Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau ac i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndir ar yr euogfarnau.  Ymatebodd i gwestiynau a ofynnwyd gan y panel a chymerodd y cyfle i ddosbarthu tystiolaeth gefnogol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad am amrywiol agweddau o’i euogfarnau a hefyd ei gefndir cyflogaeth. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad yngl?n â pham bod yr ymgeisydd wedi methu datgelu'r holl euogfarnau ar y ffurflen gais trwyddedu oedd ond yn sôn am un, gan fod y ffurflen yn gofyn yn benodol am unrhyw drosedd.    Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn edifar bod yn euog o drosedd a oedd yn dyddio’n ôl rai blynyddoedd.  Roedd wedi tybio bod y rhain wedi darfod ac roedd yn cydnabod nad oedd wedi bod yn onest yn eu hepgor o'r cais wrth wneud cais am waith.  Hefyd rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad am amgylchiadau’n ymwneud â rhai o’r euogfarnau.  Pan ofynnwyd, ymatebodd gan ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded er gwaethaf hepgor yr euogfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais.   I gefnogi hyn, cyfeiriodd at ei gefndir gwaith fel gyrrwr, gan ychwanegu ei fod yn rhydd o euogfarnau ers sawl blwyddyn. 

 

Yn dilyn cwestiynau pellach gan y panel, eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr amrywiol drefn trwyddedu yngl?n â cherbydau o wahanol faint.

 

Gofynnwyd i gynrychiolydd o gwmni tacsi, oedd gyda’r ymgeisydd yn y cyfarfod a oeddent yn ystyried yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded ac ymatebwyd gan ddweud eu bod yn credu hynny.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’i gynrychiolydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad am yr Ymgeisydd

 

Wrth ddod i benderfyniad am yr ymgeisydd, roedd y panel wedi ystyried canllawiau’r Cyngor ar drin euogfarnau a oedd gyda’r adroddiad.    Wrth ystyried, mynegwyd pryderon am onestrwydd yr ymgeisydd gan ei fod wedi methu â datgelu ei holl euogfarnau.   Fodd bynnag, ystyriodd y panel yr amgylchiadau ym mhob achos a’r cyfnod ers yr euogfarn diwethaf, a theimlwyd bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd bod gan y panel amheuon am onestrwydd yr ymgeisydd oherwydd ei fethiant i ddatgelu’r holl euogfarnau o’r gorffennol.   Ar ôl ystyried y sylwadau gan bawb, cytunwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.