Agenda item

Polisi Gorfodaeth Cynllunio a Dull Gweithredu

Pwrpas:   Ystyried y newidiadau arfaethedig i'r polisi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Polisi Gorfodi Cynllunio drafft am ymgynghoriad cyn ei fabwysiadu’n ffurfiol ac i rannu manylion yr ymgynghoriad gorfodi yn y dyfodol. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i wella dulliau cyfathrebu a hygyrchedd i gyflawni system gorfodi cynllunio mwy effeithiol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod adolygiad y polisi wedi cael ei gydlynu gydag ail-strwythuriad arfaethedig y tîm Rheoli Datblygiadol a chafodd ei lywio gan newidiadau mewn deddfwriaeth a chanlyniadau adroddiad Adain Archwilio Mewnol diweddar i’r swyddogaeth orfodi.  Crynhowyd prif newidiadau'r polisi gan y Rheolwr Datblygu, a esboniodd hefyd y byddai’r gwaith ail-strwythuro yn galluogi i adnoddau gael eu defnyddio mewn ffordd wahanol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas, cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at heriau ceisiadau cynllunio ôl-weithredol, ond cynghorodd y byddai’r gwaith ail-strwythuro arfaethedig yn cryfhau’r broses dracio ar geisiadau o'r fath, ac amserlenni y tu allan lle byddai unrhyw ddatblygiad yn cael ei eithrio rhag camau gorfodi posibl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid yr argymhellion a gofynnodd am y dyddiad gweithredu.  Esboniwyd bod y rhan fwyaf o gamau yn digwydd yn y mis cyfredol, gyda’r cyfnod ymgynghori ailstrwythuro eisoes ar waith, tra byddai camau eraill, megis newidiadau i feddalwedd TG yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans i'r polisi gynnwys darpariaeth i'r swyddog achos drafod ei benderfyniad ar gamau gorfodi gyda’r aelod lleol ac i’r wybodaeth hon fod ar gael.    Cydnabuwyd pwysigrwydd ymgysylltu ag Aelodau lleol gan swyddogion a ddywedodd y gall adroddiadau buddioldeb, yn cynnwys penderfyniadau gorfodi, ddod yn hygyrch i'r cyhoedd yn y dyfodol.  O ran anhysbysrwydd cwynion, byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus pe bai'r gofrestr cwynion gorfodi yn dod ar gael ar y wefan.     Byddai effaith unrhyw absenoldebau hirdymor ar lwythi achos swyddog yn cael ei leihau gan yr ymgynghoriad ailstrwythuro a’r gwaith achos, gyda gwybodaeth gorfodi wedi’i ymestyn ar draws y tîm cyfan.    Byddai amserlenni ar gyfer ymweliadau safle â gwersylloedd sipsi/teithiwr anawdurdodedig (fel y cyfeirir atynt yn y polisi) yn cael eu diwygio os bydd y tir yn eiddo i'r Cyngor. Os byddai’r gwersyll ar dir y Cyngor, cydnabuwyd mai'r dull gweithredu cyflymaf fyddai drwy ein rôl fel perchennog tir, yn hytrach na thrwy orfodaeth cynllunio.

 

Yn dilyn sylw gan y Cynghorydd Cindy Hinds, esboniwyd y byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i wella’r gwaith o gofnodi ac olrhain cwynion er mwyn sicrhau bod yr achwynydd yn cael ymateb ysgrifenedig, a chopi'n cael ei anfon at yr Aelod lleol.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Veronica Gay, cytunodd y Rheolwr Datblygu i egluro ‘cwynion ysgrifenedig’ yn y polisi, a chynnwys arwyddion cryfach ar adrannau perthnasol y tu allan i’r adran Gynllunio, er enghraifft Tai neu Briffyrdd.    Rhoddodd fanylion am y feddalwedd TG newydd hefyd, sy’n rhyngweithio ag amserlen calendr i gofnodi unrhyw amserlenni cynyddol yn awtomatig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y nifer o achosion lle na ellid cymryd camau gorfodi oherwydd bod y terfyn amser wedi’i dorri. Nodwyd y byddai’r trefniadau newydd yn gwella tryloywder ar achosion caeedig ac y byddai’r wybodaeth hon ar gael yn yr adroddiadau buddioldeb.

 

Cytunodd swyddogion i ddarparu rhifau ffôn cyswllt ar gyfer timau’r Gogledd a’r De, ar ôl i’r rhain gael eu recriwtio, yn ôl cais y Cadeirydd.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Polisi Gorfodi Cynllunio diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad yn amodol ar y Cabinet yn ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor.

Dogfennau ategol: