Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 10)

Pwpras:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 10) a oedd yn cynnig y sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Y sefyllfa diwedd blwyddyn a ragamcenir, heb unrhyw gamau pellach i leihau pwysau o ran costau nac i nodi arbedion effeithlonrwydd newydd, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Roedd y sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.705m; sef gostyngiad yn y diffyg o £0.095m o’r sefyllfa a adroddwyd y mis diwethaf;

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcenir yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a ragamcanwyd y byddai’r gwariant net £2.181m yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid yn £5.333m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.037m yn uwch na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2017 yn £1.061m.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod symudiadau arwyddocaol yn y gyllideb; y rhaglen effeithlonrwydd; chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau; a throsolwg o’r Cyfrif Refeniw Tai.  

 

Roedd gwaith ar gynhyrchu incwm ar y gweill ac amlygwyd y meysydd canlynol fel ffynonellau newydd o incwm yr argymhellwyd eu gweithredu:

 

·         Codi am enwi a rhifo strydoedd ac eiddo, allai gynhyrchu £0.023m yn ychwanegol pe byddai’n cael ei roi ar waith o 1 Ebrill ymlaen; a

·          Strwythur codi tâl diwygiedig ar gyfer gwasanaethau Dirprwyaeth a’r Llys Gwarchod, allai gynhyrchu £0.050m pe byddai’n cael ei roi ar waith o 1 Ebrill ymlaen.

 

Ar gronfeydd wrth gefn na chlustnodwyd, eglurodd y Rheolwr Cyllid bod diwydrwydd dyladwy ar Drosglwyddiad Ased Gymunedol (CAT) Canolfan Hamdden Treffynnon a sefydlu’r Modelau Darparu Amgen newydd yn dangos y byddai buddsoddiad un-tro o £0.050m, a gefnogodd gostau sefydlu cychwynnol a galluogi cymorth technegol terfynol, yn sicrhau arbedion sylweddol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

 

 Ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gwnaed cais i greu cronfa wrth gefn o £0.100m ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo. Byddai hwnnw’n cael ei ariannu gan danwariant cyfredol o fewn y gwasanaeth ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau buddsoddi un-tro pan gaiff y gwasanaeth ei drosglwyddo i’r Model Darparu Amgen yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni chodwyd unrhyw faterion.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017, a chefnogi’r gwaith ar gamau ac opsiynau ar gyfer camau lliniaru;

 

(b)       Nodi'r lefel terfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai;

 

(c)        Cymeradwyo’r cynigion cynhyrchu incwm ar gyfer enwi a rhifo strydoedd ac eiddo a’r gwasanaethau Dirprwyaeth a’r Llys Gwarchod;

 

(d)       Cymeradwyo cyfraniad o £0.050m o’r gronfa wrth gefn at raid i gefnogi costau sefydlu cychwynnol a chymorth technegol terfynol ar gyfer Trosglwyddo Ased Cymunedol (CAT) Canolfan Hamdden Treffynnon a’r Model Darparu Amgen; a

 

(e)       Chymeradwyo cronfa wrth gefn a glustnodwyd o £0.100m ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo a ddefnyddir i gefnogi costau buddsoddi ar gyfer y Model Darparu Amgen.

Dogfennau ategol: