Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried y cynigion canlynol:

 

(i)         Y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

Gwneud i’r Cyfrifiad nesaf gyfri ar gyfer ein cymuned Lluoedd Arfog.  Cynnig Drafft yn Cefnogi Ymgyrch ‘Count Them In’.  Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

1.    Yr hyn sy’n ddyledus i gymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint fel y nodir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; ni ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau a dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf.

2.    Diffyg ystadegau pendant a chynhwysol ar faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys personél Rheolaidd ac Wrth Gefn, cyn filwyr, a’u teuluoedd.

3.    Byddai argaeledd data o’r fath o gymorth mawr i’r Cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint.  

 

O ystyried yr uchod, mae’r Cyngor hwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo galw’r Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yn galw ar Senedd y DU a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y Cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau'n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

(ii)        Y Cynghorydd David Roney

Wrth gydnabod y rhaglen adeiladu tai Cyngor anhygoel, sy'n nodi y bydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 200 o dai dros gyfnod o 5 mlynedd.

Gofynnaf i’r Cyngor hwn osod paneli solar ar yr holl dai sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i wneud y tai hyn yn well fyth a gosod esiampl i’r diwydiant adeiladu.

Gofynnaf hefyd i’r Cyngor hwn wneud cais i Lywodraeth presennol San Steffana Llywodraethau’r dyfodol i  gynyddu'r tariff cyflenwi trydani annog mwy o ddefnydd o’r ffynhonnell ynni glân ac adnewyddadwy hon.

 

(iii)       Y Cynghorydd Helen Brown

 

Rydym ni, Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei rhoi ar waith i sicrhau mai diogelwch plant sy’n dod yn gyntaf wrth deithio i/o'r ysgol.

 

Rydym ni eisiau bod yn dawel ein meddyliau bod ein plant yn ddiogel wrth deithio i/ o’r ysgol. Rydym eisiau bysiau ysgol dynodedig gyda chyllid priodol er mwyn i blant cymwys allu derbyn cludiant ysgol diogel, pob un â gwregys diogelwch ei hun a heb orfod gorfodi unrhyw blentyn i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn. Mae’n rhaid i ddiogelwch plant ddod yn gyntaf.

 

Mae gan ein plant yr hawl i deimlo’n ddiogel. Gall fysiau cyhoeddus orlenwi ac nid yw plant yn teimlo’n ddiogel bob amser. Mae bysiau cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, nid ydynt yn bwrpasol ar gyfer defnydd ysgolion. Nid yw Cynghorau Lleol, ar hyn o bryd, yn gallu rhedeg gwasanaethau diogel, addas a phriodol ar gyfer plant ar hyd llwybrau bysiau cyhoeddus sy’n gweithredu’n fasnachol.

 

Gofynnwn i’r Cyngor hwn weithio gyda’r ddwy Lywodraeth i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i’r ddeddfwriaeth a’r ddarpariaeth gyfredol.

Cofnodion:

(1) Derbyniwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

 ‘Gwneud i’r Cyfrifiad nesaf gyfri ar gyfer ein cymuned Lluoedd Arfog.  Cynnig Drafft yn Cefnogi Ymgyrch ‘Count Them In   Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

 (i)   Fod yr hyn sy’n ddyledus i gymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint fel y nodir yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog; na ddylai cymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau a dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i unigolion sydd wedi rhoi'r mwyaf.

 

 (ii)  Diffyg ystadegau pendant a chynhwysfawr ar faint neu ddemograffig cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys personél Rheolaidd ac Wrth Gefn, cyn filwyr, a’u teuluoedd.

 

 (iii)Byddai argaeledd data o’r fath o gymorth mawr i’r Cyngor, asiantaethau partner lleol, y sector gwirfoddol a’r Llywodraeth genedlaethol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog o fewn Cyngor Sir y Fflint.

 

O ystyried yr uchod, mae’r Cyngor hwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo galwad y Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnwys pwnc newydd yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â gwasanaeth milwrol ac aelodaeth o gymuned y Lluoedd Arfog.,Rydym yn galw ymhellach ar Senedd y DU a fydd yn cymeradwyo holiadur terfynol y Cyfrifiad drwy ddeddfwriaeth yn 2019, i sicrhau y bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau'n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Cafodd pwysigrwydd y Cynnig ei gydnabod gan y Cynghorydd Aaron Shotton a siaradodd am gefnogaeth y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog drwy'r Cyfamod a'r Diwrnod Lluoedd Arfog blynyddol.  Mae’r gyfran uchaf o gyn filwyr y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru yn byw yn Sir y Fflint a byddai’r dull a nodir yn yr ymgyrch genedlaethol ‘Count Me In’ yn helpu i ddarparu data cywir ar aelodau eraill o gymunedau’r Lluoedd Arfog a fyddai’n elwa o waith y Cyfamod.  Roedd y Cynghorydd Shotton yn cydnabod fod rhannu gwybodaeth yn y Cyfrifiad yn ddibynnol ar ddewis personol ac aeth ymlaen i gyfeirio at drafodaethau cenedlaethol ar yr angen i adnabod cymunedau'r Lluoedd Arfog i alluogi targedu cefnogaeth.

 

Cytunodd y Cynghorydd Hilary McGuill gyda’r angen am gofnodi data yn gywir er mwyn targedu cefnogaeth ar gyfer y rhai yn y lluoedd milwrol a’r rhai sy’n gadael y gwasanaeth.  Ond, roedd ganddi amheuaeth ar hyn o bryd a oedd nodi unigolion o’r fath a’u lleoliadau yn y Cyfrifiad yn orfodol o ganlyniad i bryderon am ddiogelwch yr wybodaeth hon.  Nododd ei bwriad i atal ei phleidlais oni bai fod yna eglurder fod yr ymatebion i'r Cyfrifiad yn ddewisol.

 

Wrth gefnogi’r Cynnig talodd y Cynghorydd Nigel Steele-Mortimer deyrnged i waith y Lleng Brydeinig Frenhinol.  Siaradodd y Cynghorydd David Evans am yr amrediad o gefnogaeth sydd ar gael i unigolion sy’n gadael y Lluoedd Arfog, gan awgrymu y byddai eitem ar hyn yn ddefnyddiol yn y dyfodol.

 

Teimlai’r Cadeirydd mai newid diwylliant oedd y brif her wrth adael y Lluoedd Arfog, yn enwedig i’r rhai sy’n gadael gwasanaeth hirdymor.  Nododd ei gefnogaeth i’r Cynnig ac amcanion y Cyngor o ran cefnogi personél y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.

 

Pleidleisiwyd o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

 (2) Derbyniwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd David Roney

 

 ‘I gydnabod rhaglen adeiladu tai rhagorol y Cyngor, lle bydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 200 o gartrefi dros 5 mlynedd, gofynnaf i’r Cyngor hwn osod paneli solar ar yr holl dai sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i wneud y tai hyn yn well fyth a gosod esiampl i’r diwydiant adeiladu.  Hefyd gofynnaf i’r Cyngor hwn wneud cais i Lywodraeth bresennol San Steffan a Llywodraethau’r dyfodol i gynyddu'r tariff cyflenwi trydan i annog mwy o ddefnydd o’r ffynhonnell lân ac adnewyddadwy yma o ynni.

 

I gefnogi hyn cyfeiriodd y Cynghorydd Roney at y diffyg cynnydd o ran ynni adnewyddadwy a bwysleisiwyd ar lefel weinidogaethol.  Dywedodd y byddai’r costau cychwynnol yn ymwneud â gosod paneli solar i dai newydd yn darparu ynni glân a byddent yn talu amdanynt eu hunain ymhen amser.

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Dai, dywedodd y Cynghorydd Helen Brown fod y Cyngor wedi cydnabod y buddiannau ddaw o ynni adnewyddadwy ers amser, a dangosir hynny yn y buddsoddiad sylweddol mewn amrediad o gynlluniau.  Roedd y dull a fabwysiadwyd gan y Cyngor o ran blaenoriaethu'r gwaith o osod paneli solar mewn ardaloedd gwledig a byngalos i gael y budd gorau posib ac mae wedi creu cyllid sylweddol i'w fuddsoddi mewn cynlluniau ychwanegol yn ogystal â sicrhau arbedion i denantiaid.  Byddai rhaglenni ynni domestig yn y dyfodol yn ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.  Roedd Safon Tai Sir y Fflint ar gyfer tai newydd eu hadeiladu wedi ei ddatblygu gyda phartneriaid allweddol gyda ffocws penodol ar ansawdd y cynllun, defnydd ar gyfer oes gyfan a lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau CO2.  Byddai’r gost o osod paneli solar ymhob un o'r 200 o gartrefi newydd y Cyngor o fewn y rhaglen yn creu pwysau ychwanegol o ran cost o £0.5m.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Aaron Shotton y Cynnig a chynigiodd fân welliant i'r ail frawddeg i ddweud ' Gofynnaf i'r Cyngor hwn alw ar y Cabinet i osod paneli solar...' i adlewyrchu fod hyn yn benderfyniad y Cabinet.  Roedd ymrwymiad wedi ei wneud i adolygu Safon Tai Sir y Fflint i nodi gwelliannau pellach wrth i'r rhaglen fynd yn ei flaen, ac felly roedd yn amserol i’r Cabinet i dderbyn adroddiad i werthuso'r cynnydd hyd yma ac i ystyried y potensial am baneli solar ar ddatblygiadau newydd yn y dyfodol.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

Nododd y Cynghorydd Roney ei fod yn cytuno â’r gwelliant hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas nad oedd yr holl denantiaid yn derbyn y budd o’u paneli solar.  Cynigiodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i rannu gwybodaeth ac eglurodd fod paneli solar yn cynnig budd o ran yr amgylchedd yn ogystal â chynnig arbedion o ran cost tanwydd i denantiaid, yn arbennig y rhai oedd adref am gyfnodau hir yn ystod y dydd.  O ran yr olaf o’r rhain, dangosodd tystiolaeth ar draws Cymru fod nifer o breswylwyr gyda phaneli solar yn dewis cadw eu gwres am gyfnodau hirach, oedd yn golygu nad oeddent yn cael yr arbedion o ran cost tanwydd.  Ond roedd yn anodd cymharu'r buddion o ran cost o ganlyniad i brisiau tanwydd anwadal ac mae’n bosib fod angen i’r Cyngor wneud mwy o waith gyda thenantiaid o ran deall hyn.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Mike Peers gael eglurder yngl?n ag a oedd y Cynnig llawn yn ddibynnol ar benderfyniadau'r Cabinet.  Roedd ganddo bryderon y gellid ystyried y geiriad diwygiedig a awgrymwyd fel rhwymedigaeth gan y Cyngor a chynigiodd welliant gwahanol ar gyfer yr ail frawddeg oedd yn dweud 'Gofynnaf i'r Cabinet hwn ystyried gosod paneli solar...' i ystyried yr holl elfennau gan gynnwys Safon Tai Sir y Fflint, costau gosod, y cyfnod ad-dalu a’r tariff cyflenwi trydan.

 

Pan ofynnwyd iddo wneud hynny, ailadroddodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei welliant a fyddai'n galluogi'r Cabinet i dderbyn ac ystyried adroddiad ar y newidiadau i Safon Tai Siir y Flint.  Awgrymodd y Cynghorydd Peers y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu'n fwy clir wrth gynnwys y geiriau 'Cabinet’ ac ‘ystyried’.

 

Wrth ymateb awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y geiriau ‘Gofynnaf i’r Cyngor hwn alw ar y Cabinet i ystyried gosod paneli solar...’ fel geiriad priodol i ymgorffori’r pwyntiau a godwyd a bwriad y Cynnig.

 

Nid oedd y Cynghorydd Rooney yn derbyn y geiriad diwygiedig hwn gan y teimlai ei fod yn tynnu oddi wrth ei Gynnig.  Nododd ei fod yn cytuno â'r diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peers y geiriad a awgrymwyd gan y Prif Swyddog fel gwelliant ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gareth Roberts.

 

Wrth gefnogi’r gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers, pwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones bwysigrwydd ystyried yr holl faterion yn ymwneud â hyn er mwyn sicrhau’r canlyniadau cywir o ran paneli solar. Am resymau tebyg cefnogodd y Cynghorydd Glyn Banks y gwelliant hefyd gan nodi safle’r eiddo fel prif ffactor.

 

Wrth siarad ar yr un gwelliant, cytunodd y Cynghorydd Aaron Shotton ag egwyddorion y Cynnig oedd yn ychwanegu at record eang y Cyngor ar brosiectau ynni.  Eglurodd fwriad ei welliant ei hun i alluogi adolygiad llawn gan y Cabinet ar y mater a dywedodd fod ail ran y Cynnig yn benderfyniad y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gosod paneli solar ar gartrefi newydd yn benderfyniad y Cabinet ac y byddai adroddiad cytbwys yn cael ei ystyried a fyddai’n ystyried yr holl ffactorau.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Derek Butler egwyddor y Cynnig a fyddai’n cael ei ystyried yn llawn gan y Cabinet.  Dywedodd y Cynghorydd Nancy Matthews y dylai sylw’r Cynghorydd Banks ar wynebwedd y tai newydd ffurfio rhan o’r Cynnig.

 

Pleidleisiwyd o blaid y gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers a daeth yn Gynnig parhaol.

 

Cyn dechrau’r eitem nesaf, gadawodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yr adeilad a dychwelodd yn dilyn y drafodaeth.

 

(3)  Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Helen Brown

 

 ‘Rydym ni Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd i sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei roi mewn grym i sicrhau mai diogelwch plant sy’n dod yn gyntaf wrth deithio i ac o'r ysgol.

 

Rydym ni eisiau bod yn dawel ein meddyliau bod ein plant yn ddiogel wrth deithio i ac o’r ysgol. Rydym eisiau bysiau ysgol dynodedig gyda chyllid priodol er mwyn i blant cymwys allu teithio’n ddiogel i ac o’r ysgol, pob un â gwregys diogelwch ei hun, a heb orfodi unrhyw blentyn i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn. Mae’n rhaid i ddiogelwch plant ddod yn gyntaf.

 

Mae gan ein plant yr hawl i deimlo’n ddiogel. Gall bysiau cyhoeddus orlenwi ac nid yw plant bob amser yn teimlo’n ddiogel. Mae bysiau cyhoeddus ar gyfer defnydd cyhoeddus, nid ydynt yn bwrpasol ar gyfer defnydd ysgol. Nid all Cynghorau Lleol ar hyn o bryd gynnal gwasanaethau diogel, addas a phriodol ar gyfer plant ar hyd llwybrau bysiau cyhoeddus sy’n gweithredu’n fasnachol.

 

Gofynnwn i’r Cyngor hwn weithio gyda’r ddwy Lywodraeth i sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i’r ddeddfwriaeth a’r ddarpariaeth gyfredol.’

 

Wrth ddarparu gwybodaeth gefndir talodd y Cynghorydd Brown deyrnged i ddewrder Lynne Chick am ei hymgyrch ddiogelwch er cof am ei merch Louise Oldfield a fu farw mewn damwain fws.  Galwodd am gefnogaeth Aelodau i geisio sicrhau newid yn y ddeddfwriaeth a darpariaeth cyllid ar gyfer bysiau ysgol dynodedig, gan ddweud fod trafodaethau’n cael eu cynnal ar wneud gyrwyr bysiau masnachol yn ddarostyngedig i’r un gwiriadau â'r rhai gaiff gytundeb gan yr awdurdodau lleol.  Eiliwyd y Cynnig.

 

Fel Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, croesawodd y Cynghorydd Bernie Attridge y cyfle i ymdrin ag anghysonderau yn y sefyllfa statudol bresennol ar gludiant ysgol ac i geisio cael cysondeb ar wiriadau, hyfforddiant a'r disgwyliadau ar faterion diogelwch oedd eisoes yn berthnasol i yrwyr tacsi cofrestredig.  Wrth gefnogi’r Cynnig, aeth ati i gydnabod amcanion yr ymgyrch a arweiniwyd gan Lynne Chick yn blaenoriaethu diogelwch a lles plant a phobl ifanc.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Owen Thomas y Cynnig a theimlai y dylai hefyd ymgorffori llwybrau diogel i’r ysgol a diogelwch gyrwyr bws. Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y rhain yn faterion ar wahân ac na ddylent ffurfio rhan o’r Cynnig.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Richard Jones, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod geiriad y Cynnig, yn arbennig yn y frawddeg olaf, yn awgrymu y byddai'r amcan o weithio gyda'r ddwy Lywodraeth yn cynnwys ceisio'r cyllid angenrheidiol i gefnogi unrhyw newidiadau.

 

Pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y Rhybudd o Gynnig ar gefnogi’r ymgyrch genedlaethol ‘Count Them In' yn cael ei gefnogi;

 

 (b)      Fod y Rhybudd o Gynnig diwygiedig i alw ar y Cabinet i ystyried gosod paneli solar yn cael ei gefnogi; a

 

 (c)      Bod y Rhybudd o Gynnig ar gyllid ar gyfer cludiant ysgol dynodedig yn cael ei gefnogi.