Agenda item
Goddefebau
Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Cofnodion:
Ar ôl cyhoeddi'r rhaglen, derbyniwyd pedwar cais am oddefeb gan y Cynghorydd Sir - Clive Carver, Cynghorydd Cymuned Mostyn - Peter Gibbons, Cynghorydd Cymuned Mostyn -Angela Tattum a Chynghorydd Cymuned Mostyn – David Roney. Eglurodd y Cadeirydd bod y goddefebau gan Gynghorwyr Cymuned Mostyn yr un fath, felly byddent yn cael eu trafod gyda'i gilydd.
Cynghorydd Sir - Clive Carver
Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried cais am oddefeb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir, Clive Carver, "er mwyn gallu cyfathrebu, yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu'n bersonol, gyda Chlerc Cyngor Cymuned Penarlâg ac er mwyn gallu trafod y mater gyda Chynghorwyr Cymuned eraill Penarlâg, yn a thu allan i gyfarfodydd Cyngor Cymuned Penarlâg, yn enwedig gan fod pedwar o Gynghorwyr Cymuned Penarlâg ar Bwyllgor Rheoli Sefydliad Penarlâg".
Eglurodd y Cynghorydd Carver bod yr oddefeb yn ymwneud â gwaith i Siambr y Cyngor yng Nghyngor Cymuned Penarlâg. Roedd yn aelod o Gyngor Cymuned Penarlâg a oedd yn rhentu Siambr y Cyngor gan Sefydliad Penarlâg ac roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli ar gyfer y corff. Yn dilyn cynnydd yn nifer Cynghorwyr Ward Ewloe o bedwar i saith yn dilyn etholiadau mis Mai 2017, penderfynwyd yn flaenorol y dylid archwilio'r dull gorau o ddarparu lle ar gyfer yr Aelodau ychwanegol yn Siambr y Cyngor, ac yn ddelfrydol y dylid cyflawni'r gwaith fel y byddai'n barod ar gyfer y cyfarfod yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ei ddealltwriaeth oedd y byddai'r Cyngor Cymuned yn arwain y gwaith dylunio a byddent yn ymgynghori â'r Pwyllgor Rheoli yngl?n â chynlluniau'r gwaith. Roedd y broses wedi oedi ac yn anodd ei symud ymlaen.
Ceisiodd y Swyddog Monitro ychydig o eglurder ar ba sail yr oedd y Cynghorydd Carver wedi'i benodi i gorff Sefydliad Penarlâg. Eglurodd y Cynghorydd Carver ei fod wedi'i benodi gan Gyngor Cymuned Penarlâg yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Yn dilyn yr eglurhad hwnnw, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y Cynghorydd Carver angen goddefeb gan fod paragraff 12(2)(a)(iii) o God Ymddygiad yr Aelodau yn golygu fod ei gysylltiad yn un personol ac nid yn un sy'n rhagfarnu. Roedd hyn oherwydd ei fod wedi'i benodi i'r corff gan y Cyngor Cymuned. Ychwanegodd pe bai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â'r gwaith yna ni fyddai'r eithriad hwn yn berthnasol. Byddai llythyr yn cael ei anfon at y Cynghorydd Carver gan y Swyddog Monitro gan ddarparu manylion a fyddai'n cynnig amddiffyniad digonol pe bai'r angen ac yn egluro'r sefyllfaoedd lle na fyddai'r eithriad yn berthnasol.
Cynghorwyr Tref Mostyn - Peter Gibbons, Angela Tattum a David Roney
Ar ôl datgan cysylltiad yn y rhan hon o'r eitem, gadawodd y Cynghorydd Heesom yr ystafell.
Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro fanylion am gefndir y ceisiadau ar gyfer eitem ar raglen Cyngor Cymuned Mostyn a oedd yn ceisio cyllid cyfatebol ar gyfer Gr?p Chwaraeon a Hamdden Mostyn (rhif elusen 1170389) gyda 70% pellach gan Cadwyn Clwyd i sicrhau cais am grant LEADER o'r rhaglen datblygu gwledig. Roedd y tri Cynghorydd Cymuned yn ymddiriedolwyr. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro pan gyflwynwyd yr eitem i'w thrafod yng nghyfarfod y Cyngor Cymuned yn ddiweddar, bu'n rhaid gohirio'r eitem gan nad oedd digon o wybodaeth ar gael oherwydd bod y tri Aelod wedi datgan cysylltiad personol sy'n rhagfarnu ac wedi gadael yr ystafell. Cadarnhaodd mai'r paragraffau perthnasol ar gyfer y goddefebau oedd (f) a (h).
Siaradodd y Cynghorydd Woolley a Mr Dewey o blaid y ceisiadau gan na fyddai modd trafod yr eitem oherwydd diffyg gwybodaeth, pe na roddir y goddefebau.
PENDERFYNWYD:
Cynghorydd Sir - Clive Carver
Bod llythyr yn cael ei anfon at y Cynghorydd Carver yn nodi nad oedd ei gysylltiad yn un sy'n rhagfarnu ac i ddarparu manylion iddo a fyddai'n darparu amddiffyniad digonol pe bai'r angen. Byddai'r sefyllfaoedd lle na fyddai'r eithriad yn berthnasol hefyd yn cael eu hegluro.
Cynghorydd Cymuned - Peter Gibbons
Y rhoddir goddefeb i'r Cynghorydd Cymuned Peter Gibbons o dan baragraffau (f) a (h) o Reoliadau'r Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ac/neu ateb cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Mostyn mewn perthynas ag eitemau ar y rhaglen ar gyfer cyllid cyfatebol ar gyfer Gr?p Chwaraeon a Hamdden Mostyn, ac i adael yr ystafell yn ystod y drafodaeth a phan bleidleisir ar y mater. Hefyd i siarad â swyddogion ar yr amod bod tyst a fyddai'n sicrhau bod o leiaf tri pherson yn bresennol, a bod cofnod yn cael ei gadw o'r sgwrs.
Cynghorydd Cymuned - Angela Tattum
Y rhoddir goddefeb i'r Cynghorydd Cymuned Angela Tattum o dan baragraffau (f) a (h) o Reoliadau'r Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ac/neu ateb cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Mostyn mewn perthynas ag eitemau ar y rhaglen ar gyfer cyllid cyfatebol ar gyfer Gr?p Chwaraeon a Hamdden Mostyn, ac i adael yr ystafell yn ystod y drafodaeth a phan bleidleisir ar y mater. Hefyd i siarad â swyddogion ar yr amod bod tyst a fyddai'n sicrhau bod o leiaf tri pherson yn bresennol, a bod cofnod yn cael ei gadw o'r sgwrs.
Cynghorydd Cymuned - David Roney
Y rhoddir goddefeb i'r Cynghorydd Cymuned David Roney o dan baragraffau (f) a (h) o Reoliadau'r Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ac/neu ateb cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Mostyn mewn perthynas ag eitemau ar y rhaglen ar gyfer cyllid cyfatebol ar gyfer Gr?p Chwaraeon a Hamdden Mostyn, ac i adael yr ystafell yn ystod y drafodaeth a phan bleidleisir ar y mater. Hefyd i siarad â swyddogion ar yr amod bod tyst a fyddai'n sicrhau bod o leiaf tri pherson yn bresennol, a bod cofnod yn cael ei gadw o'r sgwrs.