Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG

Pwrpas:        Ystyried y Cynigion canlynol gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

Tai Cyngor Newydd

 

Mae cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai wedi’i osod ar gyfer Cymru gan Lywodraeth y DU.Mae’r cap ar fenthyca yn cyfyngu ar y lefel o ddyled y gall Cyfrif Refeniw Tai Awdurdod Lleol ei grynhoi.Mae’n ffigwr artiffisial nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r capasiti o fewn cyfrifon y Cyfrif Refeniw Tai i ariannu costau refeniw benthyca.

 

Pe codir y cap ar fenthyca, gallai cynghorau adeiladu mwy o gartrefi i ddiwallu angen lleol cynyddol.

 

Mae’r cap ar fenthyca cyfredol, pan gaiff ei gymhwyso i'n Sir, yn galluogi i'r Cyngor hwn adeiladu tua 200 o dai Cyngor newydd.  Er enghraifft, gallai £25m ychwanegol o gynnydd yn y cap ar fenthyca adeiladu 200 o dai cyngor newydd ychwanegol erbyn 2020.

 

Cynnig:

 ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith a chodi cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, gan alluogi i’r Cyngor hwn adeiladu mwy o dai Cyngor a lliniaru'r argyfwng yn yr alwad am dai, tra’n cefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.’

 

Datblygu Cyngor Yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint

 

Cyngor Yr Ifanc yw sefydliad democrataidd wedi’i greu, ei gynnal a’i ddatblygu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.  Maen nhw’n bodoli er mwyn cynrychioli safbwyntiau pobl ifanc ar lefel leol, gan roi cyfle i bobl ifanc gael llais, trafod materion perthnasol, ymgysylltu â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc yn eu cymunedau.

 

Bydd datblygu Cyngor Yr Ifanc gyda chysylltiadau adrodd ffurfiol â'r Cyngor hwn yn galluogi i bobl ifanc gymryd rhan uniongyrchol yn y penderfyniadau a wneir sy’n effeithio arnyn nhw. 

 

Bydd Cyngor Yr Ifanc yn galluogi i Bobl Ifanc:

·      Leisio eu pryderon

·      Cymryd rhan mewn llywodraeth leol

·      Bod ag awdurdod i wneud penderfyniadau a chymryd camau i wella eu cymuned leol.

 

Bydd datblygu Cyngor Yr Ifanc yn galluogi i’r Cyngor Sir:

·      Gynrychioli'r gymuned gyfan

·      Dod yn fwy llewyrchus, modern a dynamig

·      Annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio a chymryd rhan mewn gwasanaeth cyhoeddus.

·      Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc


Cynnig:

 

 ‘Mae’r Cyngor hwn yn cefnogi sefydlu Cyngor Yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint er mwyn trafod materion perthnasol, ymgysylltu â’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc o fewn y Sir.'

Cofnodion:

Mae dau Rybudd o Gynnig wedi’u derbyn gan y Cynghorydd Aaron Shotton:

 

 (i)        Tai Cyngor Newydd

 

Llywodraeth y DU sy’n gosod cap ar fenthyca’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Cymru. Mae’r cap ar fenthyca yn cyfyngu lefel y ddyled y gall Awdurdod Lleol ei grynhoi yn ei Gyfrif Refeniw Tai. Mae’n ffigwr artiffisial nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r capasiti o fewn cyfrifon y Cyfrif Refeniw Tai i ariannu costau refeniw benthyca. Pe codir y cap ar fenthyca, gallai cynghorau adeiladu mwy o gartrefi i ddiwallu angen lleol cynyddol.  Mae’r cap ar fenthyca cyfredol, pan gaiff ei gymhwyso i'n Sir, yn galluogi i'r Cyngor hwn adeiladu tua 200 o dai Cyngor newydd. Er enghraifft, gallai £25m ychwanegol o gynnydd yn y cap ar fenthyca adeiladu 200 o dai cyngor newydd ychwanegol erbyn 2020.

 

Cynnig: Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith a chodi cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, gan alluogi’r Cyngor hwn i adeiladu mwy o dai Cyngor a lliniaru'r argyfwng yn yr alwad am dai, gan gefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.’

 

I gefnogi’r Cynnig hwn, siaradodd y Cynghorydd Shotton am gyflawniadau arwyddocaol y Cyngor ar adeiladu tai cyngor a helpu i sicrhau fod y system cymorthdaliadau Cyfrif Refeniw Tai yn dod i ben.  Dywedodd y byddai’r Cynnig yn galluogi Sir y Fflint i arwain ymgyrch i godi’r cap ar fenthyca yng Nghymru er mwyn caniatáu i’r Cyngor barhau i adeiladu tai o safon uchel i ateb y galw.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Arweinydd am ei Gynnig ac am ei sylwadau am system gymorthdaliadau’r Cyfrif Refeniw Tai.  Cyfeiriodd at brinder tai yn y sector preifat a’r angen am fwy o eiddo a rentir er mwyn ateb y galw.  Dywedoddfod pryder nad oedd y sector preifat yn dymuno bodloni lefel y cyflenwad tai sydd ei angen.

 

Er ei fod yn cydnabod bwriad y Cynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y ddeddfwriaeth a thynnodd sylw at y ffaith fod cyfyngiadau benthyca wedi bod yn rhan o gytundeb ar y cyd ar gyfer pob cyngor yng Nghymru sy’n cadw stoc dai.  Gan hynny, roedd yn cynnig y newid canlynol: ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i adolygu’r cap ar fenthyca'r Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, i ganiatáu’r cyfle i ystyried adeiladu mwy o dai cyngor a lliniaru’r argyfwng yn y galw am dai, gan gefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.'  Dywedodd y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i asesu pa mor fforddiadwy yw benthyca mwy unwaith y byddai'r canlyniad wedi’i gyhoeddi.

 

Dangosodd y Cynghorwyr Shotton ac Attridge eu bod yn erbyn y newid a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â lefelau benthyca a goblygiadau, esboniodd y Prif Weithredwr y model hunangyllido a weithredir gan y Cyngor a’r angen i gael gwared ar y cap ar fenthyca er mwyn parhau i adeiladu tai cyngor hyfyw.

 

Wrth gefnogi’r Cynnig, canmolodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud wrth adeiladu tai cyngor a’r tîm Tai am ei waith i fynd i’r afael â digartrefedd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cefnogaeth eang i gael gwared ar y cap ar fenthyca er mwyn cydnabod yr angen i adeiladu mwy o dai cyngor er mwyn ateb y galw cynyddol.

 

Pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Cynnig, fel y'i diwygiwyd.

 

 (ii)       Datblygu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint

 

 ‘Cyngor Yr Ifanc yw sefydliad democrataidd wedi’i greu, ei gynnal a’i ddatblygu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Maen nhw’n bodoli er mwyn cynrychioli safbwyntiau pobl ifanc ar lefel leol, gan roi cyfle i bobl ifanc gael llais, trafod materion perthnasol, ymgysylltu â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc yn eu cymunedau.  Bydd datblygu Cyngor yr Ifanc gyda chysylltiadau adrodd ffurfiol â'r Cyngor hwn yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan uniongyrchol yn y penderfyniadau a wneir sy’n effeithio arnyn nhw. 

 

Bydd Cyngor yr Ifanc yn galluogi Pobl Ifanc i:

 

·      Leisio eu pryderon

·      Cymryd rhan mewn llywodraeth leol

·      Cael eu grymuso i wneud penderfyniadau a chymryd camau i wella eu cymuned leol.

 

Bydd datblygu Cyngor yr Ifanc yn galluogi’r Cyngor Sir i:

 

·      Gynrychioli'r gymuned gyfan

·      Dod yn fwy llewyrchus, modern a deinamig

·      Annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio a chymryd rhan mewn gwasanaeth cyhoeddus.

·      Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc

 

Cynnig:

 ‘Mae’r Cyngor hwn yn cefnogi’r cynnig i sefydlu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint er mwyn trafod materion perthnasol, ymgysylltu â’r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc o fewn y Sir.'

 

Wrth ddarparu gwybodaeth gefndirol i’r Cynnig, esboniodd y Cynghorydd Shotton mai’r nod oedd sefydlu egwyddor o Gyngor yr Ifanc a symud ymlaen trwy’r Cynllun Gwella.  Roedd sawl enghraifft dda o Gynghorau yr Ifanc ledled y DU, a byddai datblygu fforwm fel hyn yn Sir y Fflint yn ychwanegu at ystod y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc leisio eu barn.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Wrth gefnogi’r Cynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd David Healey at y potensial i gynghorau tref/cymuned nodi ffyrdd o ymgysylltu â phobl ifanc i wella cydnerthu cymunedol ac i adnoddau pwrpasol ddarparu arweiniad i bobl ifanc.

 

Aelodau eraill a oedd yn cefnogi’r Cynnig oedd y Cynghorydd Heesom a groesawodd yr elfen arweinyddiaeth i ddarpariaeth pobl ifanc, a’r Cynghorydd Veronica Gay a siaradodd am ymgysylltiad cynghorau tref â phobl ifanc ar hyn o bryd.  Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylid cynnwys aelod o Gyngor yr Ifanc ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol a gwnaeth y Cynghorydd Peers awgrym yngl?n â chydlynu â Chynghorau yr Ifanc eraill.

 

Er ei fod yn cytuno â’r Cynnig mewn egwyddor, nid oedd y Cynghorydd Clive Carver yn gallu ei gefnogi ar ei ffurf presennol gan ei fod yn teimlo bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r cynnig er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cymryd rhan gynaliadwy er mwyn cyflawni’r canlyniadau cywir i bawb.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr mai’r nod oedd cytuno mewn egwyddor â Chyngor yr Ifanc fel dilyniant naturiol i'r trefniadau presennol, a byddai'r manylion yn destun trafodaeth a mewnbwn gan bobl ifanc.

 

Roedd y Cynghorydd Chris Bithell yn cefnogi’r Cynnig a oedd yn ceisio datblygu trefniadau lleol ledled y sir.

 

Pleidleisiwyd o blaid y Rhubudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhybudd o Gynnig fel y’i diwygiwyd ar gyfer Tai Cyngor Newydd yn cael ei gefnogi fel a ganlyn: ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i adolygu’r cap ar fenthyca'r Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, i ganiatáu’r cyfle i ystyried adeiladu mwy o dai cyngor a lliniaru’r argyfwng yn y galw am dai, gan gefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.'; a

 

 (b)      Bod y Rhybudd o Gynnig i ddatblygu Cyngor yr Ifanc yn Sir y Fflint yn cael ei gefnogi fel a ganlyn: ‘Mae’r Cyngor hwn yn cefnogi sefydlu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint er mwyn trafod materion perthnasol, ymgysylltu â’r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc o fewn y Sir.'