi Casglu Gwastraff y Cartref a Gweithredu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor i’r  Cabinet; ac

 

(b)       Argymell y newidiadau arfaethedig i’r amserlenni casglu gwastraff ac ailgylchu i’r Cabinet, i’w rhoi ar waith ym mis Medi, 2017.

Dogfennau ategol: